Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD BILL THOMAS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES, YR AELOD O'R BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG Y PHLANT

Dros ddwy flynedd, talodd darparwr athrawon cyflenwi mwyaf Cymru bron i £1 miliwn i ddau gyfarwyddwr. Eto, mae cyflogau ac amodau athrawon cyflenwi gryn dipyn yn is nag ar gyfer staff parhaol. O ganlyniad i'r annhegwch hwn cynhelir gwrthdystiad yng Nghaerdydd ar y 7fed o Orffennaf.

Beth mae'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant yn ei wneud i drefnu bod athrawon cyflenwi yn cael eu comisiynu a'u cyflogi trwy drefniadau eraill, gan gynnwys eu cyflogi'n uniongyrchol?

 

Cofnodion:

“Dros ddwy flynedd, talodd darparwr athrawon cyflenwi mwyaf Cymru bron £1 miliwn i ddau gyfarwyddwr. Eto, mae cyflogau ac amodau athrawon cyflenwi gryn dipyn yn is nag ar gyfer staff parhaol. O ganlyniad i'r annhegwch hwn cynhelir gwrthdystiad yng Nghaerdydd ar 7 Gorffennaf. Beth mae'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant yn ei wneud i drefnu bod athrawon cyflenwi yn cael eu comisiynu a'u cyflogi trwy drefniadau eraill, gan gynnwys eu cyflogi'n uniongyrchol?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Hoffwn ddechrau gan ddweud bod athrawon cyflenwi yn adnodd hanfodol i'n hysgolion. Wrth gwrs, maent yn gwneud gwaith cyflenwi pan fydd athrawon yn sâl ac felly maent yn sicrhau bod addysg yn parhau i gael ei rhoi pan fydd yr athro/athrawes arferol yn yr ysgol yn absennol.  Ond wrth gwrs, mae angen athrawon cyflenwi arnom pan fydd ein hathrawon yn mynd ar gyrsiau ac mae'r cyrsiau hyfforddiant hynny yn rhan hanfodol o ddatblygiad yr unigolion hynny.  Mae'n bwysig bod ein hathrawon yn datblygu eu sgiliau ac felly gallwch weld bod athrawon cyflenwi yn rhan hanfodol o lwyddiant ein system addysg.

 

Mae dod o hyd i athrawon cymwysedig da yn gallu bod yn anodd iawn, ar adegau gall fod yn amhosibl, felly mae'n bwysig bod gennym ryw fath o system ar waith.

 

Rwyf yn barod i gyfaddef heddiw fod yna anawsterau, felly gallaf sicrhau'r Cynghorydd Bill Thomas fy mod i a'r Adran yn nodi hyn a gwaith Llywodraeth Cymru.  Rydym eisiau gweld ateb i'r sefyllfa anodd hon.  Rydym wedi dosbarthu'r dogfennau a'r canllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ac ESTYN.  Gallwch gael copïau o'r rheiny os ydych yn dymuno.  Fodd bynnag, y peth pwysig yw bod athrawon yn gymwysedig ar gyfer y gwaith.

 

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud? Beth mae Llafur Cymru yn ei wneud i sicrhau bod athrawon cyflenwi'n cael cyflog teg?  Sefydlwyd gweithlu gweinidogol ym mis Mehefin 2016, a chafwyd adroddiad ym mis Chwefror 2017, a ddiweddarwyd ym mis Medi y llynedd gan Kirsty Williams, sef Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.  Mae Llywodraeth Cymru yn chwilio am fodelau eraill o glyfogi athrawon cyflenwi. 
Ar hyn o bryd, Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n pennu graddfa gyflog a chylch gwaith athrawon cyflenwi.  Gallai ddod yn gyfrifoldeb Llywodraeth Cymru, a gobeithiaf y bydd hynny'n digwydd.  Rydym wedi cael gwybod mai'r adeg gynharaf y gellir trosglwyddo'r cyfrifoldeb hwn fydd mis Medi y flwyddyn nesaf.  Blwyddyn i fis Medi. 

 

Ar hyn o bryd yn Sir Gaerfyrddin, rydym yn rhan o gynllun peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru, sy'n helpu'r athrawon hynny sydd newydd gymhwyso.  Y nod yw rhoi cymorth iddynt fynd ar yr ysgol yrfaol; mae'n hynod bwysig gael y swydd gyntaf honno.  Hoffem gynyddu ein galluoedd o ran addysgu.  Mae 11 sir wedi dangos diddordeb yn y cynllun peilot hwn ac rwyf yn falch iawn o ddweud ein bod ni yn Sir Gaerfyrddin yn un o'r rheiny.  Rydym yn gweithredu'r cynllun hwn yn Ysgol Coed Cae yn Llanelli. Rhoddwyd swydd i 3 o athrawon newydd gymhwyso a byddant bellach ar gael i wneud gwaith cyflenwi yn ôl yr angen.  Rydym wedi mynd ati, yn fwriadol, i recriwtio athrawon dwyieithog fel y gallant fynd i ddosbarthiadau Cymraeg a dosbarthiadau Saesneg.  Mae'n rhy gynnar eto i fesur effeithiolrwydd y cynllun hwn, ond rydym ni, ynghyd â'r adran, yn credu ei fod yn gynllun da.  Mae'n ddiddorol, ond y cwestiwn y mae pob un ohonom yn ei ofyn yw "a yw'n gynaliadwy?"  Byddaf yn sicrhau y bydd adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Addysg.  Hefyd, ar gais y Bwrdd Gweithredol, mae'r Tîm Rheoli Corfforaethol yn edrych ar ein gwaith gydag asiantaethau.  Fel sir ac fel adran, rydym eisiau cael y gwerth gorau am yr arian, yn ogystal â rhoi cyflog teg i'n gweithwyr.

 

Rydych wedi cyfeirio at un cwmni. Rwyf yn gwybod pa gwmni, ac ni fyddaf yn enwi'r cwmni gan ein bod yn gwe-ddarlledu'r bore yma. Cyflenwr trydydd parti ydyw, ond nid yw'n orfodol bod ysgolion yn defnyddio'r cwmni hwn. Fi yw Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Brynaman. Mae'r cwmni hwn wedi methu â'n cynorthwyo yn y gorffennol, nid oedd unrhyw un ar gael i ddiwallu ein hanghenion. Ond dyfarnwyd y contract i'r cwmni hwn ar ôl proses dendro drylwyr.  Cafodd y gofynion technegol eu diwallu, ac roedd y telerau masnachol, sef y pris a delir am y gwasanaeth, yn dderbyniol. Felly, hwnnw oedd y tendr mwyaf economaidd. Rwy'n cymryd eich bod yn cyfeirio at y cwmni hwnnw.

 

Mae ei strategaeth recriwtio'n gynhwysfawr, mae'n gyffredinol. Gallaf roi'r manylion hynny i chi. Hoffwn ychwanegu ein bod yn gwario dros £4m ar athrawon cyflenwi ar hyn o bryd. Talwyd oddeutu £930,000 i'r cwmni hwnnw'n benodol.  Rwy'n ymwybodol o 14 cwmni sy'n cael eu defnyddio yn Sir Gaerfyrddin, ac mae pob un ohonynt yn gwmnïoedd preifat; fel Awdurdod nid oes gennym unrhyw reolaeth dros eu cyflogau.  Dim rheolaeth o gwbl.

 

Hoffwn ddweud hyn i gloi, mae gennym, fel sir, gynllun yswiriant sy'n dda iawn ac rydym yn cynnig hyn i'n hysgolion.  Rwyf yn obeithiol iawn y bydd yr ysgolion yn manteisio ar hyn a llunio Cytundeb Lefel Gwasanaeth, a fyddai o fudd iddynt.  Gallant wedyn arbed arian, dim ond os ydynt yn gwrando arnom.  Felly os ydych yn rhan o Gorff Llywodraethu mewn ysgol, ac mae hynny'n wir i'r rhan fwyaf ohonoch, a gaf eich annog i fanteisio ar ein cynllun yswiriant ar gyfer athrawon cyflenwi?  Mae'n fuddiol i'n hysgolion, mae gennyf wybodaeth am yr holl gwmnïau ac rwyf yn barod i drosglwyddo'r wybodaeth honno i'r Cynghorydd Bill Thomas. Diolch yn fawr iawn.


 

Gofynnodd y Cynghorydd Bill Thomas y cwestiwn atodol canlynol:-

 

Diolch am roi ateb manwl i'r cwestiwn.  Nid beirniadu athrawon cyflenwi oedd bwriad y cwestiwn, rwyf yn gwerthfawrogi eu bod yn angenrheidiol mewn ysgolion.  Nid yw cael athrawon dadrithiedig mewn ystafelloedd dosbarth yn fuddiol i blant.  Efallai eu bod yn ddadrithiedig oherwydd eu bod yn gwybod, fel athrawon cyflenwi, eu bod yn cael cyflog sy'n llawer llai o gymharu â'r athrawon yn yr ystafell ddosbarth nesaf.  Felly rwyf yn falch eich bod wedi dweud bod Sir Gaerfyrddin yn cymryd rhan yn y gr?p gorchwyl y mae Llywodraeth Cymru wedi'i sefydlu a'ch bod hefyd wedi manteisio ar y cyfle i gymryd rhan y cynllun peilot.  Rydych yn iawn bod yna fudd amlwg i'r athrawon newydd gymhwyso sydd wedyn yn cael swydd fel rhan o'r cynllun peilot hwnnw, ond mae hefyd yn fuddiol i'r ysgol, gan na fydd yn talu ffïoedd 'afresymol' i asiantaethau.  A wnewch ddweud wrthym beth fydd y sefyllfa debygol dros y 12 mis nesaf o ran athrawon cyflenwi, yn benodol yn Sir Gaerfyrddin?

 

Ymateb gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant:-

 

Fel dywedais, mae athrawon cyflenwi'n hanfodol. Ein bwriad yw cynyddu nifer yr athrawon cyflenwi ac rydym yn gwneud ein gorau glas i gyflawni hyn.  Ein gweledigaeth ar gyfer y Sir yw y bydd y cynllun peilot yr ydym wedi'i ddechrau gyda chymorth Llywodraeth Cymru yn llwyddo.  Gobeithiaf y bydd y cynllun yn hyfyw ac y bydd modd ei ehangu, oherwydd bod rhaid i athrawon cyflenwi fod yn dda, fel yr ydych yn ei ddweud.  Nid ydym eisiau i unrhyw un gerdded mewn i ddosbarth nad yw'n adnabod y disgyblion ac nad oes syniad ganddo am yr hyn y mae'r dosbarth wedi'i ddysgu yn y gorffennol.  Rydym eisiau system sy'n drylwyr.  Dyna pam rwyf am i athrawon cyflenwi fynd ar gyrsiau hyfforddiant hefyd. Mae'n rhaid iddynt gael eu datblygu, felly gobeithio y gallwn ehangu ac ychwanegu at yr hyn rydym eisoes wedi'i ddechrau dros y 12 mis nesaf.