Cofnodion:
[NODER: Yr oedd y Cynghorydd G. Jones wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Monitro'r Gyllideb Refeniw a'r Gyllideb Gyfalaf ar gyfer y Gwasanaeth Addysg a Phlant a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol fel yr oedd ar 31 Rhagfyr 2017, mewn perthynas â blwyddyn ariannol 2017/18.
Rhagwelid y byddai'r Gwasanaeth Addysg a Phlant yn gorwario £516k o ran y gyllideb refeniw ac y byddai yna £2,004k o amrywiant net yn erbyn y gyllideb gyfalaf oedd wedi'i chymeradwyo ar gyfer 2017/18.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· O ran dileu swyddi ysgolion ac Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol, gofynnwyd i'r swyddogion pryd y byddai'r Pwyllgor yn gallu gweld cynlluniau penodol ar gyfer mynd i'r afael â'r mater hwn. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod swyddogion wedi bod yn gweithio ar hyn ers 3-4 mlynedd ac yr oedd yn falch bod yr hyn sydd wedi'i weithredu'n cael effaith, gan fod y gwariant wedi'i haneru eleni. Cyfeiriodd at yr Adolygiad Her, sy'n cynorthwyo ysgolion i wneud y penderfyniadau cywir ar yr adeg gywir. Anogir ymddeoliad naturiol, fodd bynnag, bydd yna bob amser adegau pryd y bydd rhaid i'r Awdurdod ystyried dileu swyddi ac ysgwyddo'r gost o wneud hyn;
· Cyfeiriwyd at y Gwasanaeth Cerdd a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd unrhyw fygythiad gwirioneddol i'r gwasanaeth ac os oedd, yr hyn y gellid ei wneud i'w gadw. Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant ei fod yn her ariannol a bod rhaid i ysgolion wneud penderfyniadau anodd oherwydd trefniadau cyd-gyllido. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £2 miliwn i edrych ar ddarpariaeth y gwasanaethau cerdd ar draws y wlad. Cytunodd ei fod yn her a bod mwy a mwy o ysgolion yn defnyddio'r gwasanaeth i ddysgu cerddoriaeth yn hytrach na dysgu sut i ganu offeryn gerddorol. Amlinellodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg pa mor bwysig yw cynyddu incwm a lleihau costau;
· Gofynnwyd i'r swyddogion am y swyddi addysg arbennig nad ydynt wedi'u llenwi a dywedodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant wrth y Pwyllgor fod yna nifer uchel o staff yn yr Adran Addysg a phan fydd swydd yn dod yn wag, bydd swyddogion yn ystyried a oes angen ei llenwi. Maent hefyd yn cael problemau o ran recriwtio ar gyfer rhai swyddi megis namau synhwyraidd. Mae gwaith yn cael ei wneud ynghylch y mater hwn, gan fod nifer fawr o aelodau staff yn y maes arbenigol hwn yn agosáu at oedran ymddeol. Ychwanegodd Pennaeth y Gwasanaethau Plant fod cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn rheolaidd gyda'r trydydd sector er mwyn gweld a ydynt mewn sefyllfa well i ddarparu'r gwasanaethau hyn, gan fod yr Awdurdodau Lleol weithiau'n darparu gwasanaethau sy'n fwy dwys o lawer na'r hyn sydd ei angen ar deuluoedd. Yr hyn sy'n bwysig yw adlinio'r gwasanaethau a darparu'r hyn sydd ei angen ar deuluoedd.
· Mynegwyd pryder am y gostyngiad yn y galw am brydau ysgol am ddim a gofynnwyd i'r swyddogion beth sy'n cael ei wneud i liniaru'r cynnydd yn y gost ym mis Ebrill. Esboniodd y Rheolwr Datblygu Strategol fod nifer gyson o blant wedi cael prydau ysgol am ddim yn gyffredinol tan eleni, ac mae bellach wedi gostwng 1%. Gallai hyn fod oherwydd nifer o resymau e.e. rhieni heb fod yn gyfarwydd â'r system dalu newydd ar-lein, fodd bynnag, ni chafwyd unrhyw duedd amlwg. O ran y cynnydd yn y gost, dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant wrth y Pwyllgor fod pris prydau ysgol wedi codi 10c y rhan fwyaf o'r blynyddoedd ac mai Sir Gaerfyrddin yw'r un â'r pris uchaf yng Nghymru erbyn hyn; yr oedd yn pryderu bod y pris yn cyfrannu at y gostyngiad yn nifer y plant sy'n cael prydau ysgol. Felly, yr oedd yn gweithio gyda swyddogion i ddod o hyd i ffordd o osgoi cynyddu'r gost ac yr oedd yn hyderus y gallai hyn gael ei wneud;
· Cafodd y swyddogion eu llongyfarch am leihau'r gorwariant rhwng mis Medi a mis Rhagfyr a gofynnwyd iddynt a oedd unrhyw syniad ganddynt am y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn. Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p nad oedd ganddi ffigur cyfredol gan fod y swyddogion yn mynd trwy'r adroddiadau gan reolwyr cyllidebau ar gyfer mis Chwefror ar hyn o bryd. Dywedodd y Cyfarwyddwr wrth y Pwyllgor yr hoffai weld y gorwariant yn lleihau i fod mor agos i sero ag sy'n bosibl. Ychwanegodd fod ei swyddogion yn llwyddiannus iawn yn eu gwaith o ddenu grantiau a manteisio i'r eithaf arnynt, bod pob swydd wag yn cael ei hystyried ac a oes angen ei llenwi, a bod arferion gwaith yr adran yn gwella gyda chymorth y Rhaglen Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC).
PENDERFYNWYD
5.1 bod yr adroddiad yn cael ei dderbyn;
5.2 bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad yn ddiweddarach yn y flwyddyn ynghylch dileu swyddi mewn ysgolion ac Ymddeoliad Cynnar Gwirfoddol gan fanylu ar yr ymagwedd a fabwysiadwyd a'r camau a gymerwyd;
5.3 bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch recriwtio a chadw staff;
5.4 bod y Pwyllgor yn derbyn adroddiad mewn cyfarfod yn y dyfodol ynghylch y problemau y mae Gwasanaeth Cerdd y Sir yn eu hwynebu.
Dogfennau ategol: