Agenda item

Y TALIADAU GWASANAETHAU CYMDEITHASOL AR GYFER 2018/2019

Cofnodion:

Ystyriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol adroddiad a fanylai ar lefel y taliadau arfaethedig ar gyfer gofal cartref a gwasanaethau cymdeithasol dibreswyl eraill ar gyfer 2018–19.  Roedd Atodiad 1 i'r adroddiad yn manylu ar y taliadau presennol ar gyfer 2017/18 a'r taliadau arfaethedig ar gyfer 2018/19.

Dywedodd yr Uwch-reolwr Cymorth Busnes y byddai'r rhan fwyaf o'r taliadau'n cael eu cynyddu'n unol â disgwyliadau cyllidebol yr Awdurdod, ac eithrio'r tâl Teleofal. Ni fyddai'r tâl Teleofal yn newid gan na all y tâl ar gyfer unrhyw wasanaeth fod yn fwy nag y mae'n ei gostio i'w ddarparu, a chan fod y gwasanaeth Teleofal yn newid yn sylweddol ar hyn o bryd, cyn gynted ag y byddai'r newid wedi'i gwblhau, byddai'r tâl yn cael ei adolygu eto ar gyfer y blynyddoedd i ddod.

 

O ran Gofal Cartref a Gwasanaethau Cymdeithasol Dibreswyl eraill, nodwyd bod Awdurdodau dal yn gallu dewis penderfynu p'un ai i godi tâl am wasanaethau ai peidio, faint i godi am wasanaethau, a pha wasanaethau y dylid codi tâl amdanynt. Roedd tâl mwyafswm o hyd y gallai unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth ei dalu ac ar gyfer 2018/19 y tâl mwyafswm oedd £80 yr wythnos ac eithrio unrhyw daliadau yn lle costau byw dyddiol arferol megis prydau a golchi dillad. Y bwriad oedd parhau â'r tâl mwyafswm newydd fel y cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Byddai angen ailasesu amgylchiadau ariannol defnyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol Dibreswyl yn sgil newidiadau pensiwn a gyflwynwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ym mis Ebrill 2018.  O dan y Ddeddf mae'r defnyddwyr gwasanaeth dal yn gorfod cael eu hysbysu am eu tâl, neu unrhyw newidiadau i'w tâl cyn y gellir anfon anfoneb, ond bydd y tâl yn gallu cael ei gymhwyso ac yn cael ei gymhwyso o'r dyddiad y bydd yr amgylchiadau ariannol yn newid a/neu ddyddiad cyntaf y gwasanaeth. Felly, byddai canlyniad yr Ailasesiad Ariannol yn cael ei gymhwyso o 9 Ebrill, 2018, sef y dyddiad y daw newidiadau pensiwn Yr Adran Gwaith a Phensiynau yn berthnasol.

 

Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ystyriwyd gofal seibiant yn wasanaeth tymor byr, ac yn unol â hynny, roedd gan ddefnyddwyr gwasanaeth oedd yn cael gofal seibiant hawl i asesiad ariannol dan y rheolau codi tâl am wasanaethau dibreswyl. O ganlyniad, ni fydd defnyddwyr gwasanaeth yn talu mwy nag £80 yr wythnos am y gwasanaeth hwn, a bydd llawer yn talu llawer llai neu'n cael y gwasanaeth am ddim. Ar gyfer 2018/19 cynigiwyd codi cost lawn y lleoliad, gyda'r asesiad ariannol yn sicrhau bod neb yn talu mwy na'r hyn gallant ei fforddio. Bydd yr Asesiad Ariannol yn unol â'r Ddeddf, Rheoliadau, Côd Ymarfer ac yn destun tâl mwyafswm o £80 yr wythnos. 

 

O ran gwasanaethau a ystyriwyd fel cost byw ddyddiol arferol, byddai'r taliadau hyn yn daliadau cyfradd unffurf a ddim yn destun asesiad ariannol, ac felly byddent yn cael eu codi yn ychwanegol  at dâl prawf modd ar gyfer yr holl wasanaethau uchod. Mae'r gwasanaethau sydd o dan y categori hwn fel a ganlyn:-

 

-   prydau twym gartref (Prydau ar Glud) ac mewn cyfleusterau dydd a phrydau wedi'u rhewi gartref (Prydau ar Glud) - £4.70 fesul pryd (cynnydd o 40c yn unol â phenderfyniad gan y Cyngor ar 23 Chwefror, 2016);

-    golchi dillad £2.40 y llwyth (cynnydd o 5c)

 

Er mwyn helpu i gyrraedd y lefelau presennol o ran galw am wasanaethau

 

PENDERFYNWYD

 

3.1 cymeradwyo'r cynnydd arfaethedig o ran y taliadau am y gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer 2018/19, fel y'u nodwyd yn yr adroddiad; i ddod i rym o 9fed Ebrill 2018 ymlaen;

3.2 mai'r trothwyon a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru fydd y trothwyon cyfalaf i'w defnyddio ar gyfer yr asesiad ariannol sy'n ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol Dibreswyl;

3.3 cymhwyso'r tâl mwyafswm wythnosol newydd o £80 yr wythnos ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Dibreswyl ar gyfer Oedolion, sydd wedi'i gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, o 9fedEbrill 2018 a bod y tâl mwyafswm yn dal i fod yn unol â chyhoeddiadau gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol wrth iddynt ddigwydd.

 

 

 

Dogfennau ategol: