Cofnodion:
Bu'r Pwyllgor yn ystyried Adroddiad Perfformiad a Chyflawniad Ysgolion ar gyfer 2016/17 a ddarparodd drosolwg ar y meysydd allweddol isod ynghylch darpariaeth ysgolion a chyflawniad disgyblion:-
- Data perfformiad meintiol a data presenoldeb ysgolion;
- Barn ansoddol allanol (Estyn);
- Cyflawniadau o ran gwerthoedd a sgiliau yn ysgolion Sir Gaerfyrddin.
Codwyd y cwestiynau/sylwadau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-
· Cyfeiriwyd at y ffaith bod y data'n anodd iawn ei ddadansoddi ac esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod data pellach ar gael a allai fod o gymorth wrth ddeall y ffigurau;
· Cyfeiriwyd at y datganiad yn yr adroddiad sy'n nodi bod y data'n dangos cynnydd sylweddol mewn absenoldeb oherwydd salwch disgyblion, a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd y data hwn yn awgrymu bod yna fwy o salwch yng Nghymru nag unrhyw wlad arall. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod angen bod yn ofalus wrth ddarllen y data ynghylch absenoldeb salwch. Gallai cynnydd bach yn y ganran gael effaith sylweddol ar y darlun cenedlaethol. Gall hefyd fod yn anodd sicrhau presenoldeb da i bob plentyn, ond rydym yn ennill tir o ran ein prosesau mewn partneriaeth â'r Gwasanaeth Llesiant Addysg heb orfod erlyn bob tro. Mae Penaethiaid Ysgol yn fodlon ar y dull a ddefnyddir gan y sir a phwysleisiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant ei bod yn hanfodol bod pob pennaeth yn gyson yn y modd y mae'n ymdrin â cheisiadau am wyliau yn ystod y tymor. Dywedodd wrth y Pwyllgor ei fod yn falch bod cynnydd yn cael ei wneud;
· Tynnwyd sylw at y ffaith y caiff cofrestrau ysgol eu cau am 9.00am ac y bydd unrhyw ddisgybl sy'n cyrraedd ar ôl hyn yn cael ei gofnodi'n absennol. Mynegwyd pryder bod hyn yn anodd mewn ardaloedd gwledig a bod angen rhagor o gysondeb;
· Cyfeiriwyd at darged lefel 2 cynhwysol Cyfnod Allweddol 4 ar gyfer 2017/18 sef 65.2%, a gofynnwyd i'r swyddogion a oedd hyn yn gyraeddadwy gan ystyried ein sefyllfa bresennol. Cytunodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg fod y targed o 65.2% yn heriol a chytunodd y dylai gael ei adolygu ac y byddai hynny'n digwydd, yn seiliedig ar drefniadau arholi cenedlaethol diwygiedig;
· Gofynnwyd i'r swyddogion sut y gellir mynd i'r afael â'r diffyg cynnydd yn y Cyfnod Sylfaen ac a yw hyn yn gysylltiedig â'r problemau o ran llenwi swyddi mewn ysgolion cynradd. Esboniodd Pennaeth y Gwasanaethau Addysg nad oedd ateb pendant. Mae recriwtio i'r proffesiwn yn parhau i fod yn her yn genedlaethol. Ychwanegodd ei bod yn bwysig ystyried a yw asesiadau athrawon yn cael eu cynnal mewn modd cyson ledled Cymru, yn ogystal â sut y gwneir hyn. Mae llawer o waith wedi'i wneud i gryfhau hyn. Rydym bellach yn wynebu cyfnod o sicrhau ein bod yn rhoi mwy o bwyslais ar fesur 'cynnydd disgyblion' dros amser. Mae'r Swyddog Cyfnod Sylfaen yn gweithio'n uniongyrchol gydag ysgolion er mwyn cefnogi anghenion lleol a sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y meysydd iawn. Mae Sir Gaerfyrddin hefyd yn annog cydweithio 'ysgol i ysgol' er mwyn cefnogi hyn a meysydd gweithgarwch eraill.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: