Agenda item

GOFALWYR DI-DÂL - Y WYBODAETH DDIWEDDARAF.

Cofnodion:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i Ms Alison Harris, sef Prif Weithredwr yr Ymddiriedolaeth i Ofalwyr, Croesffyrdd Sir Gâr, a oedd wedi cael ei gwahodd i fod yn bresennol yn y cyfarfod er mwyn ystyried y mater hwn.

 

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad oedd yn rhoi trosolwg o'r gweithgareddau a'r mentrau a gafodd eu rhoi ar waith i roi cymorth i'r 48,000 o ofalwyr di-dâl yn y rhanbarth a'r 24,000 o ofalwyr di-dâl yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yr adroddiad yn cwmpasu cyfnod o ddwy flynedd, ers i'r adroddiad blaenorol gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ym mis Mehefin 2016, ac roedd yn rhoi manylion ynghylch datblygiad yn y rhanbarth a thrwy'r wlad, ynghyd â'r modd rydym yn mynd ati i weithredu'r agenda.

 

Roedd datblygiadau rhanbarthol yn cynnwys gwaith gan y Gr?p Gofalwyr Rhanbarthol De-orllewin Cymru a'r modd y mae'r gwaith o ran y Mesur ar gyfer Gofalwyr wedi mynd rhagddo ers iddo gael ei ddiddymu a'i wneud yn rhan o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rhoddwyd manylion hefyd ynghylch Cynllun Cyflawni Gofalwyr Gorllewin Cymru 2018/19 a'r adroddiad gwerthuso ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr a gynhaliwyd ar 24 Tachwedd, 2017.

 

Dangosodd yr adroddiad y lefelau uchel o gydnabyddiaeth a chymorth ar gyfer Gofalwyr ar draws rhanbarth gorllewin Cymru ac yn Sir Gaerfyrddin yn enwedig. Cydymffurfir â deddfwriaeth ac ymrwymiad o ran adnoddau gan y sefydliad ar gyfer cymorth i Ofalwyr a chydnabuwyd hyn gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae cydweithio â chydweithwyr iechyd, cydweithwyr mewn awdurdodau lleol cyfagos a'r trydydd sector yn bwysig ac mae'n tynnu sylw at yr ymagwedd gadarnhaol tuag at gydweithio sydd gan Ofalwyr sydd wedi datblygu yn y rhanbarth er mwyn bod yn gyson â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.

 

Gellir dangos y cymorth uniongyrchol i Ofalwyr yn ôl maint y gofal amgen rydym yn ei ddarparu sy'n rhoi seibiant i Ofalwyr rhag y gwaith gofalu neu'n rhoi cyfle iddynt wneud pethau eraill sy'n bwysig iddynt. Un dangosydd sy'n adlewyrchu hyn yw mai Ymddiriedolaeth Gofalwyr Croesffyrdd Sir Gâr, sef darparwr trydydd sector, yw'r gangen fwyaf o ran trosiant a gweithwyr, o'r sefydliadau yng Nghymru. Mae Sir Gaerfyrddin yn greadigol yn y modd rydym yn ymdrin â heriau a bydd cynllun Buddsoddwyr mewn Gofalwyr a'r Gwobrau Bòs Gofalgar, sy'n cael eu cydnabod yn arferion da gan Lywodraeth Cymru a Gofalwyr Cymru, yn cael eu hefelychu.

 

Mae'r Awdurdod wedi ymateb i'r hyn y mae Gofalwyr wedi'i ddweud wrtho, fel y gwelwyd yn y gwasanaeth allgymorth llwyddiannus tu hwnt a gomisiynwyd ar ôl ymgynghori â Gofalwyr ar gyfer y Mesur Gofalwyr, ac mae'n parhau i fuddsoddi mewn Fforwm Gofalwyr sy'n cynnig lle i ofalwyr fynegi eu problemau a'u dyheadau mewn amgylchedd cyfforddus sy'n darparu cyswllt gwybodaeth i drefnwyr gwasanaeth. Bydd gwaith yr Awdurdod yn y dyfodol yn adeiladu ar yr elfennau cadarnhaol hyn drwy fodel cydweithredu a chydgynhyrchu â Gofalwyr wrth inni fynd ati i gwrdd â thair blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofalwyr.

 

Cyflwynwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol ar yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder nad yw nifer o ofalwyr di-dâl yn ymwybodol o'u hawliau i hawlio Taliadau Annibyniaeth Bersonol neu Lwfans Byw i'r Anabl a gofynnwyd i'r swyddogion sut y gellid hyrwyddo'r llwybr incwm hwn. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Croesffyrdd wedi cymryd cyfrifoldeb dros y Gwasanaeth Cyngor ynghylch Lles gan Catchup ar 1 Ebrill, 2018, a byddant yn hyfforddi eu Hymgynghorwyr Lles yn hyn o beth. Rhoddwyd sicrwydd i'r aelodau fod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau bod gofalwyr yn cael yr holl fuddion y mae hawl ganddynt eu cael;

·       Pan ofynnwyd faint o'r 24,000 o ofalwyr di-dâl yn y sir nad ydynt yn defnyddio gwasanaeth Croesffyrdd, eglurodd y Swyddog Datblygu Gofalwyr nad yw rhai pobl am gael unrhyw gymorth/cyfraniad gan eraill ac y byddai'n well ganddynt gael llonydd yn eu rôl fel gofalwyr. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod gan Croesffyrdd 350 o ddefnyddwyr gwasanaeth ar hyn o bryd;

·       Cyfeiriwyd at y ffaith fod uchafswm o 40 lle ar gyfer cymorth i ofalwyr ifanc a gofynnwyd i'r swyddogion pam y mae terfyn yn ei lle. Eglurodd y Swyddog Datblygu Gofalwyr ei bod yn bwysig nodi'n flaenoriaeth y gofalwyr hynny sydd â'r anghenion mwyaf;

·       Pwysleisiwyd pa mor bwysig yw gallu dangos bod y gwasanaeth wedi gwella a bod ganddo dargedau sy'n ddyheadau ac yn gyraeddadwy;

·       Cyfeiriwyd at y swm sylweddol o waith a wneir gan Fwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin Cymru mewn perthynas â gofalwyr ifanc;

·       Cyfeiriwyd at yr angen bod gofalwyr yn gallu cael mynediad i amrywiaeth o opsiynau trafnidiaeth er mwyn cael gwasanaethau iechyd a gofynnwyd i'r swyddogion a ydy gofalwyr yn ymwybodol bod y rheiny y maent yn gofalu amdanynt yn gallu gwneud cais am docyn bws ar gyfer eu hunain, a fydd hefyd yn rhoi hawl i'w gofalwr deithio am ddim. Rhoddodd y Swyddog Datblygu Gofalwyr wybod i'r Pwyllgor fod mentrau o'r fath yn cael eu hyrwyddo gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Ofalwyr.

 

PENDERFYNWYD

 

5.1     derbyn yr adroddiad;

 

5.2     bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol           ynghylch gwaith y Bwrdd Partneriaeth Ranbarthol Gorllewin           Cymru mewn perthynas â gofalwyr ifanc.

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: