Cofnodion:
(NODER:
· Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawodd Siambr y Cyngor tra oedd y Cyngor yn ystyried yr eitem)
· Roedd Jake Morgan y Cyfarwyddwr Cymunedau a Wendy Walters y Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach a gadawsant Siambr y Cyngor tra oedd y Cyngor yn ystyried yr eitem)
Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Mehefin, 2018 (gweler Cofnod 8), wedi ystyried adroddiad ar benderfyniad blaenorol y Cyngor i sefydlu Cartrefi Croeso Cyf, cwmni tai sy'n berchen yn llwyr i'r Cyngor, er mwyn adeiladu tai i'w gwerthu a'u gosod ac i ysgogi rhagor o weithgarwch adfywio. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw gofynnwyd i'r Cyngor ystyried adroddiad am yr eitemau canlynol ynghylch rhedeg y cwmni:
- Gofynion ariannu'r cwmni – ymgorffori Cynllun Busnes 'lefel uchel' 2018-2023 y cwmni;
- Y broses ar gyfer penodi cyfarwyddwyr;
- Dirprwyo materion Cytundeb y Cyfranddalwyr.
PENDERFYNWYD mabwysiadu argymhellion canlynol y Bwrdd Gweithredol:-
Gofynion Ariannu:
Nodi Cynllun Busnes lefel uchel 2018 – 2023 y Cwmni, sydd wedi'i ddatblygu gan Adran Dai / Cyfarwyddiaeth Cymunedau y Cyngor, fydd yn cael ei fireinio yn dilyn astudiaethau dichonoldeb manwl y prosiect a'r ymchwiliadau safle;
Cytuno i dalu costau sefydlu'r Cwmni ar gyfer 2017/18 o'r cyllidebau refeniw presennol, hyd at uchafswm o £100,000;
Cytuno ar Fenthyciad Costau Gweithredu i'r Cwmni mewn perthynas â'i gostau gweithredu yn 2018/19 hyd at uchafswm o £280,000. Bydd hyn yn cael ei drosglwyddo ymlaen llaw, yn chwarterol ac mewn cyfrannau o 25%;
Cytuno ar Fenthyciad Datblygu Prosiect pellach hyd at uchafswm o £750k, i'w ryddhau mewn cyfrannau y cytunir arnynt, er mwyn datblygu manylion busnes y cwmni i'r Cyngor eu hystyried ymhellach. Bydd y benthyciad hwn yn cael ei ddefnyddio i wneud cynnydd ar y canlynol:
· Gwerthusiadau datblygu pellach o wyth safle, gan gynnwys 2 brosiect gwledig.Bydd hyn yn cynnwys prisiad manwl, cymorth gwladwriaethol, cyngor cyfreithiol a chyngor ynghylch trethiant;
· Cynigion datblygu cynllun/ymchwiliadau safle cynhwysfawr a manwl ar gyfer tri safle, gan gynnwys un gwledig
· Modelau ariannol manwl a’r cyngor cysylltiedig ynghylch materion cyfreithiol a threthiant;
· Datblygu strategaeth gaffael effeithlon;
· Comisiynu gwerthusiadau technegol manwl ac arolygon cysylltiedig megis arolygon safle, pridd, trafnidiaeth ac arolygon ecolegol;
· Cysylltu â chyfleustodau a chyrff statudol;
· Comisiynu gwaith dylunio manwl a manylebau (a fydd hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer prosiectau dilynol);
· Derbyn Cyngor cyn cynllunio a chwblhau ymgynghoriad cyn cynllunio
Bydd swm cychwynnol o £250,000 o'r Benthyciad Datblygu Prosiect manwl ar gael i'r cwmni er mwyn symud ymlaen â'r prawf o gysyniad. Bydd y gwaith o gymeradwyo rhyddhau rhagor o gyllid (hyd at y terfyn benthyca) yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, ac fe gaiff ei ryddhau yn sgil arfarniad masnachol boddhaol o dri safle cychwynnol y prawf o gysyniad;
Nodwyd y bydd ceisiadau am fenthyciadau pellach ar gyfer gwariant ar ddatblygiadau mawr (er enghraifft, trosglwyddo tir, ffioedd proffesiynol, costau adeiladu) yn dod i law yn ôl yr angen a byddant yn rhan o'r cynllun busnes manwl a fydd yn cael ei gwblhau ar ôl i'r gwerthusiadau safle unigol gael eu cwblhau;
Bydd y cyllid drwy fenthyciadau ar gael ar 3.5% yn uwch na'r gyfradd a bennir gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar gyfer y Benthyciad Costau Gweithredu a 2.2% yn uwch na chyfradd y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar gyfer y Benthyciad Datblygu Prosiect.Bydd elfennau terfynol y cytundeb benthyciad manwl yn cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol.
Penodi Cyfarwyddwyr
Bod y penderfyniad i benodi a diswyddo Cyfarwyddwyr y Cwmni yn cael ei wneud gan y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, ac ar ran y Bwrdd Gweithredol;
Bod y Cyfarwyddwr Cymunedau (Jake Morgan), a'r Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi (Wendy Walters) yn cael eu penodi yn gyfarwyddwyr y cwmni;
Y cytunir ar broses ffurfiol i benodi'r Cyfarwyddwyr sy'n weddill.
Dirprwyo materion yn ymwneud â'r Cytundeb Cyfranddaliwr.
Dirprwyo awdurdod (lle bo modd) i'r Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i weithredu ar ran y cyfranddalwyr mewn perthynas â'r Cytundeb Cyfranddaliwr”.
Dogfennau ategol: