Agenda item

BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor bod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 4 Mehefin, 2018 (gweler Cofnod 6) wedi ystyried adroddiad ar sefydlu'n ffurfiol Gyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r ffrydiau cyllido cysylltiedig.

 

Atgoffwyd y Cyngor ei fod eisoes, ar y cyd â thri awdurdod lleol Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Benfro, wedi llofnodi Cytundeb y Fargen Ddinesig (Penawdau'r Telerau) - sy'n werth cyfanswm o £1.3bn - a oedd wedi'i lofnodi gan lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar 20 Mawrth 2018. Wedi hynny roedd Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi bod yn gweithredu ar ffurf gysgodol ac roedd yr adroddiad cyfredol yn nodi fframwaith cyfreithiol y Cyd-bwyllgor gan ymgorffori trefniadau llywodraethu a ffrydiau cyllido cysylltiedig i'r Cyngor eu cymeradwyo. Os byddai'r adroddiad yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor, nodwyd y byddai angen hefyd i'r tri awdurdod lleol arall ei gymeradwyo a hynny erbyn diwedd Gorffennaf 2018.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, cyfeiriwyd at ran 5.0 ohono a oedd yn ymwneud ag aelodaeth y Cyd-bwyllgor, sef 12 aelod, tri o bob un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan ohono. Gofynnwyd am sicrwydd – ac fe'i rhoddwyd – y byddai cynrychiolaeth Sir Gaerfyrddin ar y Cyd-bwyllgor yn wleidyddol gytbwys gydag un aelod o bob gr?p gwleidyddol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu argymhellion canlynol y Bwrdd Gweithredol:

 

“Cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r trefniadaeth llywodraethu cysylltiedig;

Cymeradwyo Cytundeb Drafft y Cyd-bwyllgor a dirprwyo awdurdod i'r Prif Weithredwr, a fyddai'n ymgynghori â'r Arweinydd, i wneud newidiadau bychain ac angenrheidiol i'r Cytundeb, gyda sêl bendith yr awdurdodau partner a llywodraethau'r Deyrnas Unedig a Chymru, i gwblhau'r Cytundeb;

Cymeradwyo sefydlu Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

Cymeradwyo'r cynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfrannu £50k y flwyddyn dros 5 mlynedd i dalu am gostau swyddogaethau'r Cyd-bwyllgor, y Bwrdd Strategaeth Economaidd, Bwrdd y Rhaglen, y Cyd-bwyllgor Craffu, y Corff Atebol a'r Swyddfa Ranbarthol a chymeradwyo'r egwyddor bod rhagor o gyllid yn cael ei ddarparu sy'n cyfateb i frigdoriad o 1.5% o ddyraniad ariannol y Fargen Ddinesig. Dirprwyo'r gwaith o gytuno ar sylfaen y ddarpariaeth ariannu hon i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol gan ymgynghori â'r Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau;

Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol (Swyddog Adran 151) i archwilio a gweithredu'r benthyciad cymesur mwyaf priodol i ariannu'r prosiectau rhanbarthol a gyflwynir yn ardal y Cyngor;

Awdurdodi Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol i drafod â'i gyd-gyfarwyddwyr y dyraniad mwyaf priodol o ran cadw trethi annomestig rhanbarthol yn achos yr 11 prosiect.”

 

 

Dogfennau ategol: