Agenda item

ADOLYGIAD GORCHWYL A GORFFEN 2015/16 - MONITRO CYNLLUN GWEITHREDU.

Cofnodion:

Yn ei gyfarfod ar 24 Medi, 2015, penderfynodd y Pwyllgor Craffu – Addysg a Phlant glustnodi gwella perfformiad y dysgwyr hynny sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn un o'i flaenoriaethau ar gyfer 2015/2016. Er mwyn datblygu'r mater hwn, cytunodd y Pwyllgor i sefydlu Gr?p Gorchwyl a Gorffen i ymchwilio i'r bwlch cyrhaeddiad ar gyfer dysgwyr sydd yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim, a'i adolygu.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i adroddiad a oedd yn manylu ar y camau a gawsai eu cymryd o ran gweithredoedd allweddol yn deillio o gasgliadau'r Gr?p Gorchwyl a Gorffen. Roedd yr adroddiad hefyd yn manylu ynghylch datblygiadau pellach o fewn y maes darpariaeth hwn.

 

Darparodd y Gr?p Gorchwyl a Gorffen sylfaen gref ar gyfer camau gweithredu a meddylfryd presennol yr adran o ran darparu gwasanaethau yn y maes hwn. Mae'r adran yn parhau i roi pwyslais cryf ar gau bylchau cyrhaeddiad, gan gydweithio'n agos ag ysgolion. Mae trefniadau arolygu newydd Estyn, ar gyfer awdurdodau lleol, yn cyfiawnhau rhoi sylw manwl i gynnydd yr holl grwpiau o ddysgwyr, gan gynnwys y rhai sydd ar y cyrion a'r rhai sy'n agored i niwed. Mae hyn yn gymhelliad pellach i fynd ar drywydd ein nod o sicrhau llesiant, tegwch a chyflawniadau uchel i'n holl bobl ifanc, waeth beth yw eu magwraeth neu eu hamgylchiadau presennol neu yn y gorffennol. Felly, bydd y datblygiad strategol a gweithredol yn parhau, gan ddarparu rhywbeth o werth ar ôl gwaith gwerthfawr y Gr?p Gorchwyl a Gorffen.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Gofynnwyd i'r swyddogion a oes ganddynt unrhyw wybodaeth ynghylch yr effaith y bydd Credyd Cynhwysol yn ei chael ar brydau ysgol am ddim, oherwydd nid oes llawer o deuluoedd sydd ar incwm isel yn gymwys ar hyn o bryd. Er nad oedd ateb pendant gan swyddogion ar hyn o bryd, rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod ysgolion yn rhagweithiol o ran annog rhieni i gael prydau ysgol am ddim. Mae yna broblemau hefyd gan fod rhai teuluoedd yn rhy falch i hawlio, fodd bynnag, mae cyflwyno'r systemau biometrig yn helpu yn hyn o beth;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi gweld cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim pan gyflwynwyd Credyd Cynhwysol a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai'r arferion da hyn yn cael eu rhannu. Rhoddodd Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant wybod i'r Pwyllgor ein bod yn cau'r bwlch rhwng dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim a rhai nad ydynt yn eu cael am ddim, a bydd rhannu arferion da yn cael lle amlwg yn hyn o beth;

·       Er y gobeithir y bydd cais Erasmus yr Awdurdod yn llwyddiannus, gofynnwyd i'r swyddogion a oes Cynllun B yn ei le. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion yn gweithio ar nifer o ddewisiadau eraill;

·       Cyfeiriwyd at bwysigrwydd y Grant Amddifadedd Disgyblion a mynegwyd pryder nad oedd y ffigurau ar gyfer y flwyddyn nesaf wedi dod i law o hyd, felly nid oes modd cwblhau'r gyllideb.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: