Agenda item

CYNLLUN DATBLYGU LLEOL DIWYGIEDIG 2018 - 2033 CYTUNDEB CYFLAWNI DRAFFT

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor Gytundeb Cyflawni Drafft i'w ystyried a luniwyd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 10 Ionawr, 2018 i ddechrau paratoi'n ffurfiol ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig (newydd) yn dilyn cyfnod o ymgynghori cyhoeddus ar 23 Mawrth.  Nodwyd, ar yr amod bod y Cyngor yn cadarnhau'r Cytundeb Drafft, y byddai angen ei gyflwyno wedyn i Lywodraeth Cymru er mwyn ei gymeradwyo.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

·        Cadarnhawyd y byddai'r gwahoddiadau am fynegiannau o ddiddordeb mewn perthynas â Safleoedd Ymgeisio yn cael eu hail-lansio yr wythnos ganlynol a byddai aelodau lleol yn cael manylion cyswllt adrannol perthnasol ar gyfer eu wardiau.

·        Cyfeiriwyd at yr arfer o fancio tir, ac a ellid tynnu caniatâd cynllunio presennol yn ôl, yn rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, os nad oedd tirfeddianwyr wedi dangos dymuniad i greu datblygiad.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio, yn rhan o broses y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig, y byddai'n rhaid i ddarpar ddatblygwyr sy'n dymuno cael tir wedi'i gynnwys yn y cynllun ddangos bod modd cyflawni eu datblygiad, ac na fyddai mynegi dymuniad i ddatblygu bellach yn ddigon. Os na fyddai hynny'n digwydd, yr oedd posibilrwydd na fyddai tir oedd wedi cael ei  ddyrannu mewn Cynlluniau Lleol blaenorol yn cael ei gynnwys fel dyraniad yn y Cynllun newydd. Hynny yw, o ran safleoedd a ddyrannwyd ar hyn o bryd mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu Lleol newydd, nid oes modd eu hail-gynnwys yn awtomatig nac ychwaith gwarantu eu bod yn cael eu cynnwys.

 

·        Cyfeiriwyd at ganiatâd cynllunio a gyhoeddwyd o dan y Cynllun presennol, ac at geisiadau oedd yn dod i law i'w hadnewyddu. Cadarnhawyd y byddai'r rheiny'n cael eu hystyried yn unol â pholisïau cynllunio presennol. Fodd bynnag, wrth i'r adolygiad fynd yn ei flaen, efallai y bydd posibilrwydd na fydd caniatâd yn cael ei adnewyddu, neu efallai y bydd yn cael ei roi am gyfnod tipyn byrrach yn unig, er enghraifft am un flwyddyn. Gallai ymgeisydd apelio yn erbyn peidio â chynnwys darn o dir yn y Cynllun Datblygu Lleol diwygiedig.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch yr hyn a wnelo cynghorau tref a chymuned â chynlluniau lleoedd, cadarnhaodd y Rheolwr Blaen-gynllunio fod tipyn o ddryswch ynghylch y cynlluniau yn gyffredinol, er bod cyfarfodydd wedi cael eu cynnal â'r 3 Chyngor Cymuned, ac yr oedd angen gwell lefel o ddealltwriaeth ynghylch hyn. Bydd y Tîm Blaen-gynllunio yn helpu lle bo modd, ond cyfeiriwyd at lefel yr adnoddau oedd ar gael ac y byddai angen canolbwyntio'r adnoddau'n bennaf ar ddarparu'r Cynllun Datblygu Lleol newydd. Yr oedd rôl ar gael i gyrff eraill megis Cymorth Cynllunio Cymru o ran cynorthwyo Cynghorau Tref a Chymuned hefyd.

 

PENDERFYNWYD ARGYMELL i'r Bwrdd Gweithredol fod:

 

8.1

Y sylwadau a ddaeth i law a'r argymhellion mewn perthynas â Chytundeb Cyflawni Drafft yn cael eu nodi

8.2

Y newidiadau i'r amserlen yn cael eu nodi

8.3

Y Cytundeb Cyflawni (yn cynnwys argymhellion yr adroddiad) i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru gytuno arno yn cael ei nodi

8.4

Yr estyniad i'r cyfnod ymgynghori ar gyfer cyflwyno safleoedd ymgeisio i 29 Awst, 2018 yn cael ei nodi.

 

Dogfennau ategol: