Cofnodion:
[NODER: Roedd y Cynghorwyr H. Davies, J. Gilasbey, A. James, A. C. Jones, K. Madge, E. Morgan a B.A.L. Roberts wedi datgan buddiant yn yr eitem hon yn gynharach.]
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r cyfarfod i'r cynrychiolwyr canlynol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a oedd wedi cael gwahoddiad i roi cyflwyniad i'r Cyngor ynghylch Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol:-
Ms Bernardine Rees, Cadeirydd
Mr Steve Moore, Prif Weithredwr
Dr. Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol a'r Cyfarwyddwr Strategaeth Glinigol
Ms Sarah Jennings, Cyfarwyddwr Partneriaethau a Gwasanaethau Corfforaethol
Ms Libby Ryan-Davies, Cyfarwyddwr Trawsnewid
Dr Meinir Jones, Cyfarwyddwr Trawsnewid Clinigol, Arweinydd Clinigol yr Uned Mân-anafiadau, Ysbyty’r Tywysog Philip
Dr Eiry Edmunds, Cardiolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Glangwili
Dr Goshal, Meddyg Anadlol Ymgynghorol a Chyfarwyddwr Ysbyty yn Ysbyty'r Tywysog Philip
Mr Jeremy Williams, Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Frys a Chyfarwyddwr Clinigol Gofal heb ei Drefnu
Ms Lisa Davies, Prif Reolwr y Prosiect
Dywedwyd wrth y Cyngor fod nifer o faterion strategol hirdymor yr oedd angen mynd i'r afael â hwy. Roedd y canlynol ymysg y prif ysgogwyr ar gyfer newid:-
- anghydraddoldebau ac amrywiadau o ran gofal;
- galw a sbardunir gan ddemograffeg;
- recriwtio a chadw staff;
- pwysau o ran perfformiad e.e. amseroedd aros;
- rhai adeiladau a chyfleusterau wedi dyddio/TG/gwybodeg/seilwaith;
- pellenigrwydd a gwledigrwydd – mynediad i wasanaethau.
Cydnabuwyd pwysigrwydd proses ymgynghori eang, hollgynhwysol, ac i'r perwyl hwn roedd Consultation Institute, sy'n arweinwyr byd ym maes ymgysylltu ac ymgynghori, wedi'u penodi i helpu/cynghori ar y broses ymgynghori. Cafwyd Sgwrs Fawr haf y llynedd â'r staff, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, partneriaid a'r cyhoedd. Hwn oedd Cam Darganfod (gwrando ac ymgysylltu) y Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Clinigol.
Roedd y rhaglen wedi'i hen sefydlu bellach yn dilyn llofnodi Adroddiad Allbwn Achos dros Newid Cam 1 yng Nghyfarfod y Bwrdd Iechyd Cyhoeddus a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2017. Roedd y rhaglen bellach wedi cyrraedd y cam nesaf, Cam 2 – Dylunio a bydd ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch y cam hwn yn cael ei gynnal am gyfnod o 12 wythnos o 19 Ebrill, 2018 hyd at 12 Gorffennaf, 2018.
Y canlynol yw egwyddorion allweddol y Model Gofal ac Iechyd newydd arfaethedig:-
· Cwmpasu'r system iechyd a gofal gyfan, a'r tu hwnt;
· Dull iechyd poblogaeth sy'n ceisio diwallu anghenion gofal lleol a helpu pobl i reoli eu hiechyd eu hunain;
· Ategwyd gan asesiad risg o'r boblogaeth gyfan i sicrhau ymyriadau rhagweithiol sy'n cynnal llesiant, osgoi salwch, neu'n osgoi dirywiad;
· Egwyddor craidd y model yw cynghori, cefnogi a thrin pobl yn eu cartref eu hunain neu fan cymunedol lle bo modd;
· Derbyniadau i'r ysbyty ond yn digwydd pan fo hynny'n hollol angenrheidiol yn feddygol;
· Yn ganolog i'r model gofal newydd y mae Rhwydweithiau Cymunedol a gefnogir gan Hybiau Cymunedol, lle gellir darparu nifer o wasanaethau gofal ac iechyd integredig (yn cynnwys y 3ydd sector) o un lleoliad;
· Yr hybiau hyn fydd y mannau gorau hefyd i gynllunio gofal cyndriniaethol a dilynol, yn ogystal â darparu gwasanaethau arbenigol a gynlluniwyd i bobl sy'n byw â chyflyrau hirdymor;
· Ni fydd Hybiau Cymunedol wedi'u hynysu, ond yn hytrach byddant yn gwella ac yn cefnogi rhwydweithiau amlasiantaeth presennol o wasanaethau sylfaenol a chymunedol;
· Cydweithio agosach rhwng staff cymunedol a staff ysbyty yn sicrhau bod y broses ryddhau'n cychwyn pan gaiff rhywun ei dderbyn, fel y gall fynd adref cyn gynted ag y bydd wedi gwella, gyda chymorth gan wasanaeth cymunedol 7 diwrnod yr wythnos.
Roedd chwe opsiwn ar gyfer darparu'r gwasanaeth yn cael eu hystyried ar hyn o bryd. Yn dilyn diwedd y cyfnod ymgynghori, bydd Adroddiad Dadansoddi am yr Ymgynghori yn cael ei gyhoeddi ar 10 Awst, 2018 a bydd Adroddiad Cloi am yr Ymgynghori ar 13 Medi, 2018. Bydd y rhaglen yn dod i ben drwy gyflwyno'r adroddiad terfynol i gyfarfod cyhoeddus o'r Bwrdd ar 27 Medi, 2018 ac yna bydd Cam 3 – Cyflawni yn cael ei roi ar waith, pryd y bydd yr opsiwn/opsiynau cytunedig yn cael eu gweithredu
Ar ôl y cyflwyniad cafwyd sesiwn holi ac ateb ac ar ôl hynny diolchodd y Cadeirydd i gynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd am gyflwyniad rhagorol a llawn gwybodaeth.