Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Cofnodion:

·         Diolchodd y Cadeirydd i'r Cynghorwyr am fod yn bresennol yn ystod rhan olaf y cyfarfod diwethaf pan roddwyd rhyddid y Sir i D.T.Davies Dryslwyn;

 

·         Cydymdeimlodd y Cadeirydd â'r canlynol

 

ØY Cynghorydd Andrew James a Sian ei wraig a'r teulu ar farwolaeth mam Sian;

ØY Cynghorwyr Fozia Akhtar a Shahana Najmi ar farwolaeth eu tad;

ØY Cynghorydd Alun Lenny a'i wraig Ann a'r teulu ar farwolaeth mam Ann;

ØY Cynghorydd Jim Jones a'i frawd Graham, ar farwolaeth eu chwaer;

 

·         Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r canlynol:

 

Ø  Y Cynghorydd Karen Davies ar gael ei hethol yn Gynghorydd i gynrychioli Ward Saron;

Ø  perfformiodd Cerddorfa Jazz Ieuenctid y Sir a Chôr Merched Sir Gâr yn rowndiau terfynol cenedlaethol Cystadleuaeth G?yl Genedlaethol Music for Youth ym mis Gorffennaf  yn Birmingham;

Ø  Y Bant Chwyth Sirol a fu'n perfformio yn y rownd derfynol genedlaethol;

Ø  Y Cynghorydd John James a gafodd ei benodi yn Gadeirydd Cynorthwyol PATROL (Rheoliadau Traffig a Pharcio y tu allan i Lundain) (Cymru) ym mis Gorffennaf;

Ø  Hefin a Gwennan Evans, Pwllagddu, Llanwrda, sydd yn ddiweddar wedi dod yn Bencampwyr Byd ym Mhencampwriaeth Codi Pwysau'r Byd a gynhaliwyd ym mis Awst ym Manceinion;

Ø  Yr enillwyr canlynol yng Ngwobrau Arwyr Lleol Radio Sir Gaerfyrddin:  

Gwobr Cymydog Da – Linda Owen;

Athro/Athrawes y Flwyddyn – Karen Armstrong;

Hyrwyddwr Cymunedol – Louise Robinson;

Plentyn Dewr – Cameron Fulham;

Gofalwr y Flwyddyn – Yvonne Jones;

Mam y Flwyddyn – Pat Thomas;

Tad y Flwyddyn – Steve Walker;

Busnes Cymunedol y Flwyddyn - Caffi Cymunedol iSmooth

Dewrder Eithriadol – Lacey Maria Rees;

Codwr Arian y Flwyddyn – Ray Slade;

Seren Chwaraeon y Flwyddyn – Ollie Griffith-Salter;

Cyflawniad Eithriadol – D.T. Davies;

 

Ø  Geraint Thomas ar ennill y Tour de France;

Ø  Tîm Pêl-droed Ysgolion Caerfyrddin dan 12 ar ei lwyddiant yng Nghynghrair Pencampwyr Iau'r Gogledd Orllewin 2018;

 

·                Cyhoeddodd y Cadeirydd fod y Cynghorydd John James, Porth Tywyn, yn codi ariana ar gyfer Nyrsys Macmillan sy'n rhoi cefnogaeth mawr ei angen ar gleifion canser a'u teuluoedd. Byddai'r Cynghorydd James yn cymryd rhan yn yr ymgyrch 'Brave the Shave' drwy eillio ei farf yng Nghlwb Rygbi Porth Tywyn am 9pm, ddydd Sadwrn, 29 Medi;

 

·                Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am y gweithgareddau a'r digwyddiadau yr oedd wedi mynd iddynt wrth gynrychioli'r Cyngor. Roedd y rhain yn cynnwys:

 

Ø  Sioeau Amaethyddol – Llangadog, Llanarthne, Llandyfaelog – mynegodd y Cadeirydd hefyd ei longyfarchiadau i'r Cynghorydd Gareth Thomas ar ei lwyddiant yn Sioe Frenhinol Cymru;

Ø  Amgueddfa Ddiwydiannol Cydweli;

Ø  Beicio – Cylchffordd Gaeedig Pen-bre

Ø  Taith Prydain – diolchodd y Cadeirydd i bawb a fu'n ymwneud â'r fenter wych hon;  

·                Tynnwyd sylw'r Cyngor ar lwyddiant yr Apêl Teganau Nadolig yn y blynyddoedd blaenorol, a fu'n rhoi help i bobl a oedd yn wynebu amserau ariannol anodd yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.  Yn debyg i'r hyn a wnaed yn y blynyddoedd blaenorol, gofynnwyd i Aelodau'r Cyngor roi cyfraniad at yr Apêl.  Gofynnwyd i Aelodau'r Cyngor roi cyfraniad yn unrhyw un o'r mannau casglu a geir ledled y Sir gan gynnwys Neuadd y Sir, T? Elwyn, Llanelli a Neuadd y Dref, Rhydaman.