Agenda item

ADDYSG DDEWISIOL YN Y CARTREF - PAPUR BRIFFIO MAWRTH 2018.

Cofnodion:

[NODER:  Roedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]

 

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor mai Addysg Ddewisol yn y Cartref yw lle mae rhieni'n penderfynu darparu addysg yn y cartref i'w plant yn hytrach na'u hanfon i'r ysgol.  Nid cynllun gwersi cartref yw hwn sy'n cael ei ddarparu gan yr Awdurdod Addysg Lleol neu lle mae'r Awdurdod Addysg Lleol yn darparu addysg mewn rhywle arall heblaw'r ysgol.

 

Mae'r Awdurdod Lleol yn cydnabod bod addysg ddewisol yn y cartref yn agwedd allweddol ar ddewis rhieni ac felly yr amcan yw annog arferion da mewn perthynas â'r rhai sy'n addysgu yn y cartref.  Mae hyn yn cael ei gyflawni drwy osod y polisïau'n glir a darparu gwybodaeth a chyngor ar rolau a chyfrifoldebau'r Awdurdod Lleol a'r rhieni o ran plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref.

 

Efallai y bydd rhieni'n dewis arfer eu hawliau i addysgu eu plant yn y cartref oherwydd amrywiaeth o resymau.  Ni ddylai'r rhesymau eu hunain gael unrhyw effaith ar sut y mae'r Awdurdod Lleol yn ymdrin â theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref, gan mai ein prif diddordeb yw darpariaeth addysgol y rhieni ar gyfer eu plant.

 

Mae swyddogion am adeiladu perthnasoedd effeithiol â'r rhai sy'n addysgu yn y cartref er mwyn diogelu addysg a llesiant y plant a'r bobl ifanc.  Mae rhieni sy'n addysgu yn y cartref, neu'r rhai sy'n ystyried hyn, yn cael person cyswllt enwebedig yn yr Awdurdod Lleol sy'n gyfarwydd â pholisïau ac arferion addysgu yn y cartref ac sydd â dealltwriaeth o'r ddeddfwriaeth berthnasol ac ystod o athroniaethau addysgol.

 

Er nad oes fframwaith cyfreithiol er mwyn i'r Awdurdod Lleol fonitro darpariaeth addysg yn y cartref, mae swyddogion yn ymwybodol o ddyletswyddau gofal ehangach yr Awdurdod a byddant yn cysylltu â rhieni i drafod eu darpariaeth barhaus o ran addysg yn y cartref.  Mae'r Awdurdod Lleol yn ymwybodol o arweiniad anstatudol Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2017, sy'n sylfaen i'n dull o weithredu. 

 

Nid oes rhwymedigaeth gyfreithiol ar yr Awdurdod Lleol i ddarparu unrhyw adnoddau ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, fodd bynnag, byddwn yn:-

 

·        darparu cyngor a chymorth ar faterion y cwricwlwm;

·        darparu gwybodaeth ar sefydliadau sy'n cynorthwyo'r rheiny sy'n addysgu yn y cartref;

·        hwyluso mynediad at rai gwasanaethau e.e. gyrfaoedd, cwnsela.

 

Mae'r Awdurdod Lleol wedi sefydlu cronfa ddata ar gyfer plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref.  Bydd angen i'r holl ysgolion roi gwybod i'r swyddog priodol am fwriad rhiant i addysgu yn y cartref, a chadwir cofnod ymweliadau gan y swyddog sy'n gyfrifol am y maes gwaith hwn.

 

Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Mynegwyd pryder bod gan rieni hawl i ddewis yr addysg ar gyfer eu plant, fodd bynnag, mae dyletswydd ar yr Awdurdod i ddarparu'r addysg honno hefyd.  Esboniodd yr Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref nad oes dyletswydd gyfreithiol benodol i asesu, ond bod dyletswydd statudol ar yr Awdurdod Lleol i wneud trefniadau sy'n eu galluogi i nodi pwy yw'r plant yn ei ardal nad ydynt yn derbyn addysg addas, cyn belled ag sy'n bosibl.  Ychwanegodd mai'r peth anodd yw dehongli ystyr "addysg addas".  Dywedodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant y byddai ymrwymiad mwy eglur gan Lywodraeth Cymru o fudd enfawr gan fod yna ddyletswydd foesol arnom ynghylch y mater hwn.

·        Cyfeiriwyd at bwysigrwydd sgiliau cymdeithasol a mynegwyd pryder nad yw plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn profi'r agwedd gymdeithasol ar fywyd ysgol.

·        Cyfeiriwyd at y 15% o blant sy'n gadael y system addysg oherwydd bwlio a gofynnwyd i'r swyddogion sut mae Sir Gaerfyrddin yn cymharu â siroedd eraill a'r hyn rydym yn ei wneud o ran bwlio.  Esboniodd y Pennaeth Cwricwlwm a Llesiant yr ymchwilir i unrhyw gyhuddiad o fwlio er mwyn penderfynu a oes unrhyw fwlio'n digwydd.  O ran hyn croesawodd y ffocws ar lesiant a gaiff ei gyflwyno i'r cwricwlwm.  Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg wybod i'r Pwyllgor fod Sir Gaerfyrddin wedi bod yn dangos y ffordd yn y maes hwn ers nifer o flynyddoedd.  Mae swyddogion yn ceisio annog ymddygiad cadarnhaol ac ymyrraeth gynnar yn hytrach na chynnal polisi gwrth-fwlio.

·        Cyfeiriwyd at y ffaith y gall addysg hyblyg fod yn llwyddiannus iawn, fodd bynnag, mae'n achosi problemau i ysgolion drwy effeithio ar ffigurau presenoldeb.  Esboniodd y Cyfarwyddwr fod yr holl Awdurdodau yn y broses o gasglu data er mwyn gwneud cymariaethau.  Mae pecyn cymorth hefyd yn cael ei ddatblygu.  Ar hyn o bryd nid oes unrhyw gyllid ar gael er mwyn cynorthwyo'r gr?p hwn o blant.  Cosbwyd ysgolion yn y gorffennol am ganiatáu dulliau addysg hyblyg oherwydd yr effaith ar bresenoldeb.  Mae swyddogion yn gweithio ar fabwysiadu Côd Addysg Hyblyg gan y byddai hyn o fudd i'r plentyn a'r ysgol.

·        Mynegwyd pryder gan ei bod yn ymddangos nad oes gan yr Awdurdod reolaeth dros y plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref ac a ydynt yn dysgu, a gofynnwyd i'r swyddogion a fyddai'n bosibl i safoni addysg yn y cartref ac a oes modd rhannu pryderon y Pwyllgor ynghylch y mater hwn â Llywodraeth Cymru.

·        Pan ofynnwyd iddo a oes unrhyw ddata sydd ar gael mewn perthynas â chyfraddau llwyddo mewn arholiadau'r plant hynny sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, esboniodd y Cyfarwyddwr fod hynny'n anodd gan fod yna gymhlethdodau yn y system bresennol o ran plant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref yn cael mynediad i ganolfannau arholi.

 

PENDERFYNWYD

 

7.1       bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;

 

7.2       bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch y dulliau ymddygiad cadarnhaol sy'n cael eu gweithredu gan yr Awdurdod mewn perthynas â bwlio;

 

7.3       bod swyddogion yn llunio llythyr ar gyfer Llywodraeth Cymru er mwyn mynegi pryderon y Pwyllgor o ran y problemau sydd i'w cael mewn perthynas â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref a'r rhai sy'n derbyn addysg hyblyg, a fydd yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor cyn ei anfon.

 

 

Dogfennau ategol: