Agenda item

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Cofnodion:

·                   Mynegodd y Cadeirydd ddymuniadau da i'r Cynghorwyr John Prosser a John James a dymunodd wellhad buan iddynt yn dilyn llawdriniaethau yn ddiweddar;

·                   Cydymdeimlodd y Cadeirydd â theulu Paul James, swyddog yn Adain Bensiynau'r Cyngor, a fu farw yn ddiweddar;

·                     Mynegodd y Cadeirydd ei longyfarchiadau i'r canlynol:

-        Cai Thomas Phillips [Gorllewin Caerfyrddin a De Penfro], Marged Lois Campbell [Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr] a Megan Carys Davies [Llanelli] a oedd wedi cael eu hethol i Senedd Ieuenctid Cymru.

-        Mark Drakeford, sy'n dod o Gaerfyrddin, ar gael ei ethol yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru;

-        Clwb Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar gyrraedd y trydydd safle yng Nghystadleuaeth Celf Tir Genedlaethol Taith Prydain OVO Energy a gynhaliwyd yn gynharach eleni;

-      Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ar ennill Achrediad Platinwm Buddsoddwyr mewn Pobl.

·                   Cyfeiriodd y Cadeirydd at gr?p o ddiffoddwyr tân o'r Trallwng, Powys, ac ar draws canolbarth a gorllewin Cymru, a oedd wedi ceisio cyrraedd brig Siart y Senglau gyda'u record "Do they know it's Christmas". Roedd y gân yn y 7fed safle ar hyn o bryd. Dymunodd y Cadeirydd bob llwyddiant i'r gr?p wrth godi arian ar gyfer Elusen y Diffoddwyr Tân ac Ymddiriedolaeth Elusennol Band Aid;

·                   Estynnwyd llongyfarchiadau i Tennessee Randall ar ddod yn Bencampwr Ewrop y World Association of Kickboxing Organisations yng nghategori 56kg i fenywod. Hi oedd yr ymladdwraig cyswllt llawn gyntaf i gynrychioli tîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Cic-focsio Ewrop ac roedd hi hefyd wedi ennill gwobr yr Ymladdwr Gorau mewn Cylch yn y Bencampwriaeth;

·                   Dywedodd y Cadeirydd iddo fod yn bresennol mewn nifer o ddigwyddiadau ers y cyfarfod diwethaf, gan gynnwys cyngherddau, carnifalau, digwyddiadau Nadolig a digwyddiadau agoriadol. Ychwanegodd fod ymweld â chartrefi preswyl y Cyngor wedi bod yn bleser mawr, lle cafodd groeso cynnes iawn ac roedd yn gallu gweld safon uchel iawn y gofal a ddarperir ac ymrwymiad yr holl staff. Cyfeiriodd hefyd at y cymorth yr oedd wedi ei gael gan unigolion a sefydliadau wrth godi arian ar gyfer Alzheimers Cymru ac Ambiwlans Cymru. Dywedodd y byddai hefyd yn cymryd rhan yn Nhrochfa'r Tymor ar ?yl San Steffan a chroesawodd yr Aelodau i'w noddi;

·                       Ar ran y Cynghorydd Mair Stephens, atgoffwyd yr Aelodau gan y Cadeirydd i gefnogi'r Apêl Teganau Flynyddol, drwy roi arian o bosibl, ond roedd angen penodol am deganau ar gyfer bechgyn;

·                       Ar wahoddiad y Cadeirydd, dywedodd y Cynghorydd Emlyn Dole fod ei 'Ddiwrnod Golff yr Arweinydd' ar 6 Hydref 2018 wedi codi £2826.50 ar gyfer Uned Gofal Canser y Fron yn Ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli. Diolchodd i aelodau ei dîm, i Glwb Golff Ashburnham ym Mhen-bre ac i Nigel Owens am gefnogi'r digwyddiad;

·                       Ar ôl clywed diweddariad y Prif Weithredwr ynghylch datblygiadau diweddar o ran Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd Llanelli yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol ar 3 Rhagfyr 2018, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi gofyn i'r Prif Weithredwr roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cyngor hefyd. Dyma ymateb y Prif Weithredwr:

"Diolch i chi Gadeirydd. Fel y dywedoch chi, roeddech yn bresennol yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol a rhoddais ddatganiad sefyllfa, neu ddiweddariad, ar lafar i Aelodau'r Bwrdd Gweithredol. Roedd Aelodau eraill; credaf fod y Cynghorydd Cundy yn bresennol wrth i mi roi'r diweddariad hwn. Yn syth ar ôl y cyfarfod, daethoch mewn a gofynnoch a fyddwn yn rhoi diweddariad tebyg i'r Cyngor, felly fe wnaf hynny'n awr ar eich cais chi.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin, Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd dros y tair blynedd diwethaf i ddatblygu Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd yn Llanelli. Rhoddwyd y cysyniad yn wreiddiol i'r Cyngor gan Brifysgol Abertawe drwy gonsortiwm ARCH, sef partneriaeth o dan Gadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, sy'n ystyried gwahanol ffyrdd o ddarparu iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol. Wedyn sefydlwyd bwrdd sector cyhoeddus gyda'r holl sefydliadau uchod er mwyn datblygu'r prosiect. Yn ogystal, cafodd y prosiect ei gynnwys fel un o 11 prosiect y Fargen Ddinesig yn dilyn hynny.

Ychwanegodd Prifysgol Abertawe gwmni'r sector preifat at y bartneriaeth fel partner datblygu posibl. Fodd bynnag, ar ôl cael ei gynnwys yn rhaglen y Fargen Ddinesig, penderfynodd y Cyngor Sir, ar ôl cael cyngor cyfreithiol, gynnal ymarfer caffael llawn a oedd yn cydymffurfio â gofynion yr UE, a gymerodd tua 15 mis i'w gwblhau.

Yn sgil yr ymarfer caffael hwnnw, daeth consortiwm rhwng Prifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings Ltd. yn bartneriaid cydweithio o dan Gytundeb Cydweithio. Nid yw'r Cytundeb hwn yn gosod unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor Sir, heblaw gweithio tuag at Gytundeb Datblygu sy'n nodi sut y bydd y Pentref yn cael ei ddarparu. Nid yw'r Cytundeb Datblygu hwnnw wedi'i gwblhau. Felly nid oes ymrwymiad na rhwymedigaeth ar y Cyngor Sir ar hyn o bryd. Nid oes unrhyw gyllid wedi'i ymrwymo, nid oes unrhyw daliadau wedi'u gwneud, heblaw gwaith paratoi i archwilio'r safle a chyngor cyfreithiol allanol arbenigol i'r Cyngor Sir.

Ar ôl cynnal yr ymarfer caffael a llofnodi'r Cytundeb Cydweithio, a gafodd ei lofnodi a'i selio gan Brifysgol Abertawe, gennym ni a chan Sterling Health, cafodd y Cyngor ragor o gyngor cyfreithiol, a gafodd ei adrodd wrth y Bwrdd Gweithredol, ynghylch y strwythur priodol ar gyfer darparu'r Pentref yn ddiogel ac amddiffyn arian cyhoeddus. Cafodd y cyngor hwnnw ei rannu â Phrifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings. Argymhellwyd na ddylai'r Cyngor Sir ymuno ag unrhyw gwmni presennol na pherchen ar unrhyw ran ohono, gan ei fod yn bosibl y bydd rhwymedigaethau'r cwmni yn berthnasol i'r Cyngor yn anfwriadol. Y cyngor oedd y dylai'r Cyngor Sir sefydlu cwmni diben arbennig newydd sbon sy'n gyfyngedig trwy gyfranddaliadau.   Penderfynodd y Cyngor Sir mai hon oedd y ffordd gyfreithiol fwyaf diogel o symud ymlaen a rhoddodd wybod i'r partneriaid am hynny.

Diben y Cytundeb Cydweithio oedd cytuno ar sut y bydd yr elfennau penodol yn cael eu cyflawni. Fodd bynnag, fel y dywedais, nid oes unrhyw gytundeb o'r fath wedi cael ei wneud eto.

Er bod gwaith wedi cael ei wneud i sefydlu'r cwmni diben arbennig newydd, nid yw hwn wedi'i sefydlu eto. Nid oes cyfranddaliadau wedi'u rhoi, nid oes cyfarwyddwyr wedi'u penodi, nid oes cwmni wedi'i gofrestru. Yn ei gyfarfod ar 3 Rhagfyr, bu'r Bwrdd Gweithredol yn ystyried y cynllun busnes pum achos llawn, sydd yn unol â model y trysorlys - mae'n rhaid i ni gydymffurfio â hwn fel rhan o'r Fargen Ddinesig - a chytunwyd mewn egwyddor ei fod yn gadarn ac yn barod i'w gyflwyno i'r ddwy lywodraeth. Roedd y Cyd-bwyllgor a'r Bwrdd Strategaeth Economaidd, sy'n rhan o'r Fargen Ddinesig, hefyd wedi cymeradwyo'r model busnes pum achos llawn. Fodd bynnag roedd y Bwrdd Gweithredol yn ymwybodol o ddigwyddiadau ac adroddiadau diweddar. Felly roedd y Bwrdd o'r farn bod angen cael rhagor o sicrwydd gan Swyddogion, gan gynnwys cyngor cyfreithiol allanol arbenigol, bod y broses briodol wedi cael ei dilyn yn gywir a bod arian cyhoeddus yn cael ei amddiffyn yn llawn. Mae'r adolygiad cyfreithiol allanol hwnnw wedi'i gwblhau a bydd yn cael ei adrodd yn ôl i'r Bwrdd Gweithredol.

Clywodd y Bwrdd Gweithredol mai bwriad y Cytundeb Cydweithio â Phrifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings oedd ceisio paratoi Cytundeb Datblygu er mwyn bwrw ati â'r cynllun. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd nad oedd y Cytundeb Datblygu wedi'i gwblhau. Felly nid oedd ymrwymiad neu rwymedigaeth gyfreithiol ar y Cyngor eto. Gofynnodd y Bwrdd Gweithredol a oedd modd dod o hyd i ffordd arall o ddarparu'r prosiect hanfodol hwn i Lanelli a'r Sir. Roedd y Swyddogion o'r farn bod hyn yn hollol ymarferol.

Mae'r prosiect - i atgoffa'r Aelodau, fel y gwnes i yng nghyfarfod y Bwrdd Gweithredol - yn cynnwys tair elfen gyhoeddus graidd: Sefydliad Gwyddor Bywyd ar gyfer Prifysgol Abertawe; cyfleusterau iechyd newydd ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda, a chanolfan hamdden newydd ar gyfer y Cyngor Sir, ynghyd â chyfleusterau addysgu a chyfleusterau eraill sy'n cynnwys Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Roedd y Swyddogion o'r farn y byddai'r Cyngor Sir yn gallu adeiladu'r rhain heb unrhyw bartneriaid datblygu. Mae'r cyllid ar gael drwy'r Fargen Ddinesig a'r Cyngor Sir i wneud hyn. Ar ôl eu trafodaeth â buddsoddwyr sefydliadol megis HSBC, Lloyds, Prudential ac eraill yr ydym wedi cael trafodaethau â hwy, a'r achos busnes ariannol annibynnol a gomisiynwyd gan y Cyngor, roedd y Swyddogion yn hyderus y byddai modd i'r Cyngor Sir gyflawni'r elfennau hanfodol eraill megis cartref gofal, cartref nyrsio, gwesty, swyddfeydd, llety byw â chymorth, drwy ddefnyddio'r cyllid preifat a gadarnhawyd gan y Cyngor, os byddai angen.

Gofynnodd y Bwrdd Gweithredol i'r Swyddogion adrodd yn ôl ar frys ynghylch model cyflawni arall i sicrhau bod modd cwblhau'r buddsoddiad hynod bwysig hwn y mae angen mawr amdano yn Llanelli.

Mae'r Cyngor Sir bellach wedi terfynu'r Cytundeb Cydweithio â'r consortiwm, sef Prifysgol Abertawe a Sterling Health Security Holdings Ltd oherwydd ein bod o'r farn, yn sgil digwyddiadau diweddar ac er mwyn amddiffyn y Cyngor ac anrhydedd y Pentref Llesiant a Gwyddor Bywyd, mai dyma'r ffordd fwyaf synhwyrol a chyfreithiol o symud ymlaen er mwyn amddiffyn y prosiect hwnnw. Rydym wedi gwneud hynny ar ôl cael y cymorth cyfreithiol allanol hwnnw. Bydd y Swyddogion bellach yn parhau i weithio gyda swyddogion eraill o Fwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Abertawe i gyflwyno model cyflawni arall a fydd, yn y bôn, yn sicrhau y bydd y Cyngor ei hun yn hwyluso'r buddsoddiad preifat sydd ei angen yn uniongyrchol. Mae fy nghydweithiwr wedi cysylltu â llawer o gwmnïau sefydliadol y Fargen Ddinesig ac mae'n cysylltu â'r arbenigwr allanol sy'n darparu'r cynllun busnes sefydliadol hwnnw, yn hytrach na thrwy ddefnyddio cwmni Cyd-fenter.

Yn ogystal, cefais gyfarwyddyd rai wythnosau yn ôl, pan glywom fod rhywbeth yn digwydd ym Mhrifysgol Abertawe, i gysylltu ar unwaith â Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn iddynt fod yn llwyr ymwybodol o'n sefyllfa ar hyn o bryd a chael cyfle i ddod mewn ac adolygu'r prosiect o'u safbwynt nhw. Mae fy nghydweithiwr wedi gwneud hynny. Mewn gwirionedd, gwnaeth Chris [Moore - Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol] hynny'r wythnos ddiwethaf. Ond hoffwn bwysleisio hyn - ac rwy'n darllen e-bost - roedd Swyddfa Archwilio Cymru yn awyddus atgyfnerthu eu bod yn croesawu ein gwahoddiad i adolygu'r prosiect ond roeddent am bwysleisio nad oherwydd bod ganddynt bryderon ynghylch y prosiect y maent yn cynnal yr adolygiad. Maent yn cynnal yr adolygiad mewn ymateb uniongyrchol i'n cais.

Roedd y darn diwethaf yn ddiweddariad na rois i'r Bwrdd Gweithredol oherwydd megis dechrau cael cyfarfodydd gyda Swyddfa Archwilio Cymru oeddem ar y pryd."