Agenda item

ADRODDIAD BLYNYDDOL DRAFFT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN AR GYFER 2017/18.

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd G. Jones a Mrs M. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, ei bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ar berfformiad yn y gorffennol erbyn diwedd mis Hydref bob blwyddyn, a'i bod yn ofynnol i'r Awdurdod gyhoeddi Adroddiad Blynyddol ynghylch ei Amcanion Llesiant o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

 

Roedd fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol y Cyngor yn cynnwys yr Amcanion Llesiant a oedd yn berthnasol i'r Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant.  Roedd yr adroddiad yn bwrw golwg gyffredinol ar berfformiad 2017/18, adroddiadau cynnydd ar gyfer pob un o'r 15 Amcan Llesiant a dolen i olrhain cynnydd pob cam gweithredu penodol a tharged a roddwyd i bob Amcan Llesiant.  Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi gwybodaeth ychwanegol am berfformiad a data alldro (mis Medi) a chanlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru (mis Mehefin), a fyddai'n cael eu diweddaru pan fyddai'r canlyniadau ar gael.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod 29.4% o blant dros bwysau neu'n ordew. Gofynnwyd i swyddogion pwy sy'n gosod y targedau a pha adborth sy'n cael ei roi i rieni. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod i'r Pwyllgor mai'r swyddogion sy'n trafod ac yn gosod y targedau. Eglurodd fod nifer o gynlluniau ar gael sy'n ymwneud â gordewdra yn ystod plentyndod ac sy'n cael eu hyrwyddo ar raddfa eang, er enghraifft clybiau bwyta'n iach. Mae swyddogion yn gweithio ar amryw o gynlluniau gyda chydweithwyr o'r Adran Hamdden;

·       Gofynnwyd am ragor o wybodaeth ynghylch mwy o gysoni rhwng y Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) a Dechrau'n Deg, ac eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod Dechrau'n Deg yn rhaglen sy'n cael ei hariannu gan y llywodraeth ac sy'n rhoi cymorth i blant sy'n byw yn ardaloedd difreintiedig y sir. Mae'r Tîm o Amgylch y Teulu yn ymyrryd pan gydnabyddir bod angen cymorth ychwanegol ar blant a bod angen dull o weithio mewn tîm, ac mae'n caniatáu i asiantaethau megis iechyd, gofal cymdeithasol ac ati ddod ynghyd a gweithio'n agos gyda'i gilydd i fynd i'r afael ag anghenion y plentyn;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith bod asesiadau sy'n cael eu gwneud drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cwympo i 39.9% a gofynnwyd i'r swyddogion am eglurhad. Eglurodd y Cyfarwyddwr y gallai hyn fod oherwydd amrywiaeth o resymau, er enghraifft bod mwy o blant wedi mynd i ysgolion uwchradd cyfrwng Saesneg eleni. Ychwanegodd y byddai swyddogion yn dadansoddi'r ffigurau'n fanwl ac yn dosbarthu'r wybodaeth i aelodau;

·       Mynegwyd pryder bod ysgol yn cofnodi'r adeg pan fo plentyn yn ymweld ag orthodontydd yn absenoldeb wedi'i awdurdodi yn hytrach nag yn un meddygol, a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai modd gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r anghysondeb hwn. Eglurodd y Cyfarwyddwr fod swyddogion yn trafod â Llywodraeth Cymru ynghylch y mater ar hyn o bryd.

·       Gofynnwyd beth allai gael ei wneud ynghylch plant sy'n absennol o'r ysgol yn rheolaidd, ac egluroddd y Cyfarwyddwr mai nifer fach yn unig sydd yn y sir a bod y Tîm Llesiant yn gweithio gyda'r teuluoedd hyn i roi cymorth iddynt. Mewn rhai achosion mae camau cyfreithiol yn cael eu cymryd ac mae'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio yn ôl yr angen. Ychwanegodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant fod ystadegau presenoldeb yn well o lawer nag yr oeddent bum mlynedd yn ôl ac oherwydd bod cymaint o welliant wedi cael ei wneud mae'r ffocws bellach ar ddisgyblion sy'n bresennol llai na 85% o'r amser.

 

PENDERFYNWYD bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn.

 

 

Dogfennau ategol: