Agenda item

ADRODDIAD TERFYNOL GRWP GORCHWYL A GORFFEN Y PWYLLGOR CRAFFU DIOGELU'R CYHOEDD A'R AMGYLCHEDD 2017/18

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor adroddiad terfynol y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a luniwyd ar 17 Tachwedd 2017, i ymchwilio i'r ddarpariaeth o ran cynnal a chadw perthi ac ymylon priffyrdd. Lluniwyd yr argymhellion a oedd yn yr adroddiad gan y Gr?p ar ôl ystyried yr ystod o dystiolaeth oedd dan sylw mewn cyfres o gyfarfodydd oedd wedi eu cynnal rhwng Ionawr 2018 ac Ebrill 2018.

 

Cyflwynodd aelodau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen bob un o'r argymhellion i'r Pwyllgor.

 

Rhoddodd y Swyddogion ddrafft cynnar o'r daflen 'Tirfeddianwyr Cyfagos a'r Briffordd Gyhoeddus' i'r Pwyllgor, a gyfeiriwyd ato yn argymhelliad 2 yr adroddiad, a oedd yn dangos sut y byddai rolau a chyfrifoldebau'r awdurdod priffyrdd a thirfeddianwyr cyfagos yn cael eu cyflwyno.

 

Codwyd y cwestiynau canlynol gan y Pwyllgor wrth ystyried yr adroddiad:

 

·         Dywedwyd nad oedd y borfa o amgylch yr Ystad Ddiwydiannol yn Cross Hands yn cael ei thorri'n ddigon aml. Felly, o ran yr adroddiad, gofynnwyd am ragor o wybodaeth am y gwahaniaeth rhwng ardaloedd trefol a gwledig. Esboniodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod ardaloedd trefol a gwledig fel arfer yn cael eu dynodi, o ran y priffyrdd, gan newid yn y terfyn cyflymder. Bydd ardaloedd trefol fel arfer â therfyn cyflymder 30mya neu weithiau 40mya, o'u cymharu â ffyrdd gwledig lle mae'r terfyn cyflymder cenedlaethol fel arfer ar waith ac mae'r terfynau cyflymder hyn yn adlewyrchu newid o ardal drefol i ardal wledig. Yn ogystal, byddai'r daflen honno yn cynnwys rhagor o wybodaeth am rolau a chyfrifoldebau'r Cyngor Sir a'r tirfeddianwyr cyfagos dros berthi, draeniau ac ymylon y priffyrdd. Ychwanegodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod Ystad Ddiwydiannol Cross Hands yn cynnwys cymysgedd o ffyrdd ac y byddai darn o ffordd newydd dan gyfrifoldeb yr Awdurdod yn fuan, ac yn dod yn rhan o'r rhaglen torri gwair.

 

·         Dywedwyd nad oedd yr adroddiad wedi cynnwys effaith weledol y pyrth i'r trefi a fu'n eitem o bwys yn y blynyddoedd blaenorol. Cytunodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod pyrth i'r trefi yn nodwedd allweddol a byddai argymhelliad 5 yr adroddiad yn rhoi mwy o hyblygrwydd i'r Cyngor, o ran gwaith cynnal a chadw'r pyrth, i gydweithio â Chynghorau Tref a Chymuned er mwyn cynnal a chadw'r pyrth. Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd er bod gwaith torri porfa amwynder yn cael ei gydnabod yn yr adroddiad, nid oedd y ddarpariaeth hon yn rhan o waith y gr?p gorchwyl a gorffen a gellid ei ystyried yn fater ar wahân yn y dyfodol.


 

·         Cyfeiriwyd at y daflen ddrafft, a gafodd ei ganmol. Gofynnwyd a ellid darparu'r daflen derfynol i Gynghorau Tref a Chymuned. Dywedodd y Pennaeth Priffyrdd a Thrafnidiaeth wrth y Pwyllgor y byddai'r daflen yn parhau i gael ei datblygu drwy ymgynghori ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (Cymru), Undeb Amaethwyr Cymru a Chymdeithas Tirfeniaddwyr Cefn Gwlad, ac ar ôl cymeradwyo'r daflen, byddai'n cael ei dosbarthu yn eang gan gynnwys i Gynghorau Tref a Chymuned.

·         Mewn ymateb i ymholiad ynghylch draeniau, eglurodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y rhagdybir fel arfer mai tirfeddianwyr cyfagos sy'n berchen ar ddraeniau ymylon ffyrdd ac sy'n gyfrifol amdanynt.  Fodd bynnag, os byddai draeniau newydd ar briffyrdd yn cael eu cyflwyno, a fyddai'n cael effaith andwyol ar dir cyfagos, byddai ymgynghori priodol yn cael ei gynnal cyn gwneud unrhyw waith.

 

·         Gofynnwyd hefyd ynghylch diogelwch contractwyr a sut y gorfodir hyn.  Nododd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth fod yn rhaid i'r holl gontractwyr a gyflogir gan yr Awdurdod gydymffurfio â'r canllawiau diogelwch a osodwyd gan yr Adran Drafnidiaeth a bod gan unrhyw un sy'n ymgymryd â gwaith ar y briffordd gyhoeddus ddyletswydd gofal o ran defnyddwyr y ffordd. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch swyddogaeth orfodi i'r perwyl hwn. O ran ein contractwyr torri gwair, cynhaliwyd gwaith monitro parhaus gan ein tîm o Arolygwyr Priffyrdd. Yn ogystal, pwysleisiodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai contractwyr yn cael eu harchwilio, ac os canfyddir nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheoliadau diogelwch, byddai camau'n cael eu cymryd drwy'r contract i fynd i'r afael â'r mater. 

 

·         Awgrymwyd, er mwyn cyflymu'r gwaith o dorri glaswellt wrth ddefnyddio dulliau gwell o reoli traffic, gallai contractwr ddefnyddio 2 tractor. Dywedodd y Rheolwr Priffyrdd a Thrafnidiaeth y byddai'r awgrym yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygid contractau tendr.

 

Canmolodd y Pwyllgor y gwaith a wnaed gan y Gr?p Gorchwyl a Gorffen a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’i gyflwyno at sylw'r Bwrdd Gweithredol i'w hystyried.

 

 

Dogfennau ategol: