Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD DORIAN WILLIAMS I'R CYNGHORYDD LINDA EVANS, AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS TAI

Roedd y Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy a grëwyd gan y weinyddiaeth hon yn 2016 yn pennu targed clir ac uchelgeisiol iawn, sef darparu mwy na 1,000 o dai ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf. Pa gynnydd a wnaed hyd yma?

Cofnodion:

“Bu i'r Cynllun Darparu Tai Fforddiadwy a sefydlwyd gan y weinyddiaeth hon yn 2016 bennu targed clir ac uchelgeisiol iawn o ddarparu mwy na 1,000 o dai ychwanegol dros y pum mlynedd nesaf. Pa gynnydd sydd wedi'i wneud hyd yn hyn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai:-

 

Diolch i'r Cynghorydd Williams am eich cwestiwn. Mae'n gwestiwn perthnasol iawn, ac mae'n rhoi cyfle i mi dynnu sylw at y gwaith gwych sydd wedi cael ei wneud (ac a fydd yn dal i gael ei wneud) i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yn y sir.

 

Yn ôl yn 2016 pennwyd targed uchelgeisiol gan y weinyddiaeth hon i ddarparu mwy na 1,000 o dai fforddiadwy ychwanegol erbyn 2021. Erbyn hyn mae dwy flynedd ers cychwyn y rhaglen, ac, yn ogystal â bod ar y trywydd iawn i gyrraedd y targed, rwyf yn falch iawn o allu dweud ein bod yn hyderus y bydd nifer y tai newydd yn sylweddol uwch na'r hyn fwriadwyd gennym i ddechrau. Rwyf yn hyderus y gallwn ddarparu mwy o ddewis drwy gynyddu nifer yr opsiynau ar gyfer rhentu cartrefi a chartrefi sydd ar werth ar draws y sir. Hyd yma, rydym wedi darparu bron 550 o dai fforddiadwy ychwanegol yn y sir, gan wneud hynny drwy brynu tai yn y sector preifat, ailddechrau defnyddio eiddo gwag, a rheoli cartrefi rhent preifat ychwanegol ar gyfer landlordiaid, cartrefi newydd drwy weithio gyda chymdeithasau tai a chartrefi fforddiadwy fel rhan o ddatblygiadau mwy. Dros y tair blynedd nesaf, ein bwriad yw darparu 700 yn rhagor o dai drwy ddefnyddio'r dulliau hyn. Rwyf yn si?r eich bod wedi sylwi nad yw'r ffigurau hyn yn cynnwys ein cynlluniau i adeiladu cartrefi newydd, ond gallaf eich sicrhau bod y datblygiadau hyn yn mynd rhagddynt. Bydd yr adeiladwyr yn gweithio ar safle Garreglwyd ym Mhen-bre dros yr wythnosau/misoedd nesaf a bydd datblygiad Dylan, yn y Bryn yn dilyn cyn Nadolig. Bydd y datblygiadau hyn yn darparu bron 50 o dai cyngor newydd i'w rhentu. Rwyf yn si?r bod rhai ohonoch chi, fel Aelodau, wedi clywed yn ddiweddar am y bwriad i lacio rheolau'r Cyfrif Refeniw Tai. Mae hyn yn golygu y byddwn o bosibl yn gallu cael benthyg mwy o arian i adeiladu mwy o dai cyngor. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn datblygu rhaglen uchelgeisiol i sicrhau ein bod yn gallu manteisio ar hyn, a chyn bo hir byddaf yn cyhoeddi manylion y rhaglen honno i chi yn y Cyngor. Bydd Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi creu cwmni tai newydd, sef Cartrefi Croeso. Bydd pum cant o dai yn cael eu darparu dros y pum mlynedd nesaf, ac mae'r cwmni eisoes wedi paratoi cynlluniau mewn saith lleoliad gan gynnwys datblygiadau mewn ardaloedd gwledig. Bydd y cwmni yn darparu ystod o opsiynau, a fydd yn addas i anghenion yr ardal. Un enghraifft yw tai mewn ardaloedd gwledig a fydd yn fforddiadwy i'w prynu, er mwyn helpu pobl leol i aros yn eu hardaloedd lleol. Mae'n amlwg felly ein bod yn cymryd camau breision er mwyn diwallu'r anghenion o ran tai fforddiadwy ar draws y sir. Mae cynlluniau hefyd i gefnogi ein bwriad i adfywio canol tref Llanelli, Rhydaman a Chaerfyrddin. Hefyd datblygiadau gwledig ac ardaloedd megis Heol yr Orsaf yn Llanelli lle mae angen newid tenantiaeth. Bydd yr holl bethau hyn yn cael effaith sylweddol. Nid yn unig y byddant yn helpu pobl i fyw mewn tai fforddiadwy, y mae mawr eu hangen, ond byddant yn cael effaith ehangach ar iechyd a llesiant pobl ac yn creu swyddi. Rydym wedi buddsoddi £25m yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ac rydym am fuddsoddi llawer mwy yn y blynyddoedd i ddod. Er bod yr hyn rydym wedi ei wneud mewn cyfnod byr wedi bod yn llwyddiant mawr, mae'n amlwg nad ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau. Byddwn yn parhau i fod yn arloesol ac rydym yn gweithio'n galed i ddarparu cynifer o gartrefi â phosibl, a hynny yn yr ardaloedd lle mae eu hangen drwy sicrhau bod yr hyn a ddarperir yn iawn ar gyfer yr ardal. Hoffwn achub ar y cyfle i ddiolch i'r holl staff o'r gwahanol adrannau yn y Cyngor sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau ein bod wedi cyrraedd y man hwn. Diolch i chi i gyd. Mae ein cynllun tai fforddiadwy fel llyfr i mi. Mae'n llyfr sy'n llawn storïau cyffrous. Roeddem wedi dylunio clawr y llyfr hwn ddwy flynedd yn ôl. Roedd y clawr yn eithaf lliwgar gyda llawer o dai. Mae'n llyfr sy'n cynnwys stori gyffrous. Rwyf ond wedi adrodd i chi benodau cyntaf y llyfr hwnnw, ac mae llawer mwy o benodau i ddod yn y stori hon, ac rwyf yn edrych ymlaen at adrodd pennod arall i chi yn y dyfodol agos. Diolch”.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Williams y cwestiwn atodol canlynol:-     

 

“Mae gennyf gwestiwn yn seiliedig ar y ffigurau a grybwyllwyd gennych yn eich ymateb. Wrth deithio drwy Sir Gaerfyrddin rydym yn gallu gweld cynifer o dai gwag, y mae rhai ohonynt wedi bod yn wag ers blynyddoedd ac mewn cyflwr gwael. Felly a allaf ofyn, ac rwyf yn cyfeirio at y ffigur a grybwyllwyd, o blith y 550 o dai fforddiadwy sy'n cael eu defnyddio unwaith yn rhagor bellach, faint ohonynt oedd wedi bod yn wag ers blynyddoedd lawer?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans – Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai:-

 

Gallaf gyhoeddi hynny heddiw, ac mae'n bleser gennyf gyhoeddi hyn. Cyn fy mod yn gwneud hynny, a allaf ddweud wrthych faint o eiddo gwag sy'n cael eu hailddefnyddio. Mae'r broses o ddechrau defnyddio eiddo gwag unwaith eto yn dipyn o waith ynddo'i hun. Y ffordd hawsaf yw prynu tai a'u gwneud yn fforddiadwy a phrynu tai sy'n addas ar gyfer yr ardal. Fodd bynnag, gall y broses o ddelio ag eiddo gwag fod yn hir gan fod llawer o bethau yn gysylltiedig â'r broses megis materion cyfreithiol ac ati. Ond y newyddion da yw bod gennym swyddogion rhagorol yn yr adran hon, ac yn 2018/19 dechreuwyd ailddefnyddio 184 eiddo gwag a'r llynedd y ffigur oedd 174. Gallwn gymharu hynny â 2010, pan oedd y ffigur yn 59. Felly mae'r adran a'r gwaith yn gweithio'n dda iawn, a byddwn yn parhau i wneud hynny ac i sicrhau bod eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto, oherwydd rydym i gyd yn gwybod bod t? gwag mewn pentref neu stryd yn ddolur llygad ac nad yw'n dda i'r amgylchedd ychwaith. Felly rydym yn adeiladu tai newydd, ond yn sicrhau hefyd fod eiddo gwag yn cael eu defnyddio unwaith yn rhagor, a gall y Cyngor helpu pobl i wneud hynny. Felly os ydych yn gwybod am bobl sydd ag eiddo gwag, ewch atynt a'u hannog i gysylltu â'r Cyngor. Mae'n bosibl cael benthyciad ariannol i ailddechrau eu defnyddio. Diolch i chi.