Cofnodion:
Cydymdeimlwyd â theulu'r diweddar Gynghorydd Alun Davies.
Cododd holl aelodau'r Cyngor i gofio'n dawel am y Cynghorydd Davies ac wedi hynny cafwyd teyrngedau gan y Cynghorwyr E. Dole, L.M. Stephens a K. Madge ar ran pob plaid wleidyddol.
Cydymdeimlwyd â'r cyn-Gynghorydd Sir, D. Williams, ar farwolaeth ei wraig.
Estynnwyd llongyfarchiadau i:-
· Meinir Lloyd o Gaerfyrddin (adnabyddir hi hefyd fel Meinir Hughes Griffiths) a fydd yn derbyn Medal T.H. Parry-Williams yn yr Eisteddfod Genedlaethol
· Y bobl ganlynol a fydd yn cael eu derbyn i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol:
- Elaine Edwards, Caerfyrddin – cyn-lywydd UCAC
- Huw Edwards, Llangennech – Darlledwr
- Margarette Hughes – Hendy-gwyn ar Daf – ei chyfraniad i'r Gymraeg a'r diwylliant
- Eric Jones – Pencader – Stiward ac Arolygydd yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Urdd er 1984
- Dr Rhys Thomas – New Inn Llandeilo – cyfraniad i feddygaeth
- Rosemary Williams – Crucywel – (o Landeilo'n wreiddiol) – cyfraniad at y Gymraeg a'r diwylliant yn ardal y Fenni.
· Y bobl ganlynol sydd wedi cael cydnabyddiaeth Frenhinol:
- Yr MBE
Dr Gareth Collier – Dryslwyn – Meddyg Ymgynghorol yr Anadl yn Ysbyty Glangwili am ei wasanaeth i drin canser yr ysgyfaint yng Nghymru;
Tracy Pike – Llanelli – Prif Weithredwr Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin – Gwasanaeth i bobl ifanc (Llanelli);
Michael James Worthington Williams, Cenarth am ei wasanaeth i'r diwydiant moduro;
- Medal yr Ymerodraeth Brydeinig – BEM
William Henry Gerwyn Jenkins, Llanelli am ei wasanaeth i'r Samariaid yn Abertawe
· Tafarn y Cottage ger Llandeilo ar ennill gwobr 'Tafarn y Flwyddyn' y Gynghrair Cefn Gwlad
· Ysgol Gymraeg Brynsierfel, sef yr ysgol Gymraeg gyntaf yn Sir Gaerfyrddin i gael Gwobr Arian y Siarter Iaith
· Staff yr Adran Gynllunio am ennill gwobr ‘Rhagoriaeth wrth gynllunio ar gyfer yr Amgylchedd Naturiol’ yng ngwobrau'r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol a hynny yn achos Ardal Cadwraeth Arbennig Caeau'r Mynydd Mawr – y Canllawiau Cynllunio Atodol a Phrosiect Britheg y Gors.
· Y Cynghorydd Ann Davies ar gael Gradd Meistr mewn Addysg ac ar gael ei phenodi'n ddarpar Gadeirydd Undeb Amaethwyr Cymru yn Sir Gaerfyrddin.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at nifer o ddigwyddiadau yr oedd wedi'u mynychu ers dechrau ar ei gyfnod yn y swydd, yn enwedig Ras Goffa Robert Hobbs yng Nghaerfyrddin a enillwyd gan Marcin Bia?ob?ocki o Wlad Pwyl.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol yn ei Wasanaeth Dinesig diweddar lle codwyd dros £1,000 i'w elusennau – Ambiwlans Awyr Cymru a Chymdeithas Alzheimer Cymru.
Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth wybod i'r Cyngor am y cyhoeddiad diweddar y byddai Sir Gaerfyrddin yn cynnal Grand Départ ras feicio Taith Prydain OVO Energy 2018 a fydd yn dechrau ym Mharc Gwledig Pen-bre ac yn ymlwybro drwy Sir Gaerfyrddin ar ei ffordd i Gasnewydd. Cyfeiriodd at yr amrywiaeth o ddigwyddiadau a gynhelir i nodi'r digwyddiad ac anogodd bob cymuned, yn enwedig y rheiny y bydd y daith yn mynd trwyddynt, i nodi'r digwyddiad yn yr un modd ac i arddangos Sir Gaerfyrddin i'r gynulleidfa deledu fyd-eang.
Rhoddodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Ddiogelu'r Cyhoedd wybod i'r Cyngor am yr anawsterau a gafwyd yn ddiweddar gyda'r pla o bryfed yn Ne Llanelli ac am darddiad tebygol y pla, sef safle ailgylchu metel yng nghyffiniau Seaside yn Ward Glanymôr. Disgrifiodd y camau a gymerwyd gan staff a phartneriaid y Cyngor wrth fynd i'r afael â'r achos a rhoddodd wybod y byddai Cyfoeth Naturiol Cymru, sef y corff sy'n gyfrifol am roi trwydded i'r safle, bellach yn cymryd cyfrifoldeb llawn am oruchwylio'r gwaith o drin a thynnu ymaith wastraff y safle ac am gymryd unrhyw gamau gorfodi, os oes angen. Cadarnhaodd fod perchnogion y cwmni wedi gweithredu i unioni'r anawsterau ac i ymdrechu i atal achos o'r fath yn y dyfodol.