Penderfynwyd gan yr Is-bwyllgor yn ei gyfarfod ar 26 Mehefin
ohirio'r penderfyniad ynghylch yr Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro hyd
at 31 Gorffennaf 2018 a 26 Medi 2018, er mwyn casglu tystiolaeth
bellach.
Rhoddodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wybodaeth i bawb
oedd yn bresennol am y weithdrefn ar gyfer y cyfarfod a dywedodd
wrth yr Is-bwyllgor fod hysbysiad gwrthwynebu wedi cael ei gyflwyno
gan Adain Iechyd y Cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin mewn perthynas
â Hysbysiad Digwyddiad Dros Dro a gyflwynwyd gan Mrs Maria
Dallavalle o La Scala, 15 Rhodfa Bryn Mawr, Rhydaman SA18
2DA.
Roedd
yr Hysbysiadau am Ddigwyddiad Dros Dro yn berthnasol i adwerthu
alcohol, darparu Adloniant Rheoledig a Lluniaeth Hwyrnos ar y safle
ar y diwrnod a'r amser canlynol:-
Dydd Sadwrn 3 Tachwedd 2018 – Y Neuadd Fawr, Plasty
Derwydd.
·
Cyflenwi Alcohol, Adloniant
Rheoledig a Lluniaeth Hwyrnos 12:00-00:30
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor gan Reolwr y Gwasanaethau
Cyfreithiol fod Adain Iechyd y Cyhoedd wedi gwrthwynebu'r Hysbysiad
Digwyddiad Dros Dro ar sail niwsans s?n yn sgil digwyddiadau
blaenorol a gynhaliwyd ar y safle.
Cafodd
y wybodaeth ychwanegol gan yr ymgeisydd a chan Adran Gwasanaethau
Iechyd yr Amgylchedd ei dosbarthu gan y Swyddogion Trwyddedu. Bu'r
Is-bwyllgor yn ystyried y dogfennau a gyflwynwyd gan gynnwys y
wybodaeth ychwanegol, a'r holl sylwadau ysgrifenedig a ddaeth i
law, cyn clywed gan y partïon.
Cafodd
yr Is-bwyllgor sylwadau llafar gan Ymarferydd Iechyd yr
Amgylchedd:-
- Mynegodd Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd ei fod yn siomedig i
fod yn bresennol unwaith eto heddiw gan mai'r gobaith oedd y byddai
hyn wedi'i ddatrys mewn modd cyfeillgar.
- Rhoddwyd gwybod i'r Is-bwyllgor y byddai'r dystiolaeth heddiw
yn canolbwyntio ar briodasau dan do. Fodd bynnag, ers y cyfarfod
diwethaf, mae Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd wedi tynnu sylw'r
Is-bwyllgor at Hysbysiad Atal mewn perthynas â Niwsans S?n, a
gyflwynwyd i Derwydd Mansion Events Limited ar 21 Medi
2018.
- Gan gyfeirio at y Cynllun Rheoli S?n a ddarperir yn y
wybodaeth ychwanegol, amlinellodd Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd
yr elfennau allweddol o'r mesurau lliniaru i'r Is-bwyllgor a
dywedodd nad yw'n glir a yw'r ymgeisydd yn gweithredu'r cynllun
mewn gwirionedd.
- Ar ôl y digwyddiad diwethaf a gynhaliwyd ar 1 Medi 2018,
gofynnwyd i Mrs Dallavalle egluro pa elfennau o'r Cynllun Rheoli
S?n a oedd wedi'u cyflawni. Ar gais Ymarferydd Iechyd yr
Amgylchedd, rhoddodd Mrs Dallavalle atebion Ie/Na clir mewn
perthynas â phob pwynt penodol. Pwysleisiodd Ymarferydd
Iechyd yr Amgylchedd ei fod ef ei hun wedi gweld digwyddiadau a
dorrai reolau'r cynllun, yn groes i ymatebion a roddwyd gan Mrs
Dallavalle.
- Cyfeiriwyd at fap yn y wybodaeth ychwanegol, a ddangosai
gynllun o Blasty Derwydd a'r ardal gyfagos. Dangosai'r map ddau
wahanol lwybr wedi'u nodi'n 'Llwybr A', ar ochr orllewinol yr eiddo
ac a oedd yn mynd o'r Maes Parcio i'r Babell Fawr, a 'Llwybr B' a
oedd yn mynd o'r Plasty i'r Babell Fawr ar ochr ddwyreiniol yr
eiddo yn agos i'r eiddo cyfagos. Er mwyn lleihau s?n ac aflonyddwch
i'r cymdogion, y llwybr a ffefrir i'w ddefnyddio fyddai Llwybr A.
Dywedwyd bod pobl wedi'u clywed yn defnyddio Llwybr B ar ôl i
ymarfer monitro gael ei gynnal ar 1 Medi 2018.
- Yna cafodd yr Is-bwyllgor gyfle i wrando ar y 5 recordiad sain
a gasglwyd gan Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd wrth fonitro lefelau
s?n yn ystod y digwyddiad ar 25 Awst 2018 rhwng 13:57 a 00:01.
Cafodd y recordiadau eu gwneud mewn ystafell wely yn un o'r eiddo
cyfagos a chadarnhawyd y gellid clywed s?n injans o geir yn aros,
pobl yn canu, yn gweiddi ac yn sgrechian a cherbydau'n teithio dros
gerrig mân rhydd.
Dywedodd Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd na fyddai'r s?n wedi
effeithio ar yr eiddo cyfagos pe byddai'r digwyddiad wedi
cydymffurfio â'r mesurau yn y Cynllun Rheoli S?n.
Cafodd yr holl bartïon gyfle i holi
Swyddog Iechyd yr Amgylchedd am ei sylwadau ac am y dystiolaeth a
gyflwynwyd.
Mewn ymateb i nifer o ymholiadau, dyma'r hyn
a ddywedwyd gan Ymarferydd Iechyd yr Amgylchedd:
- Byddai ffenestri'n cael eu hagor yn aml
yn y tywydd twym ac roedd gan unigolyn yr hawl i agor ffenestr yn
ystod y cyfnod monitro.
- Roedd yr Hysbysiad Atal a gyflwynwyd yn
cyfeirio'n benodol at gerddoriaeth drwy uchelseinydd.
- Pe byddai'r mesurau yn y Cynllun Rheoli
S?n wedi'u gweithredu'n llawn, byddai'r lefelau s?n wedi bod o fewn
y lefelau gofynnol.
Yna
cafodd yr Is-bwyllgor dystiolaeth gan gymdogion i'r safle a oedd yn
cefnogi gwrthwynebiadau Swyddog Iechyd yr Amgylchedd oherwydd y
rhesymau canlynol:-
- Roedd y tystion wedi symud i'r bwthyn cyfagos i gael
tawelwch;
- Roedd y priodasau'n cynnwys cerddoriaeth uchel/pobl yn gweiddi
a oedd yn ei gwneud yn anodd cysgu;
- Roedd y digwyddiadau'n amharu ar eu bywydau ac yn cael effaith
niweidiol ar eu hiechyd.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi'r
tyst ynghylch ei sylwadau.
- Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd y tyst
nad oedd y broblem yn ymwneud ag un s?n penodol; yr effaith
gyffredinol oedd y broblem gan gynnwys cerbydau, s?n pobl, a
cherddoriaeth yn dod o ardal y plasty o ddechrau'r digwyddiad i
oriau mân y bore ar y diwrnod canlynol.
Ar
hynny, rhoddwyd sylw i'r pryderon a'r materion hyn gan Mr Nigel
Williams, DJ a Rheolwr Sain Plasty Derwydd, a oedd yn bresennol ar
ran Mrs Dallavalle. Dyma'r hyn a ddywedwyd ganddo:-
- Ei rôl ef oedd helpu Mrs Dallavalle i sicrhau bod y
priodasau'n ddidrafferth, a oedd yn broses barhaol.
- Yn unol â'r Cynllun Rheoli S?n, byddai'r mesurau
canlynol yn cael eu rhoi ar waith mewn digwyddiadau yn y
dyfodol:-
- Byddai'r seinyddion yn wynebu i'r cyfeiriad arall o'r eiddo
agosaf sy'n sensitif i s?n;
- Byddai'r amleddau is (63-125hz) yn cael eu rheoli i'r lefelau
isaf sy'n ymarferol;
- Roedd mesurau wedi'u cyflwyno i reoli pobl a
thraffig.
- Mae'r 2 briodas nesaf sydd wedi'u harchebu wedi gofyn am
fandiau byw, y cytunwyd arnynt gan Mrs Dallavalle gan fod y
priodasau wedi'u harchebu 2 flynedd ymlaen llaw. Roedd Mr Williams
yn cydnabod ei bod yn anodd cadw'r lefelau s?n yn isel pan fydd
bandiau byw'n chwarae a'u bod yn rhoi rhai mesurau lliniaru ar
waith i geisio cyfyngu ar y niwsans s?n.
- Er mwyn symud ymlaen, byddent si?r o fod yn gwrthod bandiau
byw yn y dyfodol a byddai Mr Williams yn gyfrifol am reoli/monitro
s?n.
- Cafwyd problemau o ran gosod gwahanfur sain dros dro (a oedd i
gael ei adeiladu gyda bêls gwair) rhwng y seinyddion a
lleoliadau'r derbynyddion, hyd at 3m o uchder. Y problemau oedd bod
bêls gwair yn ddrud ac nad ydynt yn ddymunol i'r llygaid mewn
man cynnal priodasau. Yn ogystal, roedd pryderon o ran iechyd a
diogelwch ynghylch adeiladu gwahanfur 3m o uchder â
bêls gwair.
- Er bod 3 aelod o staff diogelwch yn gweithio yn y digwyddiad,
cydnabuwyd bod angen gwneud rhagor o waith er mwyn atal pobl rhag
defnyddio Llwybr B. Ychwanegodd Mr Williams y byddai'n awgrymu i
Mrs Dallavalle y byddai cau mynediad i Lwybr B yn
fuddiol.
Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon holi Mr
Williams ynghylch ei sylwadau.
- Gofynnwyd i Mr Williams beth oedd ei
rôl yn ystod y digwyddiad. Dywedodd Mr Williams mai ef oedd
meistr y seremonïau yn ystod y dydd a'i fod yn helpu gyda'r
nos, gan gynnwys dyletswyddau yn y maes parcio, dyletswyddau
diogelwch a rheoli pobl.
- Mewn ymateb i ymholiad, dywedodd Mr
Williams fod Mrs Dallavalle, yr Ymgeisydd, yn bresennol ar y safle
am y 2 ddigwyddiad diwethaf a chymerodd ran fawr i'w cynnal.
Ychwanegodd Mr Williams nad oedd yn gweithio ym mhen blaen y plasty
bob amser ac yn bersonol byddai wedi argymell cau pen blaen y
plasty i ffwrdd.
Ar
hynny
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor YN UNFRYDOL
gynnal sesiwn breifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol
â Pharagraff 16 o Atodlen 12A i'r Ddeddf Llywodraeth
Leol.
Ar
ôl y toriad, rhoddodd yr Is-bwyllgor sylw hefyd i'r
paragraffau perthnasol yn Natganiad Polisi Trwyddedu yr Awdurdod
Trwyddedu ac i'r Cyfarwyddyd a gyhoeddir gan yr Adran dros
Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa
Gartref a nodwyd yn yr eitem ar yr agenda, ac i'r rheiny y
cyfeiriwyd atynt gan y partïon.
PENDERFYNODD yr Is-bwyllgor, ar ôl
ystyried yr holl dystiolaeth a roddwyd ger ei fron, y dylid
cyflwyno Gwrth-Hysbysiad.
Y
RHESYMAU
Wrth
benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r
Is-bwyllgor;
- Roedd cwynion gan breswylwyr eiddo cyfagos ac ymarferion
monitro s?n gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd wedi dangos bod
digwyddiadau ar y safle wedi achosi s?n a oedd yn tarfu ar
breswylwyr yr eiddo cyfagos;
- Roedd cerddoriaeth ar y safle'n achosi niwsans s?n (yn enwedig
yn ystod digwyddiadau yn yr awyr agored) yn ogystal â'r
ymwelwyr a'u cerbydau;
- Roedd y s?n yn tarfu gymaint nes ei fod yn niwsans cyhoeddus
gan ei fod yn effeithio ar rai o'r cyhoedd;
- Roedd yr ymgeisydd wedi ymgysylltu ag Ymgynghorydd S?n er mwyn
datblygu Cynllun Rheoli S?n cadarn y cytunwyd arno yn dilyn hynny
gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd;
- Roedd yr ymgeisydd wedi methu â gweithredu'r cynllun yn
iawn yn ystod y digwyddiad diwethaf ar y safle;
- Mae Adran Iechyd yr Amgylchedd wedi cyflwyno Hysbysiad Atal o
dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 mewn perthynas â
digwyddiadau ar y safle.
Roedd
yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar sylwadau Adran Diogelu'r
Amgylchedd.
Roedd
yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad fod ar
sail dystiolaeth wirioneddol, ac nad
oedd pryderon nac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe na
roddid gwrth-hysbysiad, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w
hategu, yn faterion y gall roi ystyriaeth briodol
iddynt.
Roedd
tystiolaeth glir bod digwyddiadau ar y safle'n achosi s?n sy'n
tarfu ar breswylwyr eiddo cyfagos. Roedd tystiolaeth glir bod yr
ymgeisydd wedi methu â gweithredu'n briodol y mesurau rheoli
a gynigiwyd gan ei hymgynghorydd s?n yn ystod y digwyddiad
diwethaf. Felly, nid oedd gan yr Is-bwyllgor lawer o ffydd yng
ngallu'r ymgeisydd i reoli digwyddiadau ar y safle mewn ffordd a
fyddai'n lliniaru unrhyw aflonyddwch ar y cymdogion.
Nododd
yr Is-bwyllgor fod Hysbysiad Atal wedi'i gyflwyno i'r ymgeisydd.
Fodd bynnag, roedd hyn yn cyfeirio at s?n y gerddoriaeth yn unig.
Felly nid oedd yr Is-bwyllgor yn credu y byddai'r Hysbysiad Atal yn
darparu amddiffyniad digonol mewn perthynas â'r digwyddiad
hwn.
Roedd
yr Is-bwyllgor o'r farn bod y modd yr oedd yr ymgeisydd yn
gweithredu'r safle yn tanseilio amcan y drwydded o ran atal niwsans
cyhoeddus. Roedd yr ymgeisydd wedi cael nifer o gyfleoedd i ddangos
y gallai weithredu'r safle mewn modd na fyddai'n achosi niwsans ac
roedd wedi methu â gwneud hynny.
Felly
roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod cyflwyno Gwrth-Hysbysiad yn
briodol ac yn gymesur yn yr achos hwn.
Byddai'r Is-bwyllgor yn annog yr ymgeisydd i weithredu'r
Cynllun Rheoli S?n yn llawn ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau yn y
dyfodol. Gallai methu â gwneud hynny gael ei ystyried wrth
benderfynu ar Hysbysiadau am Ddigwyddiad Dros Dro yn y
dyfodol.
[Ar y pwynt hwn, gohiriwyd y cyfarfod am 5
munud gan y Cadeirydd er mwyn caniatáu egwyl]