Agenda item

CYFLWYNO RHYDDFRAINT CYNGOR SIR CAERFYRDDIN I MR DAVID TOM DAVIES OBE MM, BERLLAN FACH, DRYSLWYN, CAERFYRDDIN

Cofnodion:

[Sylwer: Ailymgynullodd y Cyngor yn y Siambr, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 11.35am]

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Siambr y Cyngor i Mr David Tom Davies OBE MM, ynghyd â'i deulu a'i ffrindiau.  

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y penderfyniad unfrydol a wnaed gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 13 Mehefin 2018 (gweler Cofnod 11) i gyflwyno Rhyddfraint Sir Gaerfyrddin i Mr David Tom Davies OBE MM er mwyn cydnabod ei gofnod hir a nodedig o wasanaethu'r cyhoedd yn Llywodraeth Leol Cymru.

 

Bu Mr David Tom Davies, a gaiff ei alw'n 'D.T' gan bawb, yn gwasanaethu fel Cynghorydd ar gyfer Llandeilo a'r ardal gyfagos rhwng 1970 a 2003.  Cafodd Mr Davies ei ethol gyntaf fel Cynghorydd Sir ar yr hen Gyngor Sir Caerfyrddin yn 1969. Parhaodd fel Cynghorydd Sir ar ôl ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974 wrth i Gyngor Sir Dyfed ddod i fodolaeth yn swyddogol yn 1976. 

Yn ystod ei gyfnod yn gwasanaethu Cyngor Sir Dyfed bu Mr Davies yn Gadeirydd y Cyngor yn 1981-82 ac yn Gadeirydd y Pwyllgor Addysg am nifer o flynyddoedd. Parhaodd ei yrfa drwy gyfnod arall o ad-drefnu awdurdodau lleol ugain mlynedd yn ddiweddarach gan ddod yn Gadeirydd cyntaf y Cyngor Sir Caerfyrddin presennol yn 1996. 

Bu Mr Davies hefyd yn aelod o Gyngor Cymuned Llangathen am dros 40 o flynyddoedd ac yn aelod o fwrdd llywodraethwyr Ysgol Tre-gib.   Bu’n allweddol i sefydlu’r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne ac yn ddiweddarach Gerddi Aberglasne. 

Clywodd y Cyngor am ddigwyddiadau nodedig ym mywyd Mr Davies, gan gynnwys cyfnod o amser pan gafodd ei gadw yn garcharor rhyfel ym Mrwydr Creta yn 1941 a threuliodd dair blynedd yn garcharor yn Awstria a Hwngari. Hefyd, cafodd ei ddal yn garcharor yng ngwersyll crynhoi Zemun ger Belgrade.

 

Roedd y Cynghorydd Cefin Campbell, sydd yn gwasanaethu ward Llanfihangel Aberbythych erbyn hyn, ymhlith y rheiny a enwebodd Mr Davies ar gyfer y Rhyddfraint Anrhydeddus.  Siaradodd y Cynghorydd Campbell am ymrwymiad anhunanol Mr Davies i'w gymuned a'i allu fel Cadeirydd, yn ogystal â'i natur benderfynol a'i wytnwch arbennig yn ei wasanaeth yn y rhyfel.

 

Yn ogystal, cydnabuwyd bod Mr Davies yn dathlu ei ben-blwydd yn 100 oed heddiw.

 

Er mwyn cydnabod a nodi ei gyfraniad enfawr at wasanaethau cyhoeddus yn Sir Gaerfyrddin, cynigiwyd cyflwyno Rhyddfraint Sir Gaerfyrddin i Mr Davies.

 

Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y sgrôl a nodir y dyfyniad canlynol:-

 

"Sir Gaerfyrddin - Er mwyn cydnabod gwasanaeth nodedig a rhagorol a roddwyd i'r sir, penderfynwyd yng nghyfarfod Cyngor Sir Caerfyrddin ar 13 Mehefin 2018 gyflwyno Rhyddfraint y Sir i D.T. Davies. Rhoddwyd sêl gyffredin Cyngor Sir Gaerfyrddin heddiw ar 11 Gorffennaf ym mhresenoldeb D.T. Davies, y Cynghorydd J.M. Charles, Cadeirydd y Cyngor a Mark James, Prif Weithredwr y Cyngor."

 

Cyflwynodd y Cadeirydd Ryddid Sir Gaerfyrddin i Mr David Tom Davies OBE MM yn ffurfiol.


 

Talodd yr aelodau deyrnged i Mr Davies, gan gydnabod ei ymrwymiad dros gyfnod o 50 mlynedd i'r Cyngor, i'w gymuned ac i lywodraeth leol Cymru.  Roedd yn uchel ei barch ac roedd pawb bob amser yn gwerthfawrogi'n fawr ei ddoethineb a'i brofiad. Cafodd ei longyfarch ar y llwyddiant unigryw a rhagorol hwn.

Diolchodd Mr Davies i bawb am yr anrhydedd a gyflwynwyd iddo ac am eu geiriau caredig.