Cofnodion:
4.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/36812 |
Adeiladu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd, ynghyd â chae chwarae a man chwarae amlddefnydd newydd, ar gyfer 210 o ddisgyblion a 30 o blant meithrin, ynghyd â gwaith cysylltiedig o ran tirweddu, mynediad a seilwaith, ym Mharc Hamdden Gorslas, Heol Cefneithin, Gorslas, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA14 7HY.
[NODER: Gan iddi ddatgan buddiant yn y cais hwn yn gynharach, fe wnaeth y Cynghorydd D. Jones adael y cyfarfod cyn i'r cais gael ei ystyried a chyn y gwnaed penderfyniad yn ei gylch.]
Cafwyd sylw oedd yn mynegi pryderon ynghylch y cais ac roedd yn cynnwys y canlynol:-
· Y cynnydd o ran traffig a pharcio o ystyried faint o draffig sydd yn yr ardal hon yn ystod yr oriau brig, a seilwaith y ffordd, nad ystyrir yn ddelfrydol ar gyfer datblygiad o'r fath; · Dylid cynnwys amod bod cynllun teithio ar waith unwaith y bydd yr ysgol yn agor, i sicrhau bod ffyrdd mwy cynaliadwy o deithio, megis cerdded a beicio, yn cael eu defnyddio; · Dylid cynnwys amod bod asesiad trafnidiaeth yn cael ei gynnal 6 mis ar ôl agor i adolygu'r tagfeydd traffig posibl ar y ffyrdd cyfagos; · Dylid cynnwys amod bod cyfyngiadau cyflymder addas a chroesfannau diogel i gerddwyr yn cael eu mabwysiadu ar bob heol sy'n gysylltiedig â'r gyffordd chwe-ffordd; · Dylid pennu amodau i sicrhau na fydd d?r wyneb yn effeithio ar weddill y parc a'r tai cyfagos; · Ar hyn o bryd mae trigolion Gors-las yn cael myned pryd y mynnant i'r parc a'r cae chwarae a theimlwyd na ddylid gosod amodau o ran yr amserau y gellid defnyddio'r llefydd hyn. Dylid gosod amod fod y gymuned yn cael myned yn agored i'r maes chwarae amlddefnydd a'r cae chwarae yn syth ar ôl oriau'r ysgol drwy gydol y flwyddyn ac na ddylai'r Awdurdod Lleol na chwaith yr ysgol fod yn gallu newid y cytundeb hwn.
Ymatebodd yr Uwch-swyddog Rheoli Datblygu a'r Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio), i'r materion a godwyd.
|
4.2 PENDERFYNWYD gohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-
W/35730 |
Adeiladu dwy uned A1 ac un uned A3 ynghyd â llefydd parcio cysylltiedig ar hen safle Cartref Tawelan, Llwyn Onn, Caerfyrddin, SA31 3PY.
Y RHESWM: Oherwydd y pryderon a godwyd ynghylch diogelwch ar y ffordd.
Cafwyd sylw a oedd yn gofyn i'r Pwyllgor gynnal ymweliad safle yn sgil pryderon ynghylch y cynnydd a grëir mewn traffig, ac o ystyried yr hanes a fu o ddigwyddiadau a gwrthdrawiadau traffig yn yr ardal.
Yn unol â phrotocol y Pwyllgor Cynllunio, roedd y gwrthwynebwyr a oedd wedi gofyn am gael siarad ynghylch y cais hwn wedi dewis cyflwyno eu sylwadau yn y cyfarfod a fydd yn dilyn yr ymweliad â'r safle. |
4.3 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL wrthod y cais cynllunio canlynol am y rhesymau y manylwyd arnynt yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
W/36584 |
Amrywio Amod 4 o gais W/34406 (ffens acwstig) yn Gwastod Abbot, New Inn, Pencader, SA39 9AZ.
|
Dogfennau ategol: