Agenda item

TREFNIADAU DIOGELU RHAG COLLI RHYDDID.

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ynghylch gweithredu'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid a gyflwynwyd yn Lloegr ac yng Nghymru yn Ebrill 2009 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig o dan ddarpariaethau Deddf Gallu Meddyliol 2005. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyfraith achosion diweddar yn y Goruchaf Lys ym Mawrth 2014 a'r camau oedd yn cael eu cymryd gan yr Adran Cymunedau i liniaru'r risgiau oedd yn gysylltiedig â hynny, gan gynnwys trefniadau staffio, hyfforddi Gweithwyr Cymdeithasol a Doctoriaid Adran 12 yn Aseswyr Budd Pennaf a chynyddu nifer y staff sy'n gallu awdurdodi'r Asesiadau yn unol â'r amserlen angenrheidiol.

 

Nodwyd bod adolygiad Comisiwn y Gyfraith o'r system Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid wedi ei disgrifio yn "anghynaliadwy ac nad oedd yn addas i'r diben”. Er bod yr adolygiad, ynghyd â'i argymhellion, wedi cael eu hanfon at y Llywodraeth Genedlaethol, nid oedd disgwyl iddo gael ei weithredu am gryn amser. O ganlyniad, byddai'r system bresennol, ynghyd â'i heriau a'i risgiau, yn parhau hyd nes y byddai unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth yn cael eu cyflwyno.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·         Cyfeiriwyd at gyhoeddiad beirniadol diweddar Comisiynydd Pobl H?n Cymru o'r enw "Lle i'w Alw'n Gartref: Effaith a Dadansoddiad" ynghylch ansawdd y gofal mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Mynegwyd barn ynghylch pa mor bwysig ydyw bod y Cyngor yn darparu digon o staff ac adnoddau i gyflawni ei rwymedigaethau i ymgymryd â phroses asesu'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid mor effeithiol ac mor gyflym â phosibl i sicrhau bod pobl agored i newid sy'n derbyn gofal yn cael eu diogelu.

 

Wrth ymateb, amlinellwyd proses asesu'r Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid gan yr Uwch-reolwr Diogelu. Roedd yn ofynnol bod 6 o Asesiadau'n cael eu gwneud ym mhob cais cyn eu cymeradwyo, sef 3 gan Weithwyr Cymdeithasol a 3 gan Ddoctoriaid Adran 12 cymeradwy. Gofynnwyd hefyd i bob person oedd yn rhan o'r asesiad, neu eu cynrychiolydd/eiriolwr, lenwi ffurflen adborth ynghylch eu teimladau am y modd roedd y cartref gofal yn gweithredu.

 

Er mwyn i'r Awdurdod gyflawni ei ofynion o ran gwneud yr asesiadau o fewn yr amserlen briodol, cafodd 22 o weithwyr cymdeithasol hyfforddiant gan Aseswyr Budd Pennaf a hyfforddwyd saith aelod o staff yn llofnodwyr awdurdodedig, yn ogystal â'r Pennaeth Gwasanaeth a'r Uwch-reolwr Diogelu. Er mwyn cynnal y broses asesu/awdurdodi, roedd yr is-adran wedi sefydlu uned cynnal busnes oedd yn cynnwys dau aelod o staff amser llawn ac un rhan-amser. Roedd yr Arferion Gorau hefyd yn cael eu harchwilio ledled Lloegr a Chymru ynghylch beth sy'n gwneud tîm da ar gyfer Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid, gyda golwg ar ddatblygu'r model gorau ar gyfer Sir Gaerfyrddin a sicrhau bod adnoddau digonol yn eu lle i gefnogi pob cam o'r broses.

 

O ganlyniad i fuddsoddi mewn hyfforddiant, yn Sir Gaerfyrddin roedd dros 95% o'r ceisiadau Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid oedd wedi dod i law ers canol mis Medi 2017, wedi cael eu pennu a'u hasesu o fewn y terfyn amser 7 neu 21 diwrnod. Nid oedd y 5% oedd yn weddill wedi cyrraedd y terfyn amser oherwydd amgylchiadau oedd y tu hwnt i reolaeth yr Adran e.e. aelodau o'r teulu heb fod ar gael ar gyfer ymgynghori. 

 

Roedd yr Adran hefyd wedi gwneud cynnydd o ran prosesu'r ôl-groniad o asesiadau a oedd, ers Hydref 2017, yn cael ei drin fel darn o waith ar wahân. Roedd hynny wedi gostwng o 670 i 550, ac roedd cynlluniau ar waith i leihau'r ffigur hwnnw ymhellach.

 

·         O ran hyfforddi Aseswyr Budd Pennaf, cyflawnwyd hynny yng Nghymru mewn cwrs tridiau o hyd ac yna dau ddiwrnod yn cysgodi aseswyr hyfforddedig. Er bod y sefyllfa yn Lloegr ychydig yn wahanol o ran bod yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu drwy gwrs achrededig cymwysedig mewn Prifysgol, roedd ystyried newid y sefyllfa yng Nghymru, a oedd yn cael ei ystyried yn briodol, i adlewyrchu Lloegr, wedi cael ei ohirio hyd nes y ceid canlyniadau Adroddiad Comisiwn y Gyfraith y soniwyd amdano eisoes.

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhaodd yr Uwch-reolwr Diogelu fod cost cynnal asesiadau yn gost statudol i'r awdurdodau lleol. Byddai'r costau hynny'n cynyddu pe bai her yn cael ei chyflwyno i asesiad Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid drwy'r system gyfreithiol, gyda'r gost lawn yn cael ei thalu gan yr awdurdod lleol. Roedd y posibilrwydd o heriau cyfreithiol yn digwydd a'r costau cysylltiedig wedi cael eu nodi gan Gofrestr Risg Gorfforaethol y Cyngor.

·         Cyfeiriwyd at y ffaith ei bod yn ofynnol ar hyn o bryd i berson sy'n cael asesiad Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid gael adolygiad blynyddol. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch yr anghenraid hwnnw os nad oedd amgylchiadau person wedi newid dros y flwyddyn flaenorol.

 

Dywedodd yr Uwch-reolwr Diogelu mai'r gobaith oedd y byddai unrhyw brosesau newydd sy'n codi o Adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn fwy graddedig a chymesur i amgylchiadau person a phe bai'r rheiny ddim yn newid yna efallai na fydd cael asesiad llawn bob blwyddyn yn ofynnol.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: