Cofnodion:
[NODER: Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynarach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion 2018-2021, sef y strategaeth ddigidol gyntaf oll ar gyfer ysgolion yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n nodi gweledigaeth yr Awdurdod, yn seiliedig ar yr egwyddorion cyffredinol a'r meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer darparu Gwasanaethau TGCh i ysgolion.
Mae Is-adran Gwasanaethau TGCh Sir Gaerfyrddin yn rhoi cymorth a gwasanaethau helaeth i'r holl ysgolion ledled yr Awdurdod. Mae defnydd yr ysgolion o dechnoleg yn hyrwyddo dysgu arloesol gan fyfyrwyr a oedd yn hyderus yn ddigidol, a ysbrydolwyd gan addysgu medrus a chreadigol. Mae'r Strategaeth Ddigidol dair blynedd ar gyfer Ysgolion yn nodi bwriad yr Awdurdod o ran y ddarpariaeth TGCh mewn ysgolion yn ystod y blynyddoedd nesaf, er mwyn sicrhau bod gan ysgolion y dechnoleg briodol i gyflawni'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
Rhoddodd y strategaeth eglurdeb ar y meysydd canlynol:-
- Pam mae arnom angen Strategaeth Ddigidol ar gyfer Ysgolion;
- Ein gweledigaeth ddigidol ar gyfer ysgolion Sir Gaerfyrddin;
- Ein hegwyddorion cyffredinol ar gyfer darparu'r strategaeth;
- Ystad Ddigidol Ysgolion Sir Gaerfyrddin;
- Meysydd blaenoriaeth allweddol:
- HWB yn gyntaf
- Diogeledd data a gwasanaethau ar-lein
- Rhwydweithiau effeithiol ac effeithlon
- Ysgolion a dosbarthiadau digidol
- Y prosiectau allweddol sydd i'w cyflawni
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y problemau o ran plant nad ydynt yn gallu gwneud eu gwaith ysgol ar-lein gartref mwyach. Esboniodd y Rheolwr Strategol Technegol fod plant yn arfer clicio ar ddolen i gael mynediad i fodiwlau ar-lein, ond roedd yna risgiau o ran diogelwch felly roedd rhaid i ni roi'r gorau i ddefnyddio'r system honno. Ar hyn o bryd mae swyddogion yn gweithio ar system newydd;
· Mynegwyd pryder bod llawer o blant yn ddifreintiedig gan nad oes ganddynt iPads ac na ellir trosglwyddo'r apiau a ddefnyddir mewn ysgolion i systemau Android a gofynnwyd i'r swyddogion a oes unrhyw gynlluniau i ddefnyddio'r ddwy system. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod swyddogion yn gweithio ar y mater hwn ac mai'r bwriad yw y bydd yr holl apiau sy'n cael ei symud i'r system newydd, HWB, ar gael ar nifer o blatfformau;
· Cyfeiriwyd at y ffaith nad oes gennym ddarpariaeth o'r un safon o ran y systemau yn y Gymraeg a'r Saesneg a gofynnwyd i'r swyddogion pa mor hyderus ydynt y gellir cyflawni hyn. Cytunodd y Pennaeth TGCh ei fod yn her gan fod y cwmnïau sy'n darparu systemau megis Office 365 ond yn gwneud hyn yn y Saesneg;
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod y strategaeth ond yn cyfeirio at isadeiledd a chredwyd bod cyfle wedi'i golli o ran sicrhau bod staff yn meddu ar y sgiliau priodol sydd eu hangen arnynt. Esboniodd y Pennaeth TGCh mai ei is-adran sy'n gyfrifol am sicrhau bod yr isadeiledd sydd ei angen er mwyn darparu'r gwasanaeth yn bresennol ac mai'r Adran Addysg sy'n gyfrifol am ddarparu sgiliau TG i athrawon. Ychwanegodd fod llawer o waith yn cael ei wneud yn ogystal â'r strategaeth er mwyn cyflawni cymhwysedd digidol.
PENDERFYNWYD argymell i'r Bwrdd Gweithredol fod yr adroddiad yn cael ei gymeradwyo.
Dogfennau ategol: