Cofnodion:
Yn sgil gweithredu'r prawf budd y cyhoedd PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL, yn unol â'r Ddeddf y cyfeiriwyd ati yng nghofnod 12 uchod, y byddai'r mater hwn yn cael ei ystyried yn breifat, gan beidio â gadael i'r cyhoedd fod yn bresennol yn y cyfarfod oherwydd bod yr adroddiad yn cynnwys enwau'r rheiny sy'n gwneud cais am aelodaeth ar y Bwrdd Strategaeth Economaidd.Er y byddai budd y cyhoedd yn cefnogi ymagwedd agored a thryloyw fel arfer, roedd hynny'n llai pwysig na budd y cyhoedd o ran cynnal cyfrinachedd yn yr achos hwn gan na ddylai ymgeiswyr osgoi gwneud cais am swyddi oherwydd ei bod yn bosibl y bydd eu henwau'n cael eu cyhoeddi ac na fyddant yn llwyddiannus. Byddai enwau'r rhai llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar ôl y cyfarfod.
Rhoddwyd gwybod i'r Cyd-bwyllgor, o dan delerau'r Cytundeb Cyd-bwyllgor (cymal 17), y gallai'r Pwyllgor hwyluso'r gwaith o sefydlu Bwrdd Strategaeth Economaidd, byddai gan y Bwrdd gylch gwaith fel y pennir yn Atodlen 6.
Roedd y broses ar gyfer recriwtio aelodau i'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn destun cytundeb unfrydol aelodau'r Cyd-bwyllgor, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Roedd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cymeradwyo'r broses a gynigir gan y Cyd-bwyllgor Cysgodol sydd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn.
Bu'r Pwyllgor yn ystyried yr enwebiadau a ddaeth i law fel rhan o'r broses recriwtio ac enwebu, yn ogystal ag ystyried argymhelliad gan y Cyd-bwyllgor Cysgodol y dylai 5 cynrychiolydd y sector preifat gael eu cynyddu i 6 cynrychiolydd, yn sgil arbenigedd yr ymgeiswyr.
Nododd y Cyd-bwyllgor y byddai Mr Hamish Laing (Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) yn gadael ei swydd cyn bo hir a dywedwyd y byddai aelod arall yn cael ei nodi i'r Cyd-bwyllgor ei ystyried yn y cyfarfod nesaf.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL
1. Sefydlu Bwrdd Strategaeth Economaidd yn ffurfiol yn unol â chymal 17.1 o'r Cytundeb Cyd-bwyllgor a'r cylch gorchwyl a nodir yn atodlen 6.
2. Bod y Cyd-bwyllgor yn cymeradwyo'n swyddogol y cynigion o ran y broses recriwtio a dethol fel y cytunwyd arni gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
3. Penodi Edward Tomp yn Gadeirydd y Bwrdd Strategaeth Economaidd yn unol â'r broses recriwtio y cytunwyd arni gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
4. Cynyddu nifer y cynrychiolwyr o'r sector preifat o 5 i 6 aelod; a
5. Penodi'r unigolion canlynol yn aelodau'r Bwrdd Strategaeth Economaidd yn unol â'r broses recriwtio y cytunwyd arni gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.:-
1 cadeirydd y Sector Preifat a chynrychiolydd addas arall
Edward Tomp - Valero UK
6 chynrychiolydd y Sector Preifat
James Davies - Industry Wales
Chris Foxhall - Buddsoddwr Preifat
Alec Don - MHPA – Prif Weithredwr
Nigel Short - Browns Hotel a Three Mariners yn Nhalacharn – Perchennog
Simon Holt - Wedi ymddeol yn ddiweddar fel Pennaeth Adran ac Oncolegydd Llawfeddygol Ymgynghorol yn Uned Gofal y Fron Peony, Ysbyty'r Tywysog Phillip. GIG
Amanda Davies - Prif Weithredwr Gr?p Pobl
1 cynrychiolydd Addysg Uwch neu Addysg Bellach
Mark Clement - Prifysgol Abertawe
Barry Liles - Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
2 gynrychiolydd Gwyddorau Bywyd neu Lesiant
Sarah Jennings - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Hamish Laing - Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
4 - Arweinwyr y Cynghorau neu eu cynrychiolwyr enwebedig
Y Cynghorydd Rob Stewart, Dinas a Sir Abertawe
Y Cynghorydd Emlyn Dole, Cyngor Sir Caerfyrddin
Y Cynghorydd Rob Jones, Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot
Y Cynghorydd David Simpson, Cyngor Sir Penfro