Agenda item

ARGYMHELLIAD Y BWRDD GWEITHREDOL - STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Cyngor fod y Bwrdd Gweithredol, yn ei gyfarfod ar 5 Chwefror, 2018 (gweler Cofnod 5), wedi ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/19 tan 2020/21 a'i fod wedi gwneud nifer o argymhellion yn ei chylch, fel y manylwyd arnynt yn adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol, i'w hystyried gan y Cyngor.

 

Cafodd y Cyngor gyflwyniad gan yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Adnoddau, ar ran y Bwrdd Gweithredol, pryd y bu'n manylu ar gefndir yr argymhellion ar gyfer y gyllideb oedd yn cael eu cyflwyno at ystyriaeth y Cyngor. 

Dywedodd fod y setliad terfynol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Rhagfyr 2017 wedi bod yn fwy ffafriol a chefnogol i Lywodraeth Leol na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol, a olygai ei bod hi wedi bod yn bosibl ailedrych ar rai o'r cynigion yn y Gyllideb wreiddiol ac ystyried opsiynau pellach, gan gynnwys rhoi ystyriaeth i'r cynnig diweddaraf i roi codiad cyflog. Fodd bynnag, gan mai ar gyfer blwyddyn yn unig yr oedd Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu ffigurau ar lefel Awdurdod, roedd hyn yn cyfyngu ar y gallu i ragweld yn y tymor canolig o fewn y cynllun ariannol tymor canolig.

Tynnodd sylw at rai o bwyntiau amlwg y setliad; roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn cyfeirio at y manylion llawn. O edrych ar Gymru gyfan roedd y cyllid ar gyfer Llywodraeth Leol wedi cynyddu gymaint â 0.2%, gyda Sir Gaerfyrddin yn unol â'r cyfartaledd. Roedd y setliad terfynol wedi rhoi £1.48m pellach i'r Awdurdod o gymharu â'r setliad dros dro. Roedd hyn yn dod â chyfrifoldeb ychwanegol yn ei sgil, fodd bynnag, a oedd yn cynnwys cynyddu'r terfynau cyfalaf ar gyfer gofal preswyl a chymorth rhyddhad wedi'i dargedu i fusnesau bach, a fyddai'n cael eu trosglwyddo i'r gwasanaethau hynny. Roedd y setliad wedi cynnwys £399k ychwanegol ar gyfer atal digartrefedd. 

Dywedodd bod un o'r dilysiadau mwyaf arwyddocaol a wnaed ar y gyllideb eleni yn ymwneud â'r cynnig o godiad cyflog a wnaed gan y corff cyd-drafod ar gyfer cyflogwyr, a oedd yn rhoi codiad cyflog o 2% ynghyd â sicrhau mai'r rhai oedd ar y graddfeydd cyflog isaf fyddai'n gweld y cynnydd mwyaf yn eu cyflog. Ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin, canlyniad hyn oedd pwynt cyflog isaf o £8.68 o fis Ebrill 2018, sef cynnydd o 8.98%, a fyddai'n cynyddu i £9.18 ym mis Ebrill 2019 a chynnydd pellach o 5.76%. Nid oedd y cynnig cyflog yn berthnasol i athrawon, a oedd yn destun trefniadau cyflog cenedlaethol ar wahân sef 2% o fis Medi 2018.

Cyfeiriwyd at Banel Ymgynghorol yr Awdurdod Ynghylch y Polisi Tâl, sydd yn wleidyddol gytbwys, ac un o argymhellion y panel hwnnw, a fyddai'n cael ei gyflwyno i'r Cyngor Sir er mwyn ei ystyried ar 7 Mawrth 2018, fyddai talu tâl atodol isel i staff sydd ar hyn o bryd ar bwyntiau 9 a 10 ar y golofn gyflogau, fel bod y staff hynny yn derbyn swm cyfwerth â £8.75, sef y Cyflog Byw Sylfaen a argymhellir (y tu allan i Lundain). Yn ogystal, er bod y trafodaethau ynghylch cyflogau yn dal i fynd rhagddynt, argymhellid bod y codiad cyflog o 2% i'r holl staff heblaw athrawon o 1 Ebrill 2018 yn cael ei weithredu cyn dod i gytundeb terfynol.

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol nad oedd cynigion y strategaeth gyllideb dair blynedd a fabwysiadwyd ym mis Chwefror 2017 yn amddiffyn ysgolion yn ystod 2018-19, ond bod cydweithwyr ar y Bwrdd Gweithredol wedi bod yn ymwybodol iawn o'r angen i gynorthwyo ysgolion lle bynnag yr oedd yn bosibl wrth geisio lleihau'r effaith ar adrannau eraill. O ganlyniad i'r cymorth ychwanegol a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r setliad bu'n bosibl, unwaith eto, amddiffyn ysgolion a pheidio â lleihau eu cyllidebau a byddai cyllideb ddirprwyedig yr ysgolion ar gyfer y flwyddyn nesaf yn parhau yn £108.7m. Er mwyn cynorthwyo ysgolion ymhellach cynigiwyd sefydlu 'cronfa datblygu ysgolion' a fyddai'n gweithredu ar sail debyg i gronfa ddatblygu'r Cyngor. Byddai hyn yn rhoi mynediad uniongyrchol i ysgolion at 'gronfa buddsoddi i arbed' a'u galluogi i gael cyllid ymlaen llaw ar gyfer prosiectau effeithlonrwydd cost.

Hefyd cyfeiriodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol at yr ymgynghori eang ynghylch y gyllideb a oedd wedi rhoi adborth sylweddol ar y cynigion gwreiddiol a roddwyd gerbron.  Yn unol â hynny, argymhellodd fod yr addasiadau canlynol yn cael eu gwneud i Strategaeth y Gyllideb, wrth benderfynu'n derfynol ar y gyllideb, a oedd yn rhoi ystyriaeth i'r broses ymgynghori ac yn ymateb i'r adborth gan y cynigion nad oeddent wedi'u cefnogi ac a oedd â sgôr mynegai cyfartalog isel:

·         gwaredu'r gostyngiad o £50k yn y gyllideb a fwriadwyd ar gyfer y Gwasanaethau Cynhwysiant. Roedd gan y cynnig hwn sgôr mynegai negyddol o -0.78 a hwn oedd y cynnig oedd â'r lleiaf o gefnogaeth; 

·         Ailedrych ar y cynnig Gwasanaethau Dydd Gofal a Chymorth - byddai hyn yn arwain at leihad o £50k yn y mesurau effeithlonrwydd a fwriadwyd ar gyfer 2018/19 a £25k ar gyfer 2019/20;

·         Mewn ymateb i'r pryderon gan ddefnyddwyr gwasanaeth, bydd y cynnig ar gyfer y Ganolfan Gofal Seibiant yn cael ei adolygu a gofynnir i'r adran roi ystyriaeth bellach i'r opsiynau o ran darparu'r gwasanaeth. Byddai hyn yn golygu gwyrdroi'r toriad o £200k yn y gyllideb ar gyfer 2018/19 a 2019/20;    

·         Bod y gronfa arfaethedig ar gyfer datblygu Ysgolion yn cael ei phennu yn £0.5m. Byddai hyn yn cryfhau'r cyfleoedd er mwyn i'r swyddog Effeithlonrwydd Ysgolion weithio gyda'r holl ysgolion gan nodi ffyrdd effeithiol o gyflwyno'r gwasanaeth.

Ystyriai y byddai mabwysiadu'r cynigion hyn yn cyflwyno cyllideb deg a chytbwys i'r Cyngor Sir, a ymatebodd i'r prif bryderon a adroddwyd yn ôl yn sgil yr ymgynghoriad. I gloi, diolchodd i'r cyhoedd am ymateb mor gadarnhaol i'r ymgynghoriad a chanmolodd waith diflino'r Prif Weithredwr, Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol a'r holl swyddogion oedd yn gysylltiedig â llunio'r gyllideb, gan gyfeirio at eu cymorth o ran cynnal perfformiad y Cyngor a darparu gwasanaethau am gost resymol i'r trethdalwr. Yna cynigiodd argymhellion y Bwrdd Gweithredol o ran Strategaeth Cyllideb 2018/19, y cynnydd o 4.45% yn y Dreth Gyngor a chymeradwyo'r cynllun ariannol tymor canolig fel sylfaen ar gyfer cynllunio ariannol yn y dyfodol.  Eiliwyd y cynnig.

 

Yn dilyn trafodaeth,

 

PENDERFYNWYD

6.1 ar Strategaeth y Gyllideb ar gyfer 2018/19 yn amodol ar y gwelliannau canlynol:-

·                Gwaredu'r gostyngiad arfaethedig o £50k yn y gyllideb ar gyfer y gwasanaethau Cynhwysiant;

·              Ailedrych ar y cynnig ar gyfer y Gwasanaethau Dydd Gofal a Chymorth a fyddai'n arwain at ostyngiad yn yr arbedion effeithlonrwydd arfaethedig o £50k ar gyfer 2018/19 a £25k pellach ar gyfer 2019/20;

·              Adolygu'r cynnig ar gyfer y Ganolfan Gofal Seibiant a bod yr adran yn rhoi rhagor o ystyriaeth i'r opsiynau o ran darparu gwasanaeth gan arwain at wrthdroi'r toriad o £200k yn y gyllideb ar gyfer 2018/19 a £200k ar gyfer 2019/20;

6.2      Bod Treth Gyngor Band D am 2018/19 i’w gosod ar £1,196.60 (cynnydd o 4.45% ar gyfer 2018-2019);

6.3  Bod Cronfa Datblygu Ysgolion o £0.5m yn cael ei sefydlu gan ddefnyddio'r cyllid "unwaith yn unig" oedd ar gael yn 2018-19 a'i bod yn cael ei rhoi ar waith mewn modd tebyg i'r Gronfa Ddatblygu Gyffredinol;

6.4  Bod y dyraniad o £148k o gyllid unwaith yn unig a nodwyd ym mharagraff 3.23 a'r £77k a nodwyd ym mharagraff 7.1 yr adroddiad yn cael eu defnyddio'n llawn i gefnogi'r newidiadau arfaethedig a'r cynigion a nodwyd uchod;

6.5  Bod y cynllun ariannol tymor canolig amodol yn cael ei gymeradwyo yn sylfaen i gynllunio ar gyfer y blynyddoedd sydd i ddod;

6.6        bod codiad cyflog o 2% yn cael ei dalu i'r holl staff nad ydynt yn athrawon o 1 Ebrill 2018. Mae hyn cyn dod i gytundebau cenedlaethol ynghylch cyflog.Bydd rhaid i unrhyw addasiadau yng ngoleuni'r cytundebau terfynol hynny gael eu gwneud wedi hynny.

 

Dogfennau ategol: