Agenda item

RHAGLEN TRAWSNEWID ADY (ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL).

Cofnodion:

[NODER:  Y Cynghorwyr D. Jones a G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a derbyn cyflwyniad a roddai drosolwg ar y cynnydd a'r datblygiadau ynghylch Rhaglen Drawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).

 

Cafodd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) ei basio'n unfrydol gan Lywodraeth Cymru ar 12 Rhagfyr, 2017.  Cefnogir y Ddeddf gan reoliadau a Chôd Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, a fydd yn cael eu diwygio cyn ymgynghori yn ystod tymor yr Hydref 2018. Byddant wedyn yn cael eu cyflwyno ger bron Llywodraeth Cymru ac yn cael eu cyhoeddi, a rhagwelwyd y byddent ar waith erbyn diwedd 2019.

 

Dywedodd Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg "Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yw canolbwynt ein rhaglen i weddnewid yr addysg a'r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cymryd rhan lawn yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu ein diwygiadau, rydym wedi ymgynghori'n eang ynghylch sut y dylem roi'r system anghenion dysgu ychwanegol newydd ar waith.

 

Tri amcan cyffredinol y Bil yw:-

 

·       Fframwaith deddfwriaethol unedig i gefnogi pob plentyn o oedran ysgol gorfodol neu iau sydd ag ADY, a phobl ifanc ag ADY mewn ysgolion neu addysg bellach (yn hytrach na dwy system ar wahân ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig hyd at 16 oed a Chynlluniau Dysgu Sgiliau ôl 16-19, y mae deddfwriaeth ar wahân ar gyfer y ddau ar hyn o bryd);

·       Proses integredig, gydweithredol o asesu, cynllunio a monitro, sy'n hwyluso ymyriadau cynnar, amserol ac effeithiol (gan gynnwys dyletswyddau ar Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol i gydweithio â'i gilydd drwy Gynllun Datblygu Unigol statudol i bob dysgwr sydd ag ADY);

·       System deg a thryloyw ar gyfer darparu gwybodaeth a chyngor, ac ar gyfer datrys pryderon ac apeliadau (gan gynnwys ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol wneud trefniadau ar gyfer osgoi a datrys anghytundebau, diwygio system y barnwyd gan adolygiadau blaenorol ei bod yn 'gymhleth, dryslyd a gwrthwynebol’).

 

Fel rhan o'r Rhaglen Trawsnewid ADY ehangach, cychwynnodd Llywodraeth Cymru grant ddwy flynedd, cyn y broses ddeddfu, i gefnogi prosiectau cydweithredol ar draws pob un o'r pedwar consortia. Y diben oedd datblygu arferion arloesol yn barod ar gyfer cyflwyno'r newidiadau deddfwriaethol arfaethedig. 

 

O safbwynt Sir Gaerfyrddin, mae cynnydd wedi cael ei wneud o ran dull cydweithredol ar gyfer gwella darpariaeth ADY yn ein holl ysgolion.  Mae gennym sail gadarn o sgiliau a phrofiad sy'n cefnogi'r agenda Trawsnewid yn dda. 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd a fyddai'r rhai sydd eisoes â datganiad yn trosglwyddo'n awtomatig i'r system newydd a sut y bydd hyn yn effeithio arnynt hyd nes bod y system newydd yn cael ei chyflwyno yn 2020. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod datganiad yn ddogfen gyfreithiol a bydd yn aros yr un fath hyd nes y bydd yn troi'n Gynllun Datblygu Unigol dan y system newydd;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith y bydd yn rhaid i ysgolion benodi swyddogion hyfforddedig er mwyn cyflawni'r dyletswyddau newydd, a gofynnwyd i'r swyddogion sut y byddai hynny'n cael ei ariannu gan gofio fod nifer o ysgolion eisoes yn cael trafferth.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod 6 Cydgysylltydd AAA o ysgolion prif ffrwd a 2 swyddog o'r Adran Addysg wedi cael eu secondio i dderbyn yr hyfforddiant angenrheidiol. Maent bellach yn hyfforddedig ac yn gymwys i hyfforddi eraill.     Yn ogystal, cafwyd rhaglen dreigl o hyfforddiant.  Rhoddir hyfforddiant i unrhyw un y mae ei angen arnynt, a bydd y ddarpariaeth hyfforddiant yn cael ei hadolygu o flwyddyn i flwyddyn.  Eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg y bydd pob ysgol yn cael ei hystyried yn unigol ac os yw ysgol yn cael trafferth o ran darparu Cydgysylltydd ADY, bydd swyddogion yn ystyried eu partneru ag ysgol arall.  Mae eisoes gan bob ysgol Gydgysylltydd AAA felly roedd hyn yn ymwneud â rhoi'r adnoddau sydd eu hangen ar y Cydgysylltydd AAA er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau a'i gyfrifoldebau fel Cydgysylltydd ADY newydd;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod y Cydgysylltwyr ADY eisoes wedi cael llawer o hyfforddiant a bod y wybodaeth a'r profiad hyn yn cael eu colli os yw'r unigolyn hwnnw yn gadael ac awgrymwyd efallai y gallai aelod o staff iau gysgodi'r Cydgysylltydd ADY.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wrth y Pwyllgor fod trafodaethau'n parhau am hyn ar hyn o bryd. Y gobaith yw cyflwyno hyn yn raddol fel model llwyddiannus;

·       Mynegwyd pryder ynghylch yr amser y mae'n ei gymryd i gael cefnogaeth a gallai hyn waethygu yn ystod y cyfnod pontio a gofynnwyd i'r swyddogion a oes unrhyw Swyddogion Cyswllt â'r Teulu y gallai helpu ynghylch hyn.  Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod dau Swyddog Cyswllt â'r Teulu, un sy'n cwmpasu plant cyn-ysgol a phlant cynradd a'r llall sy'n cwmpasu plant ysgol uwchradd a rhai sy'n trosglwyddo i addysg bellach;

·       Mynegwyd pryder ynghylch sut y bydd ysgolion yn cyllido'r 20% ychwanegol a dywedwyd wrth y Pwyllgor nad yw'n 20% ychwanegol gan fod y plant yno eisoes a bydd yr un gefnogaeth yn cael ei darparu mewn ysgolion.  Roedd yn bwysig pwysleisio i ysgolion os yw eu Cydgysylltydd ADY yn gyfrifol am bopeth, nid ydynt wedi deall yn iawn fod angen iddi fod yn ymagwedd ysgol gyfan.  Dyna yw diben y gwaith o ddiwygio;

·       Mynegwyd pryder ynghylch y pwysau y bydd ar ysgolion gan fod y diwygiad yn her fawr;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod rhai ysgolion eisoes yn cael anawsterau i wneud y datganiadau, a gofynnwyd i'r swyddogion sut y bydd y system newydd yn helpu o ran hyn.  Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y broses bresennol o ran llunio datganiadau yn hir a hirfaith - oddeutu 6 mis o'r dechrau hyd y diwedd a rhan hanfodol o'r gwaith diwygio yw lleihau hyd y broses.  Mae'n ymwneud â chefnogi ysgolion a pheidio â chael llawer o ymyriadau, ond ymyrryd ar yr adeg iawn.  Mae'r broses bellach yn fwy uniongyrchol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: