Agenda item

CARTREFI CROESO CYF - GOFYNION ARIANNU, PENODI CYFARWYDDWYR A DIRPRWYO CYTUNDEB CYFRANDDALIWR

Cofnodion:

(NODER: Roedd y Cynghorydd H.A.L. Evans wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach, a gadawodd Siambr y Cyngor yn ystod y trafodaethau)

 

Atgoffwyd y Bwrdd Gweithredol ei fod, yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Tachwedd 2017, wedi cytuno i sefydlu cwmni tai cyngor ym mherchnogaeth lwyr y Cyngor er mwyn adeiladu tai i'w gwerthu a'u rhentu a bod yn gatalydd ar gyfer gweithgareddau adfywio pellach. Yn unol â'r penderfyniad hwnnw, bu'r Bwrdd yn ystyried adroddiad a fanylodd ar y canlynol:

-        Gofynion ariannu'r cwmni - gan gynnwys Cynllun Busnes lefel uchel 2018-2023 y cwmni;

-        Y broses ar gyfer penodi cyfarwyddwyr;

-        Dirprwyo Cytundeb Cyfranddaliwr.

Cyfeiriodd y Cynghorydd D. Cundy, yn unol â Rheol 11 o Weithdrefn y Cyngor, at benodiad a rôl cyfarwyddwyr y cwmni, a gofynodd sut y byddai'r Cyngor, fel yr unig gyfranddaliwr, yn mesur llwyddiant y cwmni o ran ansawdd, maint, cyllid a phrydlondeb, a sut y byddai Cynghorwyr Sir yn gallu cael gwybod am y ffactorau hynny, er enghraifft drwy Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, Pwyllgor Craffu - Cymunedau, neu drwy ddull arall.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau y byddai gan y cwmni bum cyfarwyddwr, sef dau Swyddog Cyngor (heb dâl), un Cynghorydd Sir (heb dâl) a dau allanol (gyda thâl) i'w penodi gan y Prif Weithredwr, yn unol â'r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt a chan ymgynghori ag Arweinydd y Cyngor. Byddai llwyddiant y cwmni yn cael ei fesur a'i fonitro gan ddefnyddio'r Cynllun Busnes, a allai fod angen ei adolygu maes o law. Byddai Swyddog Adran 151 y Cyngor yn gyfrifol am fonitro hynny a sicrhau bod buddiannau'r Cyngor yn cael eu cynnal.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr y byddai Cynllun Busnes y cwmni yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau bob blwyddyn. Hefyd ni welai unrhyw reswm pam na ddylai'r cwmni lunio adroddiad blynyddol i'w gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol a'r Pwyllgor Craffu - Cymunedau.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR:

Gofynion Ariannu

8.1

Nodi Cynllun Busnes lefel uchel 2018 – 2023 y Cwmni, sydd wedi'i ddatblygu gan Adran Dai / Cyfarwyddiaeth Cymunedau y Cyngor, a fydd yn cael ei fireinio yn dilyn astudiaethau dichonoldeb manwl y prosiect a'r ymchwiliadau safle;

8.2

Cytuno ar y costau i sefydlu'r Cwmni yn 2017/18 o'r cyllidebau refeniw presennol at uchafswm o £100,000;

8.3

Cytuno ar Fenthyciad Costau Gweithredu i'r Cwmni mewn perthynas â'i gostau gweithredu yn 2018/19 hyd at uchafswm o £280,000.Bydd hyn yn cael ei drosglwyddo ymlaen llaw, yn chwarterol ac mewn cyfrannau o 25%;

8.4

Cytuno ar Fenthyciad Datblygu Prosiect pellach hyd at uchafswm o £750,000, i'w ryddhau mewn cyfrannau y cytunwyd arnynt er mwyn datblygu manylion busnes y cwmni i'r Cyngor eu hystyried ymhellach. Bydd y benthyciad hwn yn cael ei ddefnyddio i wneud cynnydd ar y canlynol:

·        Gwerthusiad datblygu pellach o wyth safle, gan gynnwys 2 brosiect gwledig.Bydd hyn yn cynnwys prisiad manwl, cymorth gwladwriaethol, cyngor cyfreithiol a chyngor ynghylch trethiant;

·        Ymchwiliadau safle / cynigion datblygu cynllun cynhwysfawr a manwl ar gyfer tri safle, gan gynnwys un gwledig, gan gynnwys:

·        Cwblhau modelau ariannol manwl a sicrhau’r cyngor cysylltiedig ynghylch materion cyfreithiol a threthiant.

·        Datblygu strategaeth gaffael effeithiol.

·        Comisiynu gwerthusiadau technegol manwl ac arolygon cysylltiedig megis arolygon safle, pridd, trafnidiaeth ac arolygon ecolegol.

·        Cysylltu â chyfleustodau a chyrff statudol.

·        Comisiynu briff dylunio manwl a datganiad manyleb (a fydd hefyd yn cael eu defnyddio ar gyfer y prosiectau canlynol).

·        Derbyn cyngor cyn cynllunio a chwblhau ymgynghoriad cyn cynllunio;

8.5

Bydd swm cychwynnol o £250,000 o'r Benthyciad Datblygu Prosiect manwl ar gael i'r cwmni er mwyn symud ymlaen â'r prawf o gysyniad.Bydd cymeradwyo rhyddhau rhagor o gyllid (hyd at y terfyn benthyca) yn cael ei ddirprwyo i'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, a gaiff ei ryddhau yn sgil cael arfarniad masnachol boddhaol o'r tri safle prawf o gysyniad cychwynnol;

8.6

Nodwyd y bydd ceisiadau am fenthyciadau pellach ar gyfer gwariant ar ddatblygiadau mawr (er enghraifft, trosglwyddo tir, ffioedd proffesiynol, costau adeiladu) yn dod i law yn ôl yr angen a byddant yn ffurfio rhan o'r cynllun busnes manwl a fydd yn cael ei gwblhau ar ôl i'r gwerthusiadau safle unigol gael eu cwblhau;

8.7

Bydd y cyllid drwy fenthyciadau ar gael ar 3.5% yn uwch na'r gyfradd a bennir gan y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar gyfer y Benthyciad Costau Gweithredu a 2.2% yn uwch na chyfradd y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ar gyfer y Benthyciad Datblygu Prosiect.Bydd yr elfennau terfynol ynghylch y cytundeb benthyciad manwl yn cael eu dirprwyo i'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Corfforaethol;

Penodi Cyfarwyddwyr

8.8

Bod y penderfyniad i benodi a diswyddo Cyfarwyddwyr y Cwmni  yn cael ei wneud gan y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag Arweinydd y Cyngor, ac ar ran y Bwrdd Gweithredol;

8.9

Bod y Cyfarwyddwr Cymunedau (Jake Morgan), a'r Cyfarwyddwr Adfywio a Pholisi (Wendy Walters) yn cael eu penodi yn gyfarwyddwyr y cwmni;

8.10

Y cytunir ar broses ffurfiol i benodi'r Cyfarwyddwyr sy'n weddill

Dirprwyo materion yn ymwneud â'r Cytundeb Cyfranddaliwr.

8.11

Dirprwyo awdurdod (lle bo modd) i'r Prif Weithredwr, ar ôl ymgynghori â Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i weithredu ar ran y cyfranddaliwr mewn perthynas â'r Cytundeb Cyfranddaliwr.

 

Dogfennau ategol: