Cofnodion:
Cyflwynodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ei adroddiad ar y praesept/cyllideb arfaethedig ar gyfer 2018/19. Dywedodd ei fod wedi ymgynghori â'r cyhoedd ac wedi trafod yn fanwl gynlluniau'r Prif Gwnstabl ar gyfer lefelau staffio, gwasanaethau'r heddlu ac anghenion buddsoddi yn y dyfodol wrth gytuno ar gyllideb yr Heddlu ar gyfer 2018/19.
Dywedodd y Comisiynydd fod elfennau craidd y gyllideb wedi arwain at ei argymhelliad ynghylch cynyddu praesept 2017/18 gan 2.57% yn gyffredinol. Petai hyn yn cael ei dderbyn gan y Panel, byddai’n arwain at braesept yr heddlu o £49.788 miliwn a fyddai, yn sgil ei gyfuno â chyllid canolog a lleol, yn rhoi cyfanswm cyllideb o £99.100 miliwn. Byddai eiddo treth gyngor Band D ar gyfartaledd yn talu £224.56, sef 5% yn uwch na lefel 2017/18. Dywedodd y Comisiynydd fod y cynllun ariannol tymor canolig yn cynnwys gostyngiad o 4% yn y grant canolig o 2021/22 ymlaen i adlewyrchu newid posibl i'r fformiwla ac effaith hynny ar Ddyfed-Powys.
Ymhlith y cwestiynau/materion a godwyd wrth ystyried yr adroddiad oedd y canlynol:-
· Croesawodd yr Aelodau'r cynigion twf a gymeradwywyd a oedd yn cynnwys cyllid ar gyfer ymchwilio i seiberdroseddu, prosesu ceisiadau am arfau tanio a chyflogi prentisiaid modern;
· Cydnabu'r Comisiynydd y byddai'r rheoliadau Ewropeaidd ynghylch data personol sydd ar fin dod i rym yn arwain at ragor o faich ariannol o ran rheoli data a sicrhau bod y broses o gadw a dileu data yn gadarn;
· Gan ymateb i ymholiad ynghylch a fyddai modd talu am gostau ymchwiliadau mawr, annisgwyl – megis y tân angheuol yn Llangamarch – drwy gyllid allanol yn hytrach nag o gronfeydd wrth gefn, dywedodd y Comisiynydd fod cymorth ar gael gan y Swyddfa Gartref ar gyfer ymchwiliadau a oedd yn costio mwy nag £1 miliwn ond nad oedd hyn yn debygol o fod yn berthnasol yn yr achos hwn. Felly, byddai angen rhannu'r gost gyda'r Awdurdod Tân;
· Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch y prosiect arfaethedig 'brysbennu yn y ddalfa' yn Hwlffordd y disgwylid iddo ddechrau ym mis Mai 2018.
· Gan ymateb i gwestiwn, dywedodd y Comisiynydd fod Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi o'r farn fod y gymhareb o ran staff / heddweision yn ardal Heddlu Dyfed-Powys yn dda;
· Rhoddodd y Comisiynydd wybod ei fod yn Gadeirydd ar y Bwrdd Asedau ar y Cyd a oedd yn ystyried materion megis rheoli'r fflyd gerbydau a defnyddio ceir trydan;
Bu i'r Aelodau groesawu'r eglurder a roddodd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu i'r materion a godwyd a gwnaethant ddiolch iddo am y gwahoddiad i'r seminar a drefnwyd ganddo ar 6 Rhagfyr 2017 mewn perthynas â'r gyllideb.
PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gymeradwyo cynnig y Comisiynydd i gynyddu praesept Heddlu Dyfed-Powys gan 5% ar gyfer 2018/19.
Dogfennau ategol: