Agenda item

BARGEN DDINESIG BAE ABERTAWE

Cofnodion:

Bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried adroddiad ynghylch sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r ffrydiau cyllido cysylltiedig yn ffurfiol.

 

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol fod y Cyngor, ynghyd â'r tri awdurdod lleol sef Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro, wedi cytuno i lofnodi Cytundeb Bargen Ddinesig (Penawdau Telerau) werth cyfanswm o £1.3 biliwn, a oedd wedi'i lofnodi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar 20 Mawrth 2017. Ar ôl hynny, roedd Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi bod yn gweithredu ar ffurf gysgodol i gadw'r momentwm a datblygu'r trefniadau llywodraethu er mwyn galluogi i'r rhanbarth gyflawni'r rhaglen. Roedd hyn yn cynnwys llunio'r Cydgytundeb i ddarparu'r fframwaith cyfreithiol y byddai Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn cydymffurfio ag ef.

 

Nododd y Bwrdd Gweithredol fod trafodaethau hefyd wedi'u cynnal â Llywodraeth Cymru, lle cytunwyd ar y canlynol fel rhan o drefniadau gweithredu'r Fargen Ddinesig:-

·        Byddai awdurdodau lleol y Fargen Ddinesig yn gallu cadw 50% o elw net ychwanegol yr ardrethi annomestig a gynhyrchir gan y 11 prosiect a fydd yn cael eu cyflawni fel rhan o'r fargen;

·        Byddai awdurdodau lleol Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn gallu defnyddio hyblygrwydd o ran cyllid mewn perthynas â gwariant y prosiect ar sail refeniw, fel y manylwyd yn y Cydgytundeb.

Nododd y Bwrdd Gweithredol y byddai angen i'r adroddiad gael ei fabwysiadu'n ffurfiol gan y Cyngor ar 13 Mehefin 2013, os yw'n cael ei gymeradwyo, a chan dri awdurdod lleol arall Bargen Ddinesig Bae Abertawe erbyn diwedd mis Gorffennaf 2018.

 

Cyfeiriwyd at rôl y Cyngor fel awdurdod arweiniol y Fargen Ddinesig, a mynegodd Aelodau'r Bwrdd eu gwerthfawrogiad i holl Swyddogion y Cyngor am eu hymrwymiad a'u hymroddiad wrth arwain prosiect y fargen ddinesig dros y ddwy flwyddyn ddiweddaf.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:-

6.1

Gymeradwyo'r gwaith o sefydlu Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe a'r strwythur llywodraethu cysylltiedig;

6.2

Bod Cytundeb Cyd-bwyllgor Drafft yn cael ei gymeradwyo a bod y Prif Weithredwr, gan ymgynghori â'r Arweinydd, yn cael yr awdurdod dirprwyedig i wneud mân newidiadau i'r Cytundeb fel y bo angen ac fel y cytunwyd arnynt gan yr awdurdodau partner, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru er mwyn cwblhau'r Cytundeb;

6.3

Cymeradwyo sefydliad Cyd-bwyllgor Craffu Bargen Ddinesig Bae Abertawe;

6.4

Cymeradwyo'r cynnig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfrannu £50k fesul blwyddyn dros 5 blynedd er mwyn talu rhan o gostau gweithredu'r Cyd-bwyllgor, y Bwrdd Strategaeth Economaidd, Bwrdd y Rhaglen, y Cyd-bwyllgor Craffu, y Corff Atebol a swyddogaethau'r Swyddfa Ranbarthol ac yn cymeradwyo'r egwyddor y darperir cyllid pellach yn gyfateb i frigdoriad 1.5% o ddyraniad cyllid y Fargen Ddinesig, a bydd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, gan ymgynghori â'r Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, yn cytuno ar ddarpariaeth y cyllid hwn;

6.5

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol (Swyddog Adran 151) yn cael ei awdurdodi i archwilio a gweithredu'r dull mwyaf priodol o fenthyca cymesur er mwyn cyllido prosiectau rhanbarthol a gyflawnir mewn ardaloedd sy'n perthyn i'r Cyngor;

6.6

Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol yn cael ei awdurdodi i gyd-drafod â Chyd-gyfarwyddwyr ynghylch y sail dyrannu mwyaf priodol ar gyfer cadw ardrethi annomestig rhanbarthol mewn perthynas â’r 11 prosiect.

 

Dogfennau ategol: