Agenda item

FERSIWN DDRAFFT O STRATEGAETH GORFFORAETHOL NEWYDD 2018-23

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor yr adrannau o'r fersiwn ddrafft o Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018-23 a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl. Nodwyd y byddai'r Strategaeth Newydd yn cymryd lle'r un bresennol a gyhoeddwyd yn 2015 a byddai'n cyfuno'r cynlluniau canlynol i un ddogfen:-

 

  Strategaeth Gorfforaethol 2015-20;

  yr Amcanion Gwella, yn unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol

2009;

  yr Amcanion Llesiant yn unol â gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol(Cymru) 2015 – nid oedd angen i'r rhain newid bob blwyddyn, nac ychwaith gael eu cyflawni o fewn blwyddyn, ac yr oedd nodi amcanion oedd yn parhau am fwy nag un flwyddyn yn hollol gyfreithlon;

  prosiectau allweddol Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin a

Rhaglenni ar gyfer y 5 mlynedd nesaf, fel y nodir yn "Symud Ymlaen

yn Sir Gaerfyrddin: y 5 mlynedd nesaf".

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Cyfeiriwyd at Gynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol y Cyngor, a gofynnwyd am eglurhad ynghylch a fyddai'r Cyngor yn gallu cynnig cymorth ariannol i fudiadau gwirfoddol/grwpiau cymunedol a fyddai efallai'n dymuno cymryd cyfrifoldeb dros ased lle nad oedd diddordeb wedi cael ei fynegi erbyn y dyddiad cau, sef 31 Mawrth 2018.

 

Dywedodd y Pennaeth Hamdden fod yr Is-adran Eiddo yn cydlynu'r gwaith hwn, ac er ei fod ar ddeall bod y Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol a'r cymhellion ariannol oedd yn gysylltiedig â hynny wedi dod i ben, petai unrhyw sefydliadau'n mynegi diddordeb mewn ysgwyddo cyfrifoldeb dros un o'r asedau hynny, byddai'r Cyngor yn gweithio gyda nhw mewn rôl alluogi ac yn eu cyfeirio at unrhyw gymorth grant a allai fod ar gael. Byddai'r cymorth hwnnw hefyd yn cael ei roi i unrhyw sefydliad a oedd wedi/yn y broses o gymryd cyfrifoldeb dros ased.

 

·        Cyfeiriwyd at weithredu gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor o ran yr amcan llesiant o Hyrwyddo Diwylliant a Threftadaeth Cymru, a gofynnwyd am wybodaeth ynghylch nifer y staff rheng flaen yn y llyfrgelloedd oedd yn gallu siarad Cymraeg.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y gellid gwneud trefniadau er mwyn iddo gael gwybodaeth ynghylch nifer y siaradwyr Cymraeg ymysg staff yr awdurdod.

·        Cyfeiriwyd at hyrwyddo'r Gymraeg mewn busnesau, yn enwedig y rheiny sy'n dechrau yn y Sir, a gofynnwyd a oedd unrhyw fesurau y gallai'r Cyngor eu cymryd i hyrwyddo rhagor o ddefnydd o'r Gymraeg, drwy Ganllawiau Cynllunio Arbennig o bosibl.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden fod yr awdurdod yn ceisio hyrwyddo'r Gymraeg lle bynnag y bo'n bosibl yn rhan o'r broses gynllunio, er enghraifft darparu arwyddion dwyieithog, a hynny drwy ddefnyddio dull oedd ar ffurf rhoi arweiniad ar hyn o bryd. Rhoddir ystyriaeth hefyd i'r posibilrwydd o ddefnyddio Canllawiau Cynllunio Atodol yn rhan o adolygiad y Cynllun Datblygu Lleol fel modd o hyrwyddo'r iaith. Yr oedd Cyngor Sir Gwynedd hefyd yn edrych ar y posibilrwydd hwnnw ac yr oedd yr awdurdod yn cydgysylltu â'r awdurdod hwnnw i'r perwyl hwnnw.

·        Cyfeiriwyd at iechyd meddwl yng Nghymru a'i effaith ar oedolion a phlant. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor y byddai dolen i sefydliadau priodol sy'n delio â'r broblem honno yn cael ei chynnwys yn y ddogfen.

·        Cyfeiriwyd at ordewdra ymysg plant, ac mae 30.7% o blant 4-5 oed yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu cofnodi'n rhai sydd dros bwysau neu'n ordew. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y ffigurau dan sylw wedi cael eu llunio ar sail genedlaethol gan GIG Cymru ac y gellid rhoi ystyriaeth i ddarparu dolen i gyrchu'r ffigurau yn y ddogfen. Cadarnhawyd hefyd, er bod gan Sir Gaerfyrddin un o'r cyfraddau uchaf o ran gordewdra ymysg plant yng Nghymru, gan gynnwys y rheiny sy'n cael eu hystyried dros bwysau, fod yr awdurdod yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill gan gynnwys y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Awdurdod Iechyd mewn ymdrech i leihau'r lefelau hynny.

·        Mewn ymateb i sylwadau, cadarnhaodd y Pennaeth Hamdden yr anawsterau a wynebir wrth annog plant i gadw diddordeb mewn gweithgareddau chwaraeon yn ystod eu harddegau. Er ei bod yn anodd, yr oedd gwaith yn cael ei wneud mewn partneriaeth â sefydliadau allanol megis Chwaraeon Cymru a'r ysgolion mewn ymgais i wyrdroi'r duedd honno.

·        Dywedodd y swyddogion, yn seiliedig ar sylwadau aelodau, y byddai nifer o'r 'Camau Gweithredu a Mesurau' yn y Strategaeth yn cael eu cryfhau cyn eu cyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol.  

 

PENDERFYNWYD argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod y fersiwn ddrafft o Strategaeth Gorfforaethol Newydd 2018-23 yn cael ei chymeradwyo

 

Dogfennau ategol: