Agenda item

SEFYDLU CWMNI MASNACHU AWDURDOD LLEOL AR GYFER LLINELL GOFAL A ELWIR YN LLESIANT DELTA WELLBEING'

Cofnodion:

 

Rhoddodd y Bwrdd Gweithredol ystyriaeth i adroddiad a oedd yn amlinellu'r rhesymau dros sefydlu Cwmni Masnachu sy'n eiddo llwyr i'r Awdurdod Lleol ar gyfer Llinell Gofal, a elwir yn ‘Llesiant Delta Wellbeing Cyf’, a pha mor ymarferol fyddai hynny. Byddai'r cwmni’n gallu cyrraedd marchnadoedd a ffrydiau incwm ehangach o lawer na gwasanaeth presennol Llinell Gofal. Byddai'r argymhelliad yn yr adroddiad yn amodol ar gael ei gymeradwyo gan y Cyngor.

 

Wrth ymateb i gwestiwn, cytunwyd y dylai'r adroddiad gael ei ddiwygio cyn ei gyflwyno i'r Cyngor er mwyn rhoi mwy o eglurder ynghylch sicrhau bod y cwmni arfaethedig yn cydymffurfio â gofynion Teckal.

 

Yn unol â Rheol Gweithdrefn Gorfforaethol 11.1, gofynnodd y Cynghorydd D.M. Cundy a ellid manteisio ar y cyfle, wrth greu'r cwmni newydd hwn, i newid y ffordd yr ymdrinnir â Gofal Oedolion drwy roi strwythur gyrfaol i Weithwyr yn y Sector Gofal Cymdeithasol sy'n seiliedig ar gyfuniad o brofiad, addysg a hyfforddiant parhaus, arholiadau ac arbenigedd a geir drwy “brofiadau yn y swydd” er mwyn i bobl ifanc, a phobl fwy aeddfed, gael gyrfa ddilys, flaengar a gwerth chweil gyda chyflog da yn y Sector Gofal Oedolion, pa un a yw hynny yng nghartrefi gofal yr Awdurdod, ym maes gofal cartref neu'n yrfa sy’n gysylltiedig â darpariaeth y GIG lle mae cyfleoedd pellach?

 

Ymatebodd y Cynghorydd J. Tremlett, yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Ofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel a ganlyn:

 

Diolch i chi'r Cynghorydd Cundy, am eich cwestiwn. Yr ateb byr yw 'gellid', wrth gwrs.  Mae cymwysterau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cael eu diwygio yng Nghymru yn dilyn adolygiad. Bydd hyd at 20 o gymwysterau newydd yn cymryd lle'r rhai presennol. Bydd y cymwysterau newydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2019 ymlaen, a bydd y tystysgrifau cyntaf yn cael eu cyflwyno yn 2020. Y corff dyfarnu yw consortiwm sy’n cynnwys City & Guilds a Chyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) a fydd yn cydweithio â Chymwysterau Cymru, Gofal Cymdeithasol Cymru, GIG Cymru, athrawon, hyfforddwyr ac aseswyr i gynllunio a darparu'r cymwysterau newydd hyn. Mae'r sector yn cynnwys nifer o wahanol yrfaoedd i ofalwyr, nid dim ond mewn cartrefi preswyl i oedolion, ond mewn ysbytai, ac ym meysydd gofal plant, gofal cartref, afiechyd meddwl ac anableddau corfforol. Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu haddysgu i ddysgwyr 14 oed a h?n ledled Cymru o Lefel 1 i 5.  Byddant yn rhan o fframweithiau prentisiaethau hefyd. Mae datblygu a chefnogi ein gweithlu gofal cymdeithasol yn hanfodol ac mae cryn dipyn o weithgarwch yn yr adran yn canolbwyntio ar hyn i'n galluogi i ymateb i her genedlaethol, sef bod llai o bobl na'r hyn sydd ei angen arnom yn mynd i'r maes gwaith hwn a bod mwy a mwy ohonynt yn dewis gadael wrth i gyflogau mewn swyddi sy'n cystadlu â’r swyddi hyn, ac sy'n gofyn llai o bosibl, megis manwerthu, gynyddu i'r un lefel.  Ar hyn o bryd, rydym yn gwneud yn well na'r rhan fwyaf o awdurdodau o ran recriwtio a chadw'r gweithlu hollbwysig hwn ond mae llawer i'w wneud o hyd. Yn gyntaf, rydym yn bwriadu datblygu strwythur gyrfaol gwell a mwy amlwg, sy'n golygu ei bod yn yrfa a ddewisir sy'n cynnig cyfleoedd i ddatblygu a chamau dilyniant clir.  Mae llawer o hyn yn digwydd eisoes ond mae angen rhoi cyhoeddusrwydd iddo a'i werthu i bobl sydd â diddordeb.  Dros  y flwyddyn nesaf, rydym yn bwriadu cyflwyno ymgyrch cyhoeddusrwydd i hyrwyddo hyn ym mhob sector a chwalu unrhyw fythau sy'n bodoli.  Mae llawer o waith wedi'i wneud i wella'r telerau a'r amodau ar draws y sector a dyma'r amser i roi cyhoeddusrwydd i hynny. Mae angen creu cysylltiadau â cholegau lleol a gwella’r cyngor ynghylch gyrfaoedd fel bod pobl ifanc alluog yn ystyried hyn yn ddewis ymarferol yn lle cyrsiau gradd gan fod llwybrau dilyniant proffesiynol i nyrsio a gwaith cymdeithasol. Rwy'n bwriadu dod â hyn ynghyd mewn strategaeth gyffredinol erbyn yr haf fel bod y ffactorau sy'n cefnogi'r gweithlu hwn – cyflog, cymorth, hyfforddiant a chyfleoedd gyrfa yn glir ac yn gydgysylltiedig.’

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

8.1  sefydlu Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol ar gyfer Llinell Gofal a elwir yn Llesiant Delta Wellbeing er mwyn creu incwm ychwanegol i'r Awdurdod a diogelu'r gwasanaeth presennol;

8.2  rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymunedol a Chyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol sefydlu'r Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol, ei strwythurau llywodraethu a datblygu cynllun busnes manwl;

8.3  bod y Cwmni yn cael ei ymgorffori’n gwmni cyfyngedig ac mai’r Cyngor fyddai’r unig gyfranddaliwr;

8.4  bod Bwrdd y Cwmni yn paratoi ac yn cytuno ar Gynllun Busnes y Cwmni ac yna'n ei gyflwyno i'w gymeradwyo'n ffurfiol i Fwrdd Gweithredol yr Awdurdod cyn ei roi ar waith; 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ARGYMELL I'R CYNGOR

 

8.5  bod costau sefydlu'r Cwmni yn cael eu hadennill  (yn dilyn cytundeb y Bwrdd Gweithredol i lunio cwmni) drwy drefnu benthyciadau ar gyfradd llog masnachol i'w gymeradwyo gan y Cyngor Llawn dros gyfnod y cytunir arno yn y cynllun busnes manwl. Os na sefydlir y Cwmni, telir y costau gweithredu allan o arian wrth gefn;

8.6  cael cytundeb y Cyngor Llawn i warantu rhwymedigaethau pensiwn y staff a gyflogir gan y Cwmni. 

 

Dogfennau ategol: