Agenda item

CYNNIG A GYFLWYNWYD GAN Y CYNGHORYDD GARETH JOHN

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod o'r diwedd nad yw Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn gallu ymdopi â'r heriau y mae'n eu hwynebu a bod y sefyllfa bellach yn anghynaliadwy. Er y cafwyd rhywfaint o gyllid ychwanegol gan y Llywodraeth, mae gwasanaethau allweddol wedi mynd yn fwyfwy bregus ac mae cwestiynau yn cael eu holi ynghylch diogelwch cleifion.

Byddai gofal cymunedol gwirioneddol integredig yn ffordd effeithiol o leddfu llawer o'r pwysau sydd ar ein hysbytai ond, er bod consensws o blaid y newid hwn, cafwyd symudiad rhwystredig o araf i'r cyfeiriad hwn.

 

Nid yw strwythurau rheoli ar wahân yn cefnogi dull integredig o'r fath ac, fel y profwyd, ni all awdurdodau iechyd nac awdurdodau lleol gyflawni newid i'r graddau sydd eu hangen ar eu pennau eu hunain. 

 

Er mwyn gwireddu gofal integredig, rhaid cynyddu'r gallu ym meysydd gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal cymdeithasol yn sylweddol, a rhaid iddynt weithio'n ddi-dor ar draws ffiniau. Byddai timau gofal iechyd sylfaenol ac iechyd y cyhoedd integredig, sy'n cynnwys ystod gynhwysfawr o weithwyr proffesiynol clinigol, anfeddygol a gofal cymdeithasol, mewn sefyllfa lawer gwell i fynd i'r afael â'r heriau yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio na natur anghyson y trefniadau sefydliadol presennol. 

 

Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu gwasanaeth iechyd a gofal cymunedol, sy'n gyfrifol am ddarparu model cymdeithasol integredig ar gyfer iechyd a gofal ar draws ardal Hywel Dda, a'i reoli'n gyffredinol. Byddai'r gwasanaeth yn atebol yn ddemocrataidd i'r etholwyr drwy'r tri awdurdod lleol ac i'r bwrdd iechyd a fyddai'n cadw cyfrifoldeb statudol am ei swyddogaethau a'i staff”.

 

 

Cofnodion:

Ystyriodd y Cyngor y Rhybudd o Gynnig canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd Gareth John:

 

“Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod o'r diwedd fod Bwrdd Iechyd Hywel Dda yn methu ymdopi â'r heriau y mae'n eu hwynebu a bod ei sefyllfa bellach yn anghynaladwy. Serch y bu cyllid ychwanegol gan y llywodraeth, mae'r gwasanaethau allweddol wedi mynd yn gynyddol fregus, sy'n bwrw amheuaeth ar ba mor ddiogel yw'r cleifion.

 

Byddai gofal cymunedol integredig yn ffordd effeithiol o leddfu llawer o'r pwysau ar ein hysbytai, ond er gwaetha'r consensws o blaid y newid hwn bu'r symud tuag ato yn rhwystredig o araf.

 

Nid yw strwythurau rheoli ar wahân yn cefnogi dull integredig o'r fath ac, fel y profwyd, ni all maes Iechyd na'r awdurdodau lleol gyflawni'r newid sydd ei angen ar eu pen eu hunain.

 

Er mwyn gwireddu gofal integredig, rhaid cynyddu'r gallu yn sylweddol ym meysydd gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal cymdeithasol, a rhaid iddynt weithio'n hwylus ar draws ffiniau. Byddai timau gofal iechyd sylfaenol a thimau iechyd y cyhoedd integredig, sy'n cynnwys ystod gynhwysfawr o weithwyr proffesiynol clinigol, anfeddygol a gofal cymdeithasol, mewn sefyllfa lawer gwell i fynd i'r afael â'r heriau a ddaw yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio na natur anghyson y trefniadau sefydliadol presennol. 

 

Felly galwn ar Lywodraeth Cymru i greu gwasanaeth Iechyd a Gofal Cymunedol a fyddai'n darparu ac yn rheoli model cymdeithasol integredig ar gyfer iechyd a gofal ledled ardal Hywel Dda.
 Byddai'r gwasanaeth yn atebol yn ddemocrataidd i'r etholwyr drwy'r tri awdurdod lleol ac yn atebol i'r bwrdd iechyd a fyddai'n cadw'r cyfrifoldeb statudol am ei swyddogaethau a'i staff.”

 

Cynigiwyd y gwelliant canlynol i'r cynnig gan y Cynghorydd R. James ac fe'i heiliwyd:

 

“Dileu paragraffau 1 i 4 a rhoi'r canlynol yn eu lle:

 

Ar 26 Mawrth, pleidleisiodd y Bwrdd Gweithredol yn unfrydol dros drefniadau rhanbarthol newydd ar gyfer y cronfeydd ar y cyd a Chynllun Ardal Gorllewin Cymru 2018-23 i ddarparu gwasanaethau di-dor rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.

 

Mae nifer o heriau ynghlwm wrth ofal sylfaenol yng Ngorllewin Cymru, oherwydd mesurau cyni parhaus Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghyd â tharged mudo'r Prif Weinidog o ran gweithwyr medrus sy'n effeithio ar ein gallu i recriwtio, ac mae angen inni sicrhau bod byrddau iechyd yn y sefyllfa orau posibl i ymdrin â'r heriau hyn.

 

Ym mharagraff 5, dileu'r hyn sy'n dilyn 'Felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i' a rhoi'r canlynol yn ei le:

 

Cynnal adolygiad brys i asesu gallu pob bwrdd iechyd i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru”.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i'r Pennaeth Gweinyddiaeth a’r Gyfraith roi cyngor cyfreithiol am y newid a rhoddodd wybod nad newid oedd hwn yn ei barn hi a'i fod, i bob diben, yn gynnig ynddo'i hun.

 

Ar ôl ystyried y cyngor, barnodd y Cadeirydd fod y gwelliant yn amhriodol ac nad oedd modd ei dderbyn.

 

Rhoddwyd cyfle i gynigydd ac eilydd y Cynnig siarad o blaid y Cynnig a bu iddynt amlinellu'r rhesymau dros ei gyflwyno, fel y'u nodwyd yn y Cynnig.

 

Gwnaed nifer o ddatganiadau o blaid ac yn erbyn y Cynnig, ac ar ôl hynny

 

PENDERFYNODD y Cyngor gefnogi'r Cynnig.