Agenda item

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM YR ARDALOEDD RHEOLI ANSAWDD AER PRESENNOL YN SIR GAERFYRDDIN

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ardal Rheoli Ansawdd Aer presennol yn Sir Gaerfyrddin.  Atgoffwyd yr Aelodau fod Deddf yr Amgylchedd 1995 yn datgan bod dyletswydd ar awdurdodau lleol i asesu a rheoli'r ansawdd aer yn eu hardal.

 

Roedd yr adroddiad yn darparu'r wybodaeth fanwl ddiweddaraf i'r Pwyllgor am lefelau NO2 yn benodol yn nhref Llandeilo ac ardaloedd Caerfyrddin a Llanelli a oedd wedi gweld cynnydd yn lefelau NO2 dros y blynyddoedd diwethaf. 

 

Codwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad:

 

  • Cyfeiriwyd at 2.3 yr adroddiad.  Gofynnwyd am gadarnhad ynghylch darparu ffordd osgoi i Landeilo.  Cadarnhaodd y Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod Llywodraeth Cymru yn cynnal gweithdy ar 16 Ionawr 2018 er mwyn dod o hyd i ffordd ymlaen.  Ychwanegodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod wedi Swyddogion Priffyrdd wedi lobïo'n galed i sicrhau bod y broses yn mynd rhagddi'n gyflym.

 

  • Er mwyn darparu gwybodaeth am ansawdd presennol yr aer mewn modd rhyngweithiol, awgrymwyd y gellid defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol a chyfleusterau testun i gyhoeddi canlyniadau NO2.  Roedd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd yn cydnabod er bod hwn yn awgrym da, oherwydd y dull o gasglu data, bob mis yn unig byddai'r data'n cael eu casglu ac felly ni fyddai ar gael ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth 'fyw' a 'chyfredol'.  Cafwyd awgrym ychwanegol sef y gellid sicrhau mwy o ganlyniadau arloesol drwy weithio gyda'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus.  Dywedodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd fod y tîm wedi gweithio o'r blaen gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru ac y gallai fod cwmpas i weithio gyda Phrifysgol Abertawe gan fod gan y brifysgol offer arbenigol angenrheidiol a'i bod ar hyn o bryd yn gweithio gydag unigolion â phroblemau anadlu.

 

  • Mynegwyd pryderon cryf ynghylch y tagfeydd sylweddol a achosir gan y system goleuadau traffig newydd ar Heol Sandy, Llanelli.  Eglurodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd fod y goleuadau traffig newydd wedi cael eu cynllunio i ganfod y llifau traffig ar bob cyffordd gan optimeiddio amseriadau'r goleuadau er mwyn lleihau'r tagfeydd.  Dywedodd Cyfarwyddwr yr Amgylchedd y byddai'n gofyn i'r Pennaeth Priffyrdd a Chludiant i drafod y mater ymhellach gyda'r aelod lleol.

 

  • O ran y problemau traffig parhaus ar Heol Sandy, Llanelli mynegwyd pryder y gallai lefelau NO2 yn yr ardal honno godi o ganlyniad i'r tagfeydd.  Cadarnhaodd Rheolwr Diogelu'r Amgylchedd nad oedd hyn wedi'i gynnwys ar y cynllun gweithredu a bod monitro rheolaidd yn parhau.

 

  • Cyfeiriwyd at adran 3.3 o'r adroddiad a nododd fel rhan o'r broses o gynllunio camau gweithredu, roedd gwaith yn cael ei gyflawni gydag ysgol gynradd yn ardal Caerfyrddin i fonitro ac asesu'r Ansawdd Aer ar dir yr ysgol. Gofynnwyd ynghylch ymestyn y gwaith monitro gydag ysgolion i ardal Llanelli. Dywedodd Rheolwr yr Amgylchedd a Diogelu fod trefniadau'n cael eu gwneud ar hyn o bryd i drafod cynigion ar gyfer monitro'r Ansawdd Aer ar dir yr ysgol mewn ysgol gynradd yn Llanelli a fyddai'n cyd-fynd â'r prosiect sy'n cael ei wneud ar hyn o bryd yn Ysgolion Caerfyrddin. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: