Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ANDRE MCPHERSON I'R CYNGHORYDD LINDA EVANS, YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS TAI

“A allaf ofyn beth mae'r Awdurdod hwn yn ei wneud i fynd i'r afael â digartrefedd yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys unrhyw gamau er mwyn dechrau defnyddio tai gwag unwaith yn rhagor?”

 

Cofnodion:

 

“A gaf i ofyn pa gamau y mae'r Awdurdod hwn yn eu cymryd i fynd i'r afael â digartrefedd yn Sir Gaerfyrddin, gan gynnwys unrhyw gamau i ddod â chartrefi gwag yn ôl i ddefnydd?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai:-

 

“Diolch yn lle cyntaf i'r Cynghorydd McPherson am y cwestiwn pwysig hwn  Fel Aelodau rydych wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â Swyddogion o'r Adran Dai a minnau'r prynhawn hwn mewn seminar er mwyn cael trafodaeth ar ddatblygu cynllun digartrefedd newydd.  Rwy'n gobeithio y byddwch chi gyd yno.

Yr wythnos nesaf ar Agenda'r Pwyllgor Craffu - Cymunedol mae cyfle i Aelodau drafod yn fanwl yr hyn rydym yn ei wneud er mwyn mynd i'r afael ag eiddo gwag.  Felly gyda'ch caniatâd chi Gadeirydd, hoffwn roi golwg gyffredinol i chi mewn ymateb i'r cwestiwn.

Yn gyntaf mae ein dull digartrefedd yn syml. Ei atal rhag digwydd yn y lle cyntaf. Mae hyn yn golygu sicrhau trosglwyddo'r cymorth a'r cyngor sy'n berthnasol i bawb.  Bod gennym opsiynau a chamau addas i'w cynnig a rhaid inni gofio wrth gwrs fod sefyllfa pawb yn wahanol.  Pan fydd rhywun yn ddigartref mae'n rhaid i ni gynnig iddynt y llety gorau posibl a gwasanaeth a fydd o gymorth ac o fudd iddynt.  Credaf y gallwn ni gyd dderbyn bod mewn sefyllfa fel hon o bosibl yn un o'r pethau mwyaf anodd y gall unrhyw un ei wynebu.

Er mwyn egluro mewn termau mwy ymarferol, yn ystod 2017/18, roedd 1700 o ddeiliaid tai wedi cysylltu â ni yn yr adran Dai yn gofyn am gymorth gyda'u sefyllfa.  Cafodd dros 90% ohonynt gymorth i aros lle yr oeddent neu eu symud i leoliad mwy addas.  Mae'n bosibl cyflawni hyn oherwydd rydym wedi rhoi llawer o ymdrech i ailstrwythuro ein cefnogaeth, gan ddarparu opsiynau ac atal digartrefedd.  Mae hyn yn golygu y gall ein staff ymyrryd a rhoi cymorth cyn gynted â phosibl er mwyn atal y sefyllfaoedd hyn rhag gwaethygu.  Mae gennym un man cyswllt ar gyfer y digartref sy'n cynnig cymorth arbenigol ac mae hyn drwy weithio'n agos iawn â'n partneriaid hanfodol megis Shelter a'r Wallich, mae gan y partneriaid hyn swyddogion sy'n gweithio ochr yn ochr â ni yn yr adran Dai yn ein swyddfeydd yn Llanelli.  Nod hyn yw sicrhau bod y wybodaeth a'r cymorth cywir yn cael eu rhannu cyn gynted â phosibl â'r partneriaid perthnasol.  Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch iddynt am eu cydweithrediad a'u cyfraniad.  Byddwn wrth gwrs yn trafod hyn ymhellach y prynhawn yma. 

Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, rydym wedi canolbwyntio ar gynyddu ein stoc tai fforddiadwy gyda thros 500 o dai fforddiadwy ychwanegol.  O fewn dwy flynedd rydym eisoes hanner ffordd tuag at ein targed o 1000 o dai ychwanegol.  Rydym yn llwyddo oherwydd rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gwneud pob dim  o fewn ein gallu i roi cyfle i bobl gael cartref fforddiadwy.  Oherwydd ein bod yn gwbl ymwybodol bod angen mwy o gartrefi fforddiadwy ac oherwydd ein bod yn benderfynol o weithio ar hyn a gwneud rhywbeth yn ei gylch.  Rydym wedi gwneud, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Er mwyn cyflawni hyn, byddwn yn defnyddio mwy nag un dull.  Rydym wedi prynu tai yn y sector preifat, ac  mae gennym raglen helaeth o ran datblygu tai cymdeithasol ac mae ein cynllun gosod syml wedi cael ei ddatblygu ac rydym yn gweithio ochr yn ochr â pherchnogion tai er mwyn ailddechrau defnyddio eiddo gwag. 

Rydym wedi cytuno i wneud hyn yn dilyn adolygiad gorchwyl a gorffen, lle'r oedd canran helaeth o'r bobl a holwyd, tua 80% ohonynt, am ein gweld yn ail-ddefnyddio eiddo gwag unwaith yn rhagor, a dyna'n union yr hyn rydym yn ei wneud.  Mae gennym tua 2500-2600 o dai gwag o fewn y Sir ar hyn o bryd sydd yn ganran eithaf bach o ystyried bod gennym dros 78,000 o dai preifat yn y Sir.  Er mwyn ymdrin ag eiddo gwag, mae gennym gynllun gweithredu sydd wedi llwyddo i ddod â bron i 200 o eiddo gwag yn ôl i ddefnydd yn 2017/18. Mae hyn yn cymharu â dim ond 60 eiddo gwag a ddaeth yn ôl i ddefnydd yn 2010 o dan y weinyddiaeth Lafur.  Mae gennym broses glir er mwyn gweithio ochr yn ochr â pherchnogion tai megis cynnig cyngor a benthyciadau ariannol, ac fel cam olaf byddwn yn cymryd camau gorfodi os oes angen. 

 

Cofiwch nid wyf wedi cynnwys ein rhaglen cartrefi newydd yma.  Bydd y gwaith adeiladu yn dechrau yn fuan iawn. Ein lleoliadau cyntaf fydd Garreglwyd ym Mhen-bre a Safle Dylan. Hefyd nid wyf wedi eto wedi crybwyll y cwmni tai Cartrefi Croeso, ond gadawaf hynny am y tro.

Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle i ddiolch i'r Swyddogion sy'n gweithio mewn gwahanol adrannau yn y Sir.  Mae llwyddiant ein cynllun tai fforddiadwy yn dibynnu ar weledigaeth ac ymrwymiad ac rwyf am ddiolch o waelod calon i chi am eich cydweithrediad.  Mae pob cartref ychwanegol yn golygu cartref sefydlog ar gyfer teulu neu unigolyn rhywle y gallant ei alw yn gartref.  Hoffwn hefyd ddiolch i aelodau ein fforwm digartrefedd am eu hymrwymiad.  Rydym yn cyfarfod rheolaidd â phartneriaid o'r Trydydd Sector er mwyn datblygu ein gwasanaeth ar gyfer y digartref ac mae hon yn rôl hanfodol a chymaint i gyfrannu at ein cynllun newydd. Datblygwyd grwpiau eraill hefyd megis y gwaith a wneir yn Llanelli yn Y Lle ac yn y capeli lleol. Mae'r rhain i gyd yn gwneud gwaith cadarnhaol iawn ac yn gwneud gwahaniaeth. Mae llawer o bobl sy'n gysylltiedig â'r rhain yn rhoi o'u hamser yn wirfoddol ac mae rhai ohonoch chi yma heddiw ac mae fy niolch yn fawr iawn i chi hefyd. Ond ni fyddwn yn eistedd yn ôl a meddwl ein bod yn gwneud yn iawn – nid yw'n ddigon i fi na'r staff yn yr adran dai, a bydd ein cynllun digartrefedd newydd yn canolbwyntio ar hyn. Rydym am gydnabod y potensial am argyfwng yn gynt drwy ddarparu mwy o gymorth cymunedol mewn rhai ardaloedd cymunedol penodol, ailfodelu llety dros dro ar gyfer pobl ifanc, gan roi mwy o ddewisiadau tai i bobl ifanc, a pharhau i weithio gyda'r sector gwirfoddol er mwyn sicrhau bod cefnogaeth effeithiol ar gael.  Mae adroddiad diweddar gan Shelter yn sôn am y cynnydd mewn achosion o gysgu ar y stryd er nad yw'n broblem fawr yma fel ardaloedd eraill. Rydym am barhau i wneud yn si?r, os bydd rhywun yn cysgu ar y stryd, ein bod yn ymwybodol o hyn bod ein gwaith allgymorth yn gallu ymateb yn gadarnhaol i hyn. Yn bwysicach na dim, rydym am weithio gyda'n gilydd er mwyn datrys problemau digartrefedd a rhoi cartrefi iddynt cyn gynted â phosibl ac rwy'n gobeithio eich bod chi fel Aelodau yn cytuno â hyn. Rwy'n edrych ymlaen at y drafodaeth y prynhawn yma – dewch  – bydd eich sylwadau ac awgrymiadau yn bwysig iawn. Diolch ichi.”

 

Gofynnodd y Cynghorydd McPherson y cwestiwn atodol canlynol:-

 

Sut yr ydym yn bwriadu mynd i'r afael â gorddibyniaeth ar dai amlfeddiannaeth i bobl sengl, sef y gyfradd uchaf o bobl sy'n ddigartref, sut yr ydym yn bwriadu goresgyn hyn?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Linda Evans, Yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Dai:-

Diolch yn fawr i chi am y cwestiwn. Rydych wedi codi pwynt pwysig iawn. Mae pobl yn byw mewn tai amlfeddiannaeth ac yn aml iawn maent yn bobl ifanc a phobl sengl. Yn anffodus, mae'n rhaid i ni eu defnyddio gan ein bod yn defnyddio'r holl dai sydd gennym, ond mae'n rhaid inni hefyd ddefnyddio tai amlfeddiannaeth. Ar hyn o bryd rydym yn edrych ar ddatblygu gwahanol opsiynau ar gyfer y bobl ifanc hyn, ond gallaf ddweud hefyd, ac mae'n bwysig imi sôn am hyn, mae'r tai amlfeddiannaeth yr ydym yn eu defnyddio yn cael eu harolygu gennym, nid yn wythnosol ond yn rheolaidd. Mae hynny'n bwynt pwysig iawn, nid ydym yn gosod pobl mewn tai amlfeddiannaeth a'u gadael yno, mae'n fesur dros dro ac rwy'n gobeithio mai cam dros dro byr iawn yw hyn, ond yn anffodus mae'n rhaid i ni eu defnyddio ar adegau. Wedi dweud hynny, mae rhai pobl yn mynd i lety dros dro mewn t? amlfeddiannaeth ac maent yn hapus i aros yno, nid ydynt am symud ymlaen. Mae gennym gartrefi, llety dros dro mewn argyfwng, ac mae'n rhaid i ni eu defnyddio ar adegau. Ond byddwn yn edrych ar adeiladu cartrefi newydd, mae'r holl gartrefi ychwanegol yr ydym yn mynd eu hadeiladu, yr holl dai yr ydym yn eu prynu, mae hyn yn golygu y byddwn yn gallu cymryd enw arall oddi ar ein rhestr aros a darparu mwy o lety ar gyfer pobl. Rwyf i, yn fwy nag unrhyw un ohonoch, am sicrhau bod gan holl bobl Sir Gaerfyrddin do uwch eu pen ac mae hynny'n her fawr iawn, ac rwy'n derbyn hynny,  ond drwy weithio gyda'n gilydd byddwn yn cyrraedd y nod, ond mae'n rhaid inni gofio hefyd y ceir un neu ddau ar y strydoedd, mae yna un ar hyn o bryd sydd wedi bod yn teithio o amgylch Llanelli, nid yw rhai ohonynt am gael cartref parhaol. Efallai ei bod yn anodd o bosibl i ni gredu hynny ond dyna yw dewis rhai pobl ac yn y sefyllfaoedd hynny, rhaid inni dderbyn nad oes llawer y gallwn ei wneud ond cyhyd a'u bod yn gwybod ble mae help ar gael iddynt a'u bod yn dod atom pan fo angen iddynt. Diolch i chi unwaith eto am y cwestiwn.”