Agenda item

ARGYMHELLIAD Y BWRDD GWEITHREDOL - RHAGLEN GYFALAF BUM MLYNEDD (CRONFA'R CYNGOR) - 2018/19 TAN 2022/23

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror, 2018 (gweler Cofnod 7), wedi ystyried y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd am y cyfnod rhwng 2018/19 a 2022/23, a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, am y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a adlewyrchai'r Strategaeth Gorfforaethol bresennol ac a gefnogai flaenoriaethau a dyheadau strategol yr Awdurdod. Dywedodd fod y rhaglen gyfalaf yn rhagweld gwariant amcangyfrifedig o fwy na £200m dros y 5 mlynedd, ac mai'r nod oedd cyflawni yn erbyn y blaenoriaethau strategol a'r dyheadau ar gyfer y Sir.

 

Rhoddodd wybod i'r Cyngor fod y cyllid ar gyfer y rhaglen hon tua £143m ar hyn o bryd a bod £55m pellach yn dod oddi wrth gyrff cyllid grant allanol. Tra bod Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru wedi rhoi arwydd o setliadau refeniw'r blynyddoedd i ddod, nid oedd hyn ar gael ar gyfer cyfalaf y tu hwnt i 2018/19, ac felly roedd y rhaglen, yn unol â rhagdybiaethau cynghorau eraill, yn seiliedig ar fod benthyca â chymorth yn y dyfodol a grant cyffredinol ar yr un lefel â 2018/19. Ychwanegodd y byddai llawer o'r buddsoddiadau, megis rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, Priffyrdd, Adfywio a Thai, yn gyfarwydd i'r Cynghorwyr, ond bu'n bosibl ychwanegu buddsoddiad i gynlluniau yr ystyrid eu bod yn bwysig ar gyfer y Sir. Dyrannwyd cyllid newydd o fewn yr Adran Cymunedau ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre, Casgliadau Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin a Pharc Howard a pharhau i roi cymorth i Dai'r Sector Preifat yn 2022/23. O fewn Adran yr Amgylchedd roedd y cymorth ar gyfer Gwelliannau Priffyrdd, Cynnal a Chadw Pontydd a Chynlluniau Diogelwch Ffyrdd yn parhau i mewn i 2022/23 ac, o ganlyniad i gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, gwnaed cynnydd o £2.2m yn ychwaneg i'r gwariant ar 'adnewyddu ffyrdd' y flwyddyn nesaf.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau y byddai'r swyddogion yn parhau i fonitro cynlluniau unigol a'r cyllid sydd ar gael. Tra byddai angen rheoli'r ddwy elfen hyn yn agos i sicrhau bod cynlluniau'n cael eu cyflawni'n llawn, roedd y rhaglen bresennol yn cael ei chyllido'n llawn ac eithrio'r diffyg o £1.5miliwn ym mlwyddyn 4. Yna fe gynigiodd argymhellion y Bwrdd Gweithredol mewn perthynas â'r Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd (Cronfa'r Cyngor) a'r cyllid arfaethedig ar ei chyfer, yn unol â manylion yr adroddiad. Eiliwyd y cynnig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL fabwysiadu'r argymhellion canlynol gan y Bwrdd Gweithredol:-

7.1 bod y Rhaglen Gyfalaf Bum Mlynedd a'r cyllid, fel y'u nodwyd

yn Atodiad B yr adroddiad, gyda chyllideb 2018/19 yn gyllideb bendant

a chyllidebau 2019/20 tan 2022/23 yn gyllidebau amhendant/dangosol yn cael

eu cymeradwyo;

 

 

7.2 bod cyllideb 2021/22 yn cael ei hadolygu dros y flwyddyn i ddod er

mwyn ymdrin â'r diffyg yn y cyllid;

 

 

7.3  bod y rhaglen yn cael ei hadolygu, yn ôl yr arfer, oni lwyddir i gael y cyllid disgwyliedig gan gyrff allanol neu'r Cyngor Sir.

 

Dogfennau ategol: