Soniodd
Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth bawb a oedd yn bresennol am
drefn y cyfarfod, gan ddweud wrth yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod
i law gan Mr Cefin Llywellyn Evans, am amrywio'r drwydded safle ar
gyfer Tafarn y Pelican, Stryd y Sycamorwydden, Castellnewydd Emlyn
SA38 9AP fel a ganlyn:-
·
"Darparu Lluniaeth Hwyrnos
dydd Sul i ddydd Iau 23:00-00:00;
Dydd
Gwener a dydd Sadwrn 23:00-02:30.
·
Cyflenwi Alcohol dydd Gwener
a dydd Sadwrn 10:00-02:00.
- Oriau Agor dydd Gwener a dydd Sadwrn
10:00-02:30.”
Nododd
yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr
adroddiad:-
Atodiad
A - copi o'r cais a 2 lythyr o gefnogaeth;
Atodiad
B – copi o'r drwydded safle bresennol;
Atodiad
C – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod
Trwyddedu;
Atodiad
B – sylwadau gan Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys;
Atodiad
E - sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.
Nid oedd yr Awdurdodau Cyfrifol eraill wedi
gwneud unrhyw sylwadau mewn perthynas â'r cais.
Yn
ogystal â'r uchod, derbyniodd yr Is-bwyllgor, â
chaniatâd yr holl bartïon, fap Geo-Discover o Stryd y
Sycamorwydden a'r ardal gyfagos, gan gynnwys safle Tafarn y
Pelican, a oedd wedi'i nodi gan gefnogwyr a
gwrthwynebwyr.
Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth i'r dogfennau a gyflwynwyd,
a'r holl sylwadau ysgrifenedig perthnasol a gafwyd cyn y
gwrandawiad gan y partïon.
Cyfeiriodd Cynrychiolydd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys at ei
gyflwyniad, fel y manylir arno yn Atodiad D i'r adroddiad a
dywedodd y canlynol:-
- Roedd wedi cysylltu â Swyddog Cymorth Cymunedol yr
Heddlu Castellnewydd Emlyn, Rhingyll y Tîm Plismona Bro a'r
Swyddog Trwyddedu o Aberteifi i gael eu barn ynghylch y cais. Roedd
hefyd wedi cwrdd â'r ymgeisydd a'r tenant ar y safle ym mis
Mehefin i drafod y cynlluniau.
- O ganlyniad i'r trafodaethau a'r ymweliad dilynol, roedd wedi
ysgrifennu at yr ymgeisydd ar 7 Awst 2018 gan roi gwybod iddo, er
nad oedd gwrthwynebiad ffurfiol gan yr Heddlu i'r amrywiad, fod yr
Heddlu o'r farn bod hyrwyddo'r Amcanion Trwyddedu i gynnwys nifer o
amodau ychwanegol fel yr amlinellir yn y llythyr (gweler Atodiad D
i'r adroddiad) yn nhrwydded y safle yn angenrheidiol ac yn briodol
oherwydd yr oriau hwyrach y gwnaed cais amdanynt, pe byddai'r
Is-bwyllgor am gymeradwyo'r cais am amrywiad.
- Dywedodd yr ymgeisydd y byddai'n cynnwys pwynt 19 o'r amodau
yn wirfoddol, sef "Ni fydd neb yn cael mynd i mewn i'r safle na
mynd yn ôl i mewn i'r safle ar ôl hanner
nos."
- Roedd yr Heddlu o'r farn bod rhaid i Oruchwylydd Penodedig y
Safle, sydd â thrwydded bersonol, reoli'r safle o ddydd i
ddydd. Ar hyn o bryd, nid oedd gan y tenant drwydded bersonol ac ni
allai Mr Evans, a oedd yn Oruchwylydd Penodedig y Safle ar y pryd,
fod ar y safle'n rheolaidd. Fodd bynnag, roedd gan unigolion eraill
a oedd yn gweithio ar y safle drwyddedau personol.
- Roedd yna un safle arall yn y dref a oedd ar agor tan 2am.
Roedd yr Heddlu yn fodlon ar y drwydded 2am gan y byddai hyn yn deg
ac yn gyson â safleoedd trwyddedig eraill yn yr ardal ac y
byddai'n atal pobl rhag symud.
- Nid oedd hanes o droseddau ac anhrefn ar y safle. Roedd 1 neu
2 alwad wedi'u gwneud dros y blynyddoedd ond nid oedd dim wedi peri
pryder.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi Mr
Price, cynrychiolydd Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys ynghylch ei
sylwadau.
- Mewn ymateb i ymholiad, cadarnhaodd Mr Price rôl
Awdurdod Heddlu Dyfed-Powys a'r cymwysterau
angenrheidiol.
- Mewn ymateb i ymholiad ynghylch oriau gwaith Swyddogion
Cymorth Cymunedol yr Heddlu, cadarnhaodd Mr Price nad yw'r
Swyddogion yn gweithio ar ôl 10.00pm ac felly nad ydynt ar
ddyletswydd ar amserau hanfodol. Fodd bynnag, mae'r Swyddog yn
ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd.
- Esboniodd Mr Price fod y safle trwyddedig o'r enw 'The Bunch
of Grapes' ar agor tan 2.00am ac roedd nifer o faterion wedi codi
ynghylch problemau s?n ac ymddygiad gwrthgymdeithasol. Cydnabuwyd
nad oedd y materion hyn mor wael â'r rheiny y byddwch yn eu
cael mewn tref fwy, ond roeddent yn sylweddol mewn tref fach megis
Castellnewydd Emlyn. Er mwyn rheoli'r materion, roedd angen rhoi
cynllun rheoli ar waith. Yn ogystal, mae'r Heddlu o'r farn y gall
oriau agor hwyrach yn Nhafarn y Pelican helpu i leihau'r
problemau.
- Gofynnwyd sut y byddai'r Heddlu'n delio â dau safle ag
oriau agor hwyr. Dywedodd Mr Price y byddai dau safle sy'n cau'n
hwyr yn y dref yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n symud ac y
byddai'r Heddlu'n addasu'n unol â hyn.
- Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd Mr Price nad oedd gan The
Bunch of Grapes amod ynghylch cau'r drws i gwsmeriaid newydd.
Felly, roedd cwsmeriaid yn gallu mynd i mewn unrhyw bryd hyd at
2am.
Yna cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan
barti â buddiant a oedd yn gwrthwynebu'r cais am amrywio'r
drwydded safle am y rhesymau y manylir arnynt yn Atodiad E i'r
adroddiad a dywedwyd y canlynol ganddo:
- Mae hi'n byw ger Tafarn y Pelican ac roedd hi wedi tybio bod
ganddynt drwydded hyd at 1.00am.
- Nid yw'n gwrthwynebu'r drwydded rhwng dydd Llun a dydd Gwener
gan ei bod wedi arfer â hyn, er y cafwyd rhai problemau o ran
cerddoriaeth mae hi wedi addasu ei bywyd i allu ymdopi gan ei bod
yn byw yn agos i'r dafarn.
- Yn benodol mae hi'n gwrthwynebu'r amser cau hwyr am 2.30am gan
fod hyn eisoes yn broblem y mae hi'n gweithio o'i
hamgylch.
- Mae tacsis yn broblem ychwanegol gan eu bod yn aros y tu allan
heb ddiffodd eu hinjans sy'n achosi niwsans s?n. Yn aml mae hi'n
mynd i'r gwely'n hwyr er mwyn osgoi cael ei dihuno.
- Roedd y modd yr oedd y safle'n cael ei reoli eisoes yn
effeithio ar ei bywyd.
- Roedd amodau presennol y drwydded yn cael eu torri'n
rheolaidd.
- Mae presenoldeb yr Heddlu yn brin iawn yn y dref yn
barod.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r
gwrthwynebwr ynghylch ei sylwadau.
Mewn
ymateb i nifer o gwestiynau, dyma'r hyn a wnaed gan y
gwrthwynebydd:
- Dywedodd ei bod wedi siarad â gyrwyr tacsis gyda'r hwyr
am beidio â diffodd eu hinjans. Er bod rhai wedi
cydweithredu, mae eraill wedi gwrthod. Mae hi'n ymwybodol bod
herio'r gyrwyr tacsis yn ei gwneud yn darged am fod yn achwynydd.
Yn ogystal, gallai rhai o'r tacsis fod yn aros am 40 munud ar y
tro;
- Cadarnhaodd nad oedd ganddi ffenestri
gwydr dwbl gan ei bod yn byw mewn adeilad rhestredig gradd
2.
- Cadarnhaodd fod y preswylwyr sy'n byw drws nesaf i Dafarn y
Pelican hefyd wedi cwyno wrthi am y s?n ond roeddent wedi symud i
ffwrdd gan nad oeddent yn gallu ymdopi â'r s?n. Yn ogystal,
roedd y person a oedd yn byw ar draws y ffordd wedi cwyno am y
s?n;
- Mae hi'n derbyn ei bod yn byw mewn tref, y byddai hi'n clywed
s?n a bod Tafarn y Pelican yn well the The Bunch of
Grapes;
- Dywedodd, er y byddai'n ceisio addasu'n unol â
digwyddiadau hwyr, na fyddai hi'n gallu addasu pe byddai'r oriau
agor yn cael eu hestyn i 2.30am;
- Pwysleisiodd ei bod hi eisoes wedi galw 101 ddwywaith heb gael
ymateb;
- Dywedodd fod y s?n yn amharu arni ar y rhan fwyaf o'r
penwythnosau, ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn. Er ei bod hi'n fodlon
ar dipyn bach o aflonyddwch, mae hi'n gwrthwynebu aflonyddwch
diangen.
- Dywedodd y byddai'r safle ar agor yn rheolaidd y tu allan i
oriau'r drwydded, sy'n achosi'r broblem o ran y tacsis. Roedd yn
ymddangos fel petai hyn yn digwydd bob penwythnos, a dyma pam roedd
hi wedi synnu wrth weld y cais oherwydd ei bod yn credu bod y
dafarn ar agor tan 1am yn barod.
- Mae hi'n pryderu am ddarparu lluniaeth hwyrnos yn enwedig yn
ystod yr oriau hwyrach yn y dafarn gan fod problemau mawr wedi bod
o ran y lleoedd cludfwyd gyda'r hwyr yn y dref;
Cadarnhaodd y Swyddog Trwyddedu wrth yr holl bartïon
presennol y byddai ardal gludfwyd y lleoliad yn cael ei chynnwys yn
y drwydded wedi'i hamrywio ac felly gallai fod ar agor tan
2.30am.
Yna cyflwynwyd sylwadau i'r Is-bwyllgor gan
yr ymgeisydd am drwydded safle a nodwyd yn Atodiad A ac ymatebwyd
i'r pryderon a'r materion a godwyd.
- Cadarnhaodd yr ymgeisydd fod y tenant wedi gweithredu'r lle
cludflwyd yn y gorffennol, ond nid yw'n ei weithredu
mwyach;
- Cadarnhaodd mai ef yw Goruchwylydd Penodedig y Safle a'i fod
yn gweithio'n llawn amser mewn man arall, ond mae'n ymweld
â'r safle'n aml. Roedd gan 2 aelod o staff yn y dafarn
drwyddedau personol ac roedd un ohonynt ar ddyletswydd bob amser yn
ystod oriau agor y dafarn;
- Dywedodd y byddai'r tenant hefyd yn ddeiliad trwydded bersonol
ac y byddai'n gwneud cais am fod yn Oruchwylydd Penodedig y Safle
pe byddai'r cais am amrywio'r drwydded safle'n cael ei
gymeradwyo;
- Mae gan yr ymgeisydd 30 mlynedd o brofiad yn y fasnach a'i fod
yn hyderus o ran y ffordd gywir o redeg tafarn. Dywedodd fod Tafarn
y Pelican yn dafarn gyfeillgar yn y dref a'i fod ond am gael tegwch
rhwng yr holl fusnesau;
- Roedd o'r farn y byddai'r amrywiad yn lleihau'r straen ar yr
Heddlu;
- Dywedodd fod 5 tafarn yn y dref ac y byddai'n addasu i'r newid
mewn patrymau yfed, lle mae pobl yn dewis mynd allan yn llawer
hwyrach nag o'r blaen;
- Awgrymodd, efallai, y gallai polisi gael ei gyflwyno i annog
gyrwyr tacsis i ddiffodd eu hinjans;
- Dywedodd ei fod yn hapus i gydymffurfio ag amodau'r
Heddlu.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r
ymgeisydd ynghylch y sylwadau a wnaed.
Mewn
ymateb i nifer o gwestiynau, dywedodd yr ymgeisydd:
- fod nifer o Hysbysiadau am Ddigwyddiad Dros Dro wedi'u
defnyddio fel rhan o brawf ac nad oedd yn ymwybodol o unrhyw
broblemau na materion o ganlyniad iddynt;
- nad oedd bob amser ar y safle yn ystod y nos ar benwythnosau
ond ei fod ar gael os bydd angen;
- er ei fod wedi rhedeg y dafarn o'r blaen, roedd Mr Giles yn
denant ar y safle ar hyn o bryd ac mae'n rheoli ei fusnes ei hun o
ddydd i ddydd. Yn ogystal, roedd ganddo hawl i gymryd camau
gweithredu os caiff deddfau trwyddedu eu torri, yn unol â'r
Cytundeb Tenantiaeth.
Daeth sylwadau i law'r Is-bwyllgor gan Mr
Giles, tenant yn Nhafarn y Pelican:
Dyma'r
hyn a ddywedwyd gan Mr Giles wrth yr Is-bwyllgor:
- Roedd 3 man aros ar gyfer tacsis yn yr ardal, a dim ond un
ohonynt y tu allan i Dafarn y Pelican.
Gan mai man aros yw hwn, nid yw'n golygu bod y tacsi'n casglu
cwsmeriaid yno o reidrwydd. Mae'n debygol eu bod yn aros am
alwadau'n gofyn iddynt fynd i fan arall, yn enwedig os ydynt yn
aros am 40 munud;
- Roedd arwydd wedi'i osod i rybuddio pobl rhag curo ar y drws
ar ôl 11.00pm. Yn anffodus, mae
pobl yn curo ar y drws ar ôl i'r dafarn gau wrth iddo lanhau
ac nid oes modd iddo rwystro hyn rhag digwydd;
- Nid oedd bwriad o fod ar agor tan 2.00am, ond hoffai gael yr
opsiwn o allu cloi'r drws am 12.00am er mwyn rhoi cyfle i
gwsmeriaid aros yn hwy pe byddent yn dymuno. Yn ei brofiad, mae
pobl yn gadael y dafarn yn raddol ar nid ar yr un pryd.
Ar
hynny
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL
gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol
â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth
Leol.
Ar
ôl y toriad, rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw hefyd i'r
paragraffau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod
Trwyddedu ac i'r Cyfarwyddyd a gyhoeddir gan yr Adran dros
Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa
Gartref a nodwyd yn yr eitem ar yr agenda, ac i'r rheiny y
cyfeiriwyd atynt gan y partïon.
PENDERFYNWYD, ar ôl ystyried yr holl
dystiolaeth a oedd wedi ei rhoi gerbron yr Is-bwyllgor, fod y cais
yn cael ei ganiatáu, a hynny'n unol ag amodau trwyddedu 1-19
yr oedd yr ymgeisydd a'r heddlu wedi cytuno arnynt.
Y
RHESYMAU
Wrth
benderfynu ar y cais, roedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r
Is-bwyllgor;
- Roedd y safle'n agos i nifer o eiddo preswyl.
- Roedd y safle wedi bod yn gweithredu y tu allan i'w oriau agor
dynodedig ar adegau, er nad oes tystiolaeth bod gweithgareddau
trwyddedadwy yn cael eu cynnal yn ystod yr adegau hyn.
- Nid oedd yr ymgeisydd yn gyfrifol am reoli'r safle o ddydd i
ddydd.
- O dan delerau'r cytundeb tenantiaeth roedd gan yr ymgeisydd y
p?er i orfodi ei denant i gydymffurfio ag unrhyw amodau'r drwydded
sydd wedi'u pennu.
Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau
Cyfrifol.
Roedd
yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad fod yn
seiliedig ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad yw pryderon nac ofnau
ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid trwydded, lle nad
oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallant roi
ystyriaeth briodol iddynt.
Roedd
yr Is-bwyllgor o'r farn bod tystiolaeth yr achwynydd yn gredadwy ac
yn rymus a derbyniodd yr Is-bwyllgor fod y cwsmeriaid yn gadael y
safle a'r tacsis yn aros i'w casglu wedi amharu arni ar sawl
achlysur yn oriau mân y bore.
Nododd
yr Is-bwyllgor farn yr Heddlu fod amodau ychwanegol y drwydded a
gynigiwyd ganddynt yn ddigon i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.
Hefyd, nododd yr Is-bwyllgor dystiolaeth yr heddlu y byddai'r
amrywiad yn gwneud lles i'r dref.
Derbyniodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth yr Heddlu fod yr amodau
a gynigiwyd gan yr Heddlu yn ddigon i hyrwyddo'r amcanion trwyddedu
os cânt eu gweithredu'n briodol.
Roedd
yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y gwaith o reoli'r safle o ddydd i
ddydd yn ddigon da i sicrhau bod hyn yn digwydd. Mae hyd yn oed y
gwrthwynebydd yn derbyn bod Mr Giles yn ddeiliad trwydded
da.
Felly
roedd ys Is-bwyllgor yn fodlon bod cymeradwyo'r cais yn briodol yn
amodol ar yr amodau y cytunir arnynt er mwyn hyrwyddo'r amcanion
trwyddedu o ran atal troseddau ac anhrefn, ac roedd yr Is-bwyllgor
yn fodlon bod y cam hwn yn briodol o ystyried y materion a
nodwyd.