Agenda item

TREFNIADAU RHANBARTHOL AR GYFER CRONFEYDD AR Y CYD AC INTEGREIDDIO GWASANAETHAU

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad i'w ystyried ynghylch y gwaith a wneir o dan fantell Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 ar Drefniadau Llywodraethu Rhanbarthol, Integreiddio Gwasanaethau a Chronfeydd ar y Cyd.  Nodwyd ei bod yn ofynnol, o dan y Ddeddf, i'r holl awdurdodau lleol sefydlu a chynnal trefniadau ar gyfer cronfeydd ar y cyd mewn perthynas â'r canlynol:-

 

-        arfer eu swyddogaethau o ran cartrefi gofal i oedolion (erbyn 6 Ebrill 2018);

-        arfer eu swyddogaethau o ran cymorth i deuluoedd;

-        swyddogaethau penodedig a arferir ar y cyd mewn ymateb i Asesiadau o'r Boblogaeth, lle ystyrir bod trefniadau o'r fath yn briodol.

 

Yn unol â'r gofynion uchod, nodwyd bod Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, a sefydlwyd o dan Ran 9 o'r Ddeddf, wedi rhoi blaenoriaeth i drefnu cronfeydd ar y cyd ar gyfer cartrefi gofal pobl h?n erbyn y terfyn amser statudol, ac roedd y dull hwnnw'n gyson â llefydd eraill yng Nghymru.

 

Hefyd roedd yr adroddiad yn rhoi rhagor o wybodaeth am y gwaith a wneir ynghylch Cronfeydd ar y cyd ar gyfer lleoliadau i oedolion mewn cartrefi gofal, Cronfeydd ar y cyd ar gyfer Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ac adolygu'r posibilrwydd o gyflwyno Storfa Offer Cymunedol Integredig ar raddfa ranbarthol.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion wedi cymeradwyo eu hadroddiadau ar gyllid ar y cyd a gofynnwyd iddo erbyn hyn ystyried cymeradwyo argymhellion yr adroddiad, mewn egwyddor, i'r ymagwedd ranbarthol at gronfeydd ar y cyd ar gyfer cartrefi gofal, y cronfeydd ar y cyd ar gyfer Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ac adolygu Storfeydd Offer Cymunedol.

 

Yn unol â Rheol 11.1 o Weithdrefn y Cyngor, mynegodd y Cynghorydd D. Cundy bryder ynghylch y trefniadau arfaethedig ar gyfer cyllid ar y cyd, sefydlu rhith-gyllideb a'r angen am ddulliau craffu a rheoli cadarn. Am mai'r bwriad oedd y byddai'r cronfeydd ar y cyd ar waith o 2019-2020 ymlaen, mynegodd y farn nad oedd dyddiad gweithredu pendant, yn ôl pob golwg, ac y byddai'n rhaid i'r Cyngor barhau i ddarparu ei wasanaethau gofal o ddydd i ddydd drwy gyllid o'r cyllidebau a glustnodwyd. Gofynnodd, felly, “A ellir rhoi sicrwydd bod y trefniadau presennol o ran y cyllid a ddyrennir i'r ddarpariaeth Cartrefi Gofal yn Sir Gaerfyrddin, ac yn enwedig yn Llanelli, sy'n filiynau lawer o bunnau, wedi'u neilltuo'n benodol ac nad ydynt yn rhan o'r cronfeydd ar y cyd yn rhanbarthol?”.

 

Dywedodd yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai'r gronfa ar y cyd yn ystod 2018/19 yn gweithredu fel trefniant unigol, yr adroddir yn ei gylch, ar gyfer lleoliadau oedolion h?n a gomisiynir yn allanol.  Yr uchelgais ar gyfer 2019-20 a thu hwnt oedd y byddai'r ddarpariaeth ‘fewnol’ yn cael ei thynnu i mewn i gylch gwaith y cronfeydd ar y cyd. Byddai hynny'n gofyn am sefydlu costau refeniw priodol ar gyfer lleoliadau mewnol unigol. Ar hyn o bryd nid oedd cynlluniau i ystyried cyfalaf yn y gronfa ar y cyd. Ar y sail honno, byddai'r penderfyniadau buddsoddi mewn perthynas â darparu llety yn fewnol yn parhau gyda'r awdurdod lleol. Roedd y Cyngor yn llwyr ymrwymedig i fuddsoddi rhagor o gyfalaf yn ei ddarpariaeth bresennol o ran cartrefi gofal, gan sicrhau ei bod yn cyd-fynd yn llwyr ag unrhyw ddarpariaeth newydd, yn enwedig yn ardal Llanelli.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Cydweithredu Rhanbarthol at y cynnig i sefydlu rhith-gronfa ar y cyd, a chadarnhaodd na fyddai honno'n cynnwys trosglwyddo arian i leihau'r risg o groes-gyllido a chostau gweinyddol, ac ati. Er bod disgwyliad clir gan Weinidogion y byddai'r cronfeydd ar y cyd ar waith erbyn 2019, rhoddwyd gwybod i Lywodraeth Cymru am y pryderon a fynegwyd yn eu cylch ac roedd trafodaethau'n mynd rhagddynt i'w datrys. Cadarnhawyd hefyd y byddai adroddiadau pellach ar y trefniadau ar gyfer cronfeydd ar y cyd yn cael eu hadrodd i'r Cyngor drwy'r broses ddemocrataidd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo mewn egwyddor yr ymagwedd ranbarthol at:

·        Gronfeydd ar y cyd ar gyfer lleoliadau mewn cartrefi gofal i oedolion

·        Cronfeydd ar y cyd ar gyfer Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd;

·        Adolygu Storfeydd Offer Cymunedol Integredig

 

Dogfennau ategol: