Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau a nodwyd yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod, a bod awdurdod yn cael ei ddirprwyo i'r Pennaeth Cynllunio drafod â'r ymgeisydd y cyfraniad tuag at wella ysgolion lleol y dalgylch:-
S/36380 |
Cynigir adeiladu 14 o dai fforddiadwy newydd ar ddarn o dir diffaith ar ddiwedd ystad dai bresennol Garreglwyd. Bydd y rhan fwyaf o'r tai ar gyfer 4 person ac â 2 ystafell wely, ond bydd dau d? ar gyfer 7 person ac â 4 ystafell wely, ar dir yn Garreglwyd, Pen-bre, Porth Tywyn, SA16 0UH. |
3.2 PENDERFYNWYD gwrthod y ceisiadau cynllunio canlynol, yn groes i argymhelliad y Pennaeth Cynllunio, gan fod y Pwyllgor o'r farn fod y ceisiadau yn mynd yn groes i bolisïau GP1 a H3 o'r Cynllun Datblygu Lleol.
S/36834 |
Newid defnydd o fod yn breswylfa 4 ystafell wely, Dosbarth C3 i fod yn d? amlfeddiannaeth 4 ystafell wely, Dosbarth C4. Newidiadau cysylltiedig i ddwy ffenest flaen i ddarparu mynediad mewn argyfwng yn 9 Teras Great Western, Llanelli, SA15 2ND.
Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad uchod, ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-
· Nid oes angen amdano yn yr ardal am fod saith t? amlfeddiannaeth yn yr ardal eisoes a byddai'r cais hwn yn arwain at ormodedd ohonynt; · Mae Stryd Siôr yn unffordd ac mae pobl yn ei defnyddio fel tramwyfa i gyrraedd yr ysgol newydd; · Y pryder yn y gymuned am fod llawer o bobl h?n a theuluoedd yn byw yn yr ardal; · Mae tai eraill dan sylw yn yr ardal o ran eu troi’n dai amlfeddiannaeth posibl; · Dylwn fod yn codi proffil yr ardal oherwydd bydd y Ganolfan Lesiant newydd gerllaw.
Ymatebodd y Peiriannydd Cynorthwyol (Cydgysylltu Cynllunio) a'r Uwch-swyddog Rheoli Datblygu i'r materion a godwyd.
|
S/36835 |
Newid defnydd o fod yn breswylfa 4 ystafell wely, Dosbarth C3 i fod yn d? amlfeddiannaeth 4 ystafell wely, Dosbarth C4. Newidiadau cysylltiedig i ddwy ffenest ystafell wely ar y llawr cyntaf i ddarparu mynediad mewn argyfwng yn 7 Teras Great Western, Llanelli, SA15 2ND.
Daeth sylw i law a wrthwynebai'r datblygiad uchod, ac a ail-bwysleisiai’r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:-
· Nid oes angen amdano yn yr ardal am fod saith t? amlfeddiannaeth yn yr ardal eisoes a byddai'r cais hwn yn arwain at ormodedd ohonynt; · Mae Stryd Siôr yn unffordd ac mae pobl yn ei defnyddio fel tramwyfa i gyrraedd yr ysgol newydd; · Y pryder yn y gymuned am fod llawer o bobl h?n a theuluoedd yn byw yn yr ardal; · Mae tai eraill dan sylw yn yr ardal o ran eu troi’n dai amlfeddiannaeth posibl; · Dylwn fod yn codi proffil yr ardal oherwydd bydd y Ganolfan Lesiant newydd gerllaw; · Mae'r holl strydoedd cyfagos yn ddwyffordd ond mae Stryd Siôr bellach yn unffordd, sydd wedi gwaethygu'r problemau parcio ar strydoedd eraill. |
3.3 PENDERFYNWYD cymeradwyo'r rhesymau dros wrthod a ddrafftiwyd gan y Pennaeth Cynllunio, fel y'u manylwyd yn yr adroddiad, mewn perthynas â'r cais cynllunio canlynol y gwrthododd y Pwyllgor Cynllunio roi caniatâd cynllunio iddo, yn groes i argymhelliad y swyddog, ar 20 Chwefror 2018:-
S/35215 |
Datblygiad preswyl i gynnwys 51 o breswylfeydd ynghyd â gwaith cysylltiedig ar dir ger Clos y Benallt Fawr, Fforest, Abertawe, SA4 0TQ.
|
Dogfennau ategol: