Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANN DAVIES I'R CYNGHORYDD PETER HUGHES GRIFFITHS, YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS DIWYLLIANT, CHWARAEON A THWRISTIAETH

Roedd twristiaeth yn werth £434 miliwn i economi Sir Gaerfyrddin yn 2017 yn ôl astudiaeth a luniwyd ar gyfer y cyngor sir, sef cynnydd o 7.8% ers y flwyddyn flaenorol

Yn ôl yr ymchwil, cafwyd cyfanswm o 6.39 miliwn o ddiwrnodau ymweld, sef cynnydd o 7.2% ers 2016.  Roedd twristiaeth yn 2017 wedi cefnogi 6,343 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y sir, sef cynnydd o 5.3% ers 2016.  Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gwerth twristiaeth i’r sir wedi cynyddu £150 miliwn.

A all yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ddweud wrthyf sut y cafwyd y ffigurau gwych hyn a beth yw ei ddisgwyliadau ar gyfer 2018?”

 

Cofnodion:

“Roedd twristiaeth werth £434m i economi Sir Gaerfyrddin yn 2017 yn ôl astudiaeth a baratowyd ar gyfer y Cyngor Sir, cynnydd o 7.8% ar y flwyddyn flaenorol. Yn ôl yr ymchwil cafwyd cyfanswm o 6.39 miliwn o ddiwrnodau ymweld sef cynnydd o 7.2% ers 2016. Roedd twristiaeth yn 2017 wedi cefnogi 6,343 o swyddi cyfwerth ag amser llawn yn y sir, sef cynnydd o 5.3% ers 2016.  Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae gwerth twristiaeth i’r sir wedi cynyddu £150 miliwn. A all yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ddweud wrthyf sut y cafwyd y ffigurau gwych hyn a beth yw ei ddisgwyliadau ar gyfer 2018?”

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Hughes Griffiths, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth:-

 

“Mae'r cwestiwn ei hun yn dangos y llwyddiant yn y maes penodol hwn a'r cynnydd a welwyd yn y ffigurau yn enwedig yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac rwy'n credu y gallwn dreulio drwy'r bore mewn gwirionedd yn amlinellu'r rheswm dros y llwyddiant sylweddol hwn. Gallaf ddweud yn gyntaf oll ein bod mor hapus gyda'r llwyddiant hwn, rwy'n eistedd wrth ymyl y Cyng. David Jenkins [yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau] ac o safbwynt economaidd gellir canmol hyn a'i weld yn amlwg yn y ffigurau a gafwyd yn y cwestiwn. Felly rydym yn meddwl am y lleoliadau a Sir Gaerfyrddin, Sir sydd yn llawn prydferthwch, sir naturiol hardd, ac yn cynnwys profiadau o fod ar lan y môr neu deithio i'r Bannau. Ac wedyn mae gennym hefyd y trefi a'r pentrefi o bob maint ledled y Sir felly mae  gennym botensial gwych yn ein llefydd penodol yn Sir Gaerfyrddin. Ac yn gysylltiedig â hyn, yn yr ardaloedd hynny, mae gennym ddiwylliant bywiog iawn fel rydym wedi clywed y bore yma ac elfen Gymreig iawn iddi a'r iaith y mae ymwelwyr wrth eu bodd â hi. Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf rydym wedi datblygu lleoliadau a llety i bobl sy'n eu denu. Mae gennym ddigwyddiadau sy'n eu denu ar draws y Sir, mae gennym amrywiaeth o leoliadau i bobl fwyta, os ydych am gael picnic neu os ydych am bryd o fwyd pum cwrs, mae popeth yma. Dyna yw'r datblygiadau sydd wedi digwydd a gellir gweld hynny yn glir erbyn hyn ar gyfer y bobl hynny sy'n barod i wario. Ond beth am y bobl? Ac mae'n rhaid i mi ddweud fod pobl dalentog iawn yn y maes hwn ac mae hynny wedi datblygu hefyd yn ogystal yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae pobl wedi addasu ar gyfer twristiaeth yn enwedig yng nghefn gwlad a'r sector amaethyddol i gynnig llety a gwasanaethau. Mae'r agwedd hon heb amheuaeth wedi cyfrannu'n economaidd yn ogystal â'r entrepreneuriaid sydd gennym ar draws y sir yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Ac yna mae gennym yr elfen hyrwyddo sef ein bod yn hyrwyddo Sir Gaerfyrddin. Rydym heb amheuaeth wedi dal i fyny a siroedd eraill megis Sir Benfro er enghraifft. Rydym wedi canolbwyntio ar farchnata Sir Gaerfyrddin, ac rydym wedi gweld heddiw, y math o bethau sy'n talu ar eu canfed i ni yma yn Sir Gaerfyrddin. Yn Lloegr, Ewrop a De Cymru, y boblogaeth enfawr sydd yn Ne Cymru, ac ar draws Gogledd Cymru, rydym yn denu'r rhain i Sir Gaerfyrddin yn ogystal â phobl eraill o amgylch y byd. Ac wrth gwrs rydym yn gweithio ochr yn ochr â Chroeso Cymru ac yn ddiweddar yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi llwyddo os gallaf ddweud o blith y rhestr wyf wedi'i gweld o bobl y bobl sydd wedi dod i mewn i Sir Gaerfyrddin ac sydd wedi ysgrifennu'n helaeth yn ein papurau newydd, yn ein cylchgronau, a hyd yn oed yn y Financial Times, mae hwn yn faes yr ydym wedi hyrwyddo ac yn ateb i'r hyn oeddech yn gofyn am sut yr ydym wedi cael ffigurau mor rhagorol. Gallaf ganmol yn ogystal, fe welsoch yn gynharach Cymdeithas Hyrwyddo Sir Gaerfyrddin a thwristiaeth hefyd, ond fel llywodraeth leol yma yn Sir Gaerfyrddin rydym wedi gwella'n sylweddol amrywiaeth o bethau ac wedi creu amrywiaeth o adnoddau. Gallwn roi rhestr helaeth i chi o'r mathau o leoliadau yr ydym wedi'u paratoi ar gyfer ymwelwyr a'r pwyslais wrth gwrs ar lwybrau cerdded a beicio. Ond mae'n llawer mwy na hynny, mae gennym gyfleusterau gwell fel Cyngor. Ond un gair am ddyfodol twristiaeth, mae'n ddiwydiant modern, a byddwn yn parhau i ddatblygu a chynllunio oherwydd ei werth economaidd i ni yma yn Sir Gaerfyrddin. Ac un ffactor pwysig pan fyddwn yn meddwl am dwristiaeth, rydym yn meddwl amdano o bosibl yn ystod yr haf, a hon yw'r elfen arall yr ydym yn ei datblygu, bod twristiaeth a Sir Gaerfyrddin yn apelio i bobl drwy gydol y flwyddyn i ddod yma ac mae cynlluniau amrywiol ar y gweill ar hyn o bryd,  nid oes rhaid i mi eu rhestru heddiw, ond dyna'r hyn sydd yn digwydd ar gyfer datblygu twristiaeth yma yn y sir. Dywedais y gair 'economaidd' droeon, ond hoffwn ddiolch am y cydweithio rhwng yr adrannau. Rwyf am sôn am y tîm datblygu economaidd, mae'r tîm yn chwarae rhan bwysig yn yr elfen ddatblygu a gwn fod y Cynghorydd Cefin Campbell, yn y maes o adfywio ardaloedd gwledig,  yn mynd i ddatblygu syniadau mewn perthynas â thwristiaeth o fewn y maes hwn. Ac ar ôl dweud hynny i gyd a sôn am y paratoadau sydd gennym, wrth gwrs yn dibynnu ar y tywydd, yn ystod yr haf beth bynnag, ond pan fydd gennym haf cystal ag oedd gennym eleni bydd hynny'n gam anferth ymlaen ar gyfer twristiaeth. Gaf i ddiolch i bawb am hyrwyddo Sir Gaerfyrddin, mae llawer o gynghorwyr yma heddiw sy'n gwybod am ddatblygiadau yn eu hardaloedd eu hunain. Maddeuwch imi, rwyf am gyfeirio, er enghraifft, at y marina ym Mhorth Tywyn. Mae'r ddau gynghorydd lleol wedi derbyn adroddiad gan y cwmni sy'n datblygu marina i ni, ac mae’r cynnydd yn yr haf ar y ffigurau a'r niferoedd sy'n ymweld. Nid yw wedi'i gwblhau eto, rydym hanner ffordd drwy'r datblygiad a gwella o'i hamgylch a dyna'r math o beth sydd gennym fewnbwn yn gylch fel Cyngor er mwyn datblygu. Felly diolch i chi i gyd ac rwyf am bwysleisio'r cynghorwyr lleol oherwydd maent yn helpu yn eu hardaloedd gyda mentrau amrywiol ac am eu cymorth, a'r staff hefyd a llongyfarchiadau iddynt. Mae twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin yn llwyddiant fel y dengys y ffigurau hynny ac wrth gwrs yr her yw ein bod yn parhau ac yn cynyddu'r rhain er mwyn i Sir Gaerfyrddin lwyddo'n economaidd. Diolch ichi.