Agenda item

CRONFA CYCHWYN BUSNES/TWF BUSNES SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

 

Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).

 

Roedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, roedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth hon yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.

 

Yn dilyn cofnod 3 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018 ystyriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:

 

Cronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

A & J Partners Ltd. T/A Harry Watkins                                          £1090.37

Mesen                                                                                             £2331.20

MusicHeadquarters Ltd                                                                 £9,587.16

 

Cronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin

Ymgeisydd                                                                                      Dyfarniad

Thomas & Thomas Plant and Tool Hire                                         £5,000.00

Williams Marine                                                                              £10,000.00

Preseli Bluestone Meats                                                                 £10,000.00

Rock The Dragon                                                                           £5000.00

Treharne Automotive Engineering Ltd                               £10,000.00

Fferm Trefin                                                                                    £9,000.00

 

Dogfennau ategol: