Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2018/19 hyd 2020/21 a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 27 Tachwedd 2017.

 

Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2018/19, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/21.  Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Hydref 2017 a chan adlewyrchu cynigion presennol yr adrannau ar gyfer arbedion.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol wrth y Pwyllgor fod y setliad terfynol wedi'i gyhoeddi'r diwrnod cynt a bod £1.4m ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer Sir Gaerfyrddin.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol sy'n berthnasol i'w faes gorchwyl ac a oedd ynghlwm wrth yr adroddiad: -

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb o'r arbedion effeithlonrwydd ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o Bwysau Twf ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant;

·       Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â'r Adran Addysg a Phlant;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a

Phlant.

 

I grynhoi, roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu cyflawni'n llawn y cynigion o ran arbedion, sef £25.6m, ynghyd â nodi'r diffyg o £0.198m yn 2018/19, £2.4m yn 2019/20 a £2.7m yn 2020/21, a chynnig arbedion i wneud yn iawn am hynny. Byddai angen nodi rhagor o arbedion costau er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys ym mhob un o'r tair blynedd.

 

Mae'r cynigion cyfredol ar gyfer y gyllideb yn rhagdybio y bydd cynnydd yn Nhreth y Cyngor, yn unol â'r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, o 4.12% yn 2018/19, o 3.88% yn 2019/20 ac o 5.00% yn 2020/21.  Mae newid o 1% yn Nhreth y Cyngor yn cyfateb i +/– £820k. 

 

Mynegwyd y sylwadau/cwestiynau canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·       Mynegwyd pryder ynghylch y lleihad arfaethedig o ran gofal seibiant a'r effaith ar rieni sydd angen seibiant. Pwysleisiwyd mor bwysig yw ymgynghori â defnyddwyr gwasanaethau ar gynigion o'r fath. Sicrhawyd y Pwyllgor gan Bennaeth y Gwasanaethau Plant fod rhywfaint o ymgynghori wedi digwydd eisoes o ran hyn ac y bydd swyddogion yn parhau i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaethau wrth i'r cynigion gael eu symud yn eu blaenau. Eglurodd nad oedd unrhyw fwriad i roi'r gorau'n sydyn i seibiant i deuluoedd a'i fod yn hytrach yn fater o ystyried a ellid darparu'r gwasanaeth mewn ffordd wahanol, well;

·       Cyfeiriwyd at y cynnydd arfaethedig ym mhrisiau prydau ysgol a gofynnwyd i'r swyddogion sut mae Sir Gaerfyrddin yn cymharu ag Awdurdodau Lleol eraill o ran pris a'r nifer sy'n cymryd prydau ysgol. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Strategol wrth y Pwyllgor fod Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd ymhlith yr Awdurdodau sy'n codi'r tâl uchaf. Eglurodd ei bod yn anodd cael ffigurau cywir gan Awdurdodau Lleol eraill o ran y rhai sy'n gymwys ac yn cymryd prydau ysgol am ddim, ond bod Sir Gaerfyrddin ar hyn o bryd o gwmpas 58%-60%;

·       Mynegwyd pryder ynghylch y cynnydd arfaethedig ym mhris prydau ysgol gan fod y gost wedi cynyddu yn fwy na chwyddiant dros y tair blynedd diwethaf ac mae teuluoedd sydd â 2 neu 3 o blant yn cael anhawster mawr wrth dalu am y cynnydd hwn. Os na fydd y pris yn cael ei gynyddu esboniodd y Rheolwr Datblygu Strategol y bydd yn rhaid dod o hyd i'r arian o lefydd eraill;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion faint o blant y sir sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ond nad ydynt wedi gwneud cais amdanynt, ac a fyddai'n bosibl rhannu arferion da ar sail ysgol lle mae cyfradd uchel o'r rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn manteisio arnynt. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Strategol nad oedd yn bosibl cael ffigwr o'r nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim, ond bod yna deuluoedd sy'n gymwys i'w cael ond nad ydynt yn ymgeisio. Nid oedd hawl gan swyddogion fynd at y teuluoedd hyn. Caiff prydau ysgol am ddim eu hyrwyddo drwy gyfrwng llythyr a'r cyfryngau cymdeithasol. Ychwanegodd y byddai'n hapus i gwrdd â'r Aelodau i drafod ffyrdd o wella'r nifer sy'n manteisio ar brydau ysgol am ddim a hefyd gwaredu'r stigma;

·       Gofynnwyd i'r swyddogion pam y rhagwelir y bydd cronfeydd wrth gefn yr ysgolion, a oedd yn £1.7 miliwn yn Ebrill 2017, yn ffigurau minws ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Esboniodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod darlun cudd wrth ragweld cronfeydd wrth gefn oherwydd bod gan rai ysgolion ddiffyg ariannol ac eraill arian dros ben. £1.7m yw'r ffigwr cyflawn ond mae diffyg ariannol gan 33 o ysgolion a dyna pam bod y ffigurau'n nodi minws. Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant fod cronfeydd dros ben yr ysgolion wedi lleihau o £5m ychydig flynyddoedd yn ôl i oddeutu £1m oherwydd bod yn rhaid i ysgolion ddefnyddio'r arian dros ben i gynnal eu cyllideb. 

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

5.1     Derbyn yr Ymgynghoriad ar Strategaeth y Gyllideb Refeniw 2018/19 – 2020/21;

5.2     Nodi'r cynigion ar gyfer gwneud arbedion effeithlonrwydd yn yr Adran Addysg a Phlant, fel y nodir yn Atodiad A(i) i'r adroddiad, ond bod pryderon y Pwyllgor ynghylch unrhyw leihad o ran y ddarpariaeth gofal seibiant yn cael eu trosglwyddo i'r Bwrdd Gweithredol;

5.3. Cymeradwyo'r Crynhoad Taliadau ar gyfer yr Adran Addysg a Phlant, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r adroddiad.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: