Cofnodion:
Ar ôl cynnal prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod rhif 4 uchod, beidio â chyhoeddi cynnwys yr adroddiad gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig am faterion ariannol neu faterion busnes unigolyn penodol (gan gynnwys yr Awdurdod oedd yn meddu ar y wybodaeth honno) (Paragraff 14 o Ran 4 o Atodlen 12A i'r Ddeddf).
Yr oedd y prawf budd y cyhoedd o ran y mater hwn yn ymwneud â'r ffaith fod yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth fanwl am faterion a dyheadau busnes ac ariannol yr ymgeiswyr. Yn yr achos hwn, yr oedd y budd i'r cyhoedd o ran cadw cyfrinachedd yn drech na'r budd i'r cyhoedd o ran tryloywder ac atebolrwydd, gan y byddai datgelu'r wybodaeth yn debygol o niweidio'r ymgeiswyr ar hyn o bryd.
Yn dilyn cofnod 3 o'r cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Chwefror 2018 ystyriodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol geisiadau am gymorth gan Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin. Blaenoriaeth y ddwy gronfa oedd cefnogi'r gwaith o greu swyddi a busnesau newydd yn y Sir. Nododd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol fân newidiadau a wnaed i'r ddogfennaeth ar gyfer y naill Gronfa a'r llall, a ddigwyddodd yn sgil oedi wrth lansio'r cynllun a'r trefniadau ymarferol cysylltiedig.
PENDERFYNWYD cymeradwyo'r ceisiadau canlynol am gymorth o Gronfa Cychwyn Busnes Sir Gaerfyrddin a Chronfa Twf Busnes Sir Gaerfyrddin yn amodol ar y telerau a'r amodau arferol ac ar y rhai a bennwyd yn yr adroddiad:
Ymgeisydd Dyfarniad
Corgi Hosiery £10,000.00
Coaltown Coffee £10,000.00
Evans & Wilkins £2,499.50
Oreknot Creative Hub £2,233.64
Hafod Finance Solutions Ltd £1,130.36
Ickle Bubba £10,000.00
Trywydd £2,500.00
Broadleaf Timber Ltd £10,000.00
Sonex 3 Financial Ltd £8,044.00
Atebol £10,000.00
Ty Gofal Ltd £9,842.72
Divine Health & Beauty £9,764.70
Dogfennau ategol: