Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried adroddiad a oedd yn nodi'r cynnydd a wnaed gogyfer â'r camau gweithredu a'r mesurau yng nghynllun cyflawni Amcanion Llesiant 2017/18 a oedd yn berthnasol i faes gorchwyl y Pwyllgor, fel yr oedd ar 31 Rhagfyr, 2017.
Rhoddwyd sylw i'r ymholiadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at fethu cyrraedd y targed a oedd yn ymwneud â chanran y gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi. Gofynnwyd a oedd unrhyw le i storio gwastraff, petai sefyllfa debyg yn digwydd eto? Esboniodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff yr anawsterau o ran storio 'gwastraff du' ac ychydig iawn o gyfleusterau storio oedd gan Sir Gaerfyrddin. Fodd bynnag, roedd atebion tymor hir ar hyn o bryd yn cael eu hystyried gyda'n partner Cwm Environmental.
·
Gofynnwyd hefyd ynghylch
dyfodol y gwasanaethau bysiau. Dywedodd
y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd er bod y cyllid wedi bod yn
gostwng roedd yr Adran wedi mynd ar drywydd cyfleoedd cyllid
allanol. Er enghraifft, datblygwyd gwasanaethau Traws Cymru a
Bwcabus drwy gyllid allanol. Byddai'r Adran yn parhau i fanteisio
ar gyfleoedd ariannu allanol.
· Yn gyffredinol, ledled Cymru, roedd y defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus yn gostwng ond roedd cynlluniau tebyg i Bwcabus yn mynd yn groes i'r duedd honno. Fodd bynnag petai llai o bobl yn defnyddio gwasanaethau rhwydwaith ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus byddai gwasanaethu mewn perygl.
· Mewn ymateb i ymholiad ychwanegol ynghylch cynlluniau i ymestyn y gwasanaeth Bwcabus i ardaloedd eraill, esboniodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod gwasanaeth Bwcabus wedi cael ei ariannu yn wreiddiol am 3 blynedd gan Grant Ewropeaidd. Erbyn hyn roedd y prosiect wedi cyrraedd naw mlynedd oherwydd ei lwyddiant, ac roedd y prosiect yn ddiweddar wedi cael ei ymestyn i Sir Benfro. Bydd yr Awdurdod yn parhau i ymchwilio i opsiynau gwahanol er mwyn cynnal y gwasanaeth. Byddai ehangu'r gwasanaeth yn cael ei ystyried ymhellach petai cyfleoedd ariannu yn codi.
· Gofynnwyd am eglurhad o ran y diffiniad o 'stryd' yn y mesur perfformiad a nodwyd ar dudalen 32 o'r adroddiad 'canran y strydoedd sy'n cael eu glanhau’. Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y lefelau glendid gwahanol ar gyfer gwahanol fathau o strydoedd wedi'u hamlinellu mewn canllaw a grëwyd gan Cadwch Gymru'n Daclus.
· Mewn ymateb i sylw a godwyd ynghylch y swm uchel o sbwriel sy'n deillio o siopau bwyd cyflym, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod y tîm strategaeth ar hyn o bryd yn gweithio gyda siopau bwyd cyflym ledled Sir Gaerfyrddin er mwyn ceisio rheoli'r broblem sbwriel yn well. Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd mai'r DU oedd yn meddu ar y gyfradd uchaf o bobl sy'n bwyta ac yfed ar droed. Yn ogystal â'r mesurau gorfodi presennol, nodwyd y gallai mynd ati i addysgu'r cyhoedd am effaith sbwriel ar gefn gwlad fod yn fuddiol.
· Mynegwyd bod Cynghorau Tref/Cymuned yn ffurfio grwpiau casglu sbwriel. Er mwyn arwain drwy esiampl, awgrymwyd bod y Pwyllgor yn trefnu diwrnod casglu sbwriel. Cytunodd y Pwyllgor y byddai hyn yn fuddiol a byddai'n ystyried a chytuno ar leoliad cyn diwedd mis Mehefin 2018.
· Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y gostyngiad yn y fflyd cerbydau gweithredu o 1% y flwyddyn, eglurodd y Pennaeth Trafnidiaeth a Phriffyrdd fod yr awdurdod wedi bod yn gostwng nifer y cerbydau er mwyn sicrhau arbedion effeithlonrwydd. Fodd bynnag, nid oedd y gostyngiad hwn wedi'i gyflawni ar draul ansawdd y gwasanaethau a ddarperir. Er enghraifft, roedd y cerbydau graeanu wedi gostwng o 35 i 21, gan ddisodli cerbydau graeanu pwrpasol gyda cherbydau deuol a oedd yn llawer mwy effeithlon. Ychwanegodd y Pennaeth Gwasanaethau Amgylcheddol a Gwastraff fod yr un peth yn wir ar gyfer y fflyd gwastraff/glanhau.
· O ran 'cefnogi cymunedau mwy diogel', gofynnwyd am gael y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa bresennol y systemau teledu cylch cyfyng yn Sir Gaerfyrddin. Dywedodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol fod y gwaith o osod system yr heddlu yng nghanol trefi Caerfyrddin, Llanelli a Rhydaman yn dilyn y targed o gael ei gwblhau yn ystod yr haf. Dywedwyd y byddai'r system teledu cylch cyfyng sy'n cael ei hariannu gan yr Heddlu hefyd yn cael ei monitro o Bencadlys yr Heddlu a bod lleoliad y camerâu wedi cael eu nodi gan yr Heddlu. Ychwanegodd y Rheolwr Diogelwch Cymunedol, y byddai'r Awdurdod yn ystyried lleoliadau ar gyfer yr hen gamerâu teledu cylch cyfyng sy'n eiddo i'r Cyngor gan nad ydynt wedi'u cynnwys yn y system heddlu newydd.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: