Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD ROB EVANS I'R CYNGHORYDD GLYNOG DAVIES - AELOD Y BWRDD GWEITHREDOL DROS ADDYSG A PHLANT

Hoffwn ddechrau drwy ganmol ansawdd uchel y staff addysgu a'r Corff Llywodraethu yn Ysgol Dafen. Rwy'n falch o gael siarad ar eu rhan nhw ac, yn bwysicach, ar ran y plant.  

 

Ymwelais ag Ysgol Dafen yn ddiweddar a gwelais fod nifer o broblemau a phryderon yn ymwneud â'r adeilad Meithrin.

 

Mae'r adeilad ei hun yn cynnwys asbestos ac mae 30 o blant yn cael eu dysgu yno bob dydd. Nid oes digon o le na chypyrddau yn yr adeilad. Nid oes dim toiled i'r staff felly ni all y staff adael y plant i fynd i'r toiled ac mae'r toiled agosaf ym mhen arall yr ysgol.  Hefyd mae'r hyn a elwir yn gegin yn gyfyng iawn, ac mae'r drysau'n hongian oddi ar y bachau. Pan gaiff y rheiddiaduron eu defnyddio mewn tywydd oer mae'r ffenestri yn torri yn rheolaidd. Y tu allan i'r adeilad mae d?r yn crynhoi yn yr iard oherwydd yr hen ddraeniau.

 

Nid yw'r adeilad Meithrin yn addas i'r diben.

 

O gofio'r angen am ragor o leoedd mewn ysgolion yn Llanelli, oni fyddai'n gwneud mwy o synnwyr i ddymchwel yr adeilad hwn ac adeiladu cyfleuster pwrpasol yn ei le neu ddarparu adeiladau dros dro ar gyfer holl ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen? Yn realistig, dylai Ysgol Dafen gael adeilad newydd er mwyn i'r plant bach gael cyfleusterau sy'n addas i'r 21ain ganrif ac nid yr hen adeilad hwn a godwyd yn yr 1970au.

 

Oherwydd cynnydd yn nifer y disgyblion, erbyn hyn mae mwy o blant yn yr ysgol na chapasiti'r Awdurdod Lleol. Yn y prif adeilad, er cryn fraw i mi, dysgir y plant ar lwyfan yr ysgol ac mewn dwy ystafell gotiau.  Mae'r llyfrgell bellach yn neuadd yr ysgol.  Er gwaethaf ymdrechion y staff i geisio gwneud y mannau hyn yn ddeniadol, nid yw hyn yn hwyluso dysgu effeithiol.

 

Mae to'r ysgol a'r peipiau glaw haearn bwrw a'r wynebfyrddau yn dyddio o gyfnod cyn y rhyfel, sef o'r adeilad gwreiddiol a godwyd yn 1938, ac mae gwir angen eu hadnewyddu. Mae Man Dysgu ac Addysgu y tu allan a ddefnyddir bob dydd ac oherwydd nad yw'r peipiau glaw o'r to yn cysylltu â'r draeniau, os ydych yn ddigon anffodus i fod yn rhy agos atynt cewch gawod oer yn yr awyr agored. Hefyd mae rhannau o'r lle chwarae sy'n beryglon baglu o hyd ac mae angen eu hatgyweirio.

 

Mae dwy ystafell ddosbarth sy'n wynebu'r ardal allanol hon ac yn 2016 dywedodd pensaer oedd yn ymweld â'r ysgol y byddai'n hawdd gosod drysau patio yn y waliau presennol ond mae hyn wedi syrthio ar glustiau byddar. Nododd Estyn a dim llai na 4 ymgynghorydd ERW fod y mynediad hwn at y man dysgu y tu allan yn broblem.

 

Yn Adroddiad Blynyddol yr Arweinydd eleni mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dathlu llwyddiannau adeiladu cynifer o adeiladau ysgol newydd gwych.

 

Nid oes neb yn gofyn am ysgol newydd ar hyn o bryd.  Ond pan welaf ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen mewn adeilad mor gywilyddus o adfeiliedig rwy'n ei chael yn anodd credu bod y sefyllfa hon yn dderbyniol – ac nid yw'n dderbyniol mewn unrhyw fodd.

 

Diolch i chi, Glynog, am ymweld â'r ysgol yn ddiweddar, ac arsylwi a thrafod y materion difrifol a gyflwynwyd gan y staff ar y diwrnod hwnnw.

 

Yn amlwg, nid yw Ysgol Dafen ar eich rhestr ar gyfer addysg cenedlaethau'r dyfodol yn Ysgol Dafen.

 

Ble mae Ysgol Dafen ar y Rhaglen Moderneiddio Addysg?

 

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd R. Evans wybod ei fod yn tynnu ei gwestiwn yn ôl.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL nodi bod y cwestiwn wedi cael ei dynnu yn ôl.