Agenda item

CAIS I AMRYWIO TRWYDDED SAFLE, STRADEY PARK HOTEL, FFWRNES, LLANELLI, SA15 4HA

Cofnodion:

Wedi i'r Is-bwyllgor ymgynnull am 10.00 a.m. yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Caerfyrddin, gohiriwyd y cyfarfod am 10.10 a.m. er mwyn cynnal ymweliad safle â Gwesty Parc y Strade, Ffwrnes, Llanelli, mewn perthynas â chais a gafwyd am amrywio Trwydded Safle'r Gwesty. Cyrhaeddodd yr Is-bwyllgor y safle am 11.00 a.m. a gwelsant lolfa'r Gwesty ar ben y to, sef y rhan hwnnw o'r safle a fyddai'n destun y cais am amrywio'r drwydded. Gwelsant hefyd o Falconi'r Gwesty leoliad eiddo'r gwrthwynebwyr, ac wedi hynny aethant yn eu blaenau i'r briffordd o flaen yr eiddo yn ‘The Dell’ i weld pa mor agos oedd y datblygiad hwnnw i'r gwesty. Wedi i'r ymweliad â'r safle ddod i ben am 11.20 a.m., ailymgynullodd yr Is-bwyllgor yn Siambr y Cyngor, Neuadd y Sir, Caerfyrddin am 1.30 p.m. i ystyried y cais.

 

Soniodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol wrth bawb oedd yn bresennol am drefn y cyfarfod, gan ddweud wrth yr Is-bwyllgor fod cais wedi dod i law gan Gryphon Leisure am amrywio'r drwydded safle ar gyfer Gwesty Parc y Strade, Ffwrnes, Llanelli fel a ganlyn:-

 

“Atodiad 3 - 1. Dim ond preswylwyr y gwesty fydd yn cael prynu alcohol yn y lolfa ben to”.

 

Dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Cyfreithiol fod natur yr amrywiad yn benodol i lolfa ben to'r Gwesty yn unig, ac felly byddai amrywio'r drwydded yn galluogi pobl nad ydynt yn breswylwyr i brynu alcohol yn y lolfa. Pe bai'r cais yn cael ei ganiatáu, byddai unrhyw amodau ar yr amrywiad hwnnw ond yn gallu cael eu gwneud ar gyfer y lolfa honno, ac nid ar gyfer gweithrediad cyffredinol y gwesty neu mewn perthynas â Thrwydded Lluniaeth Hwyrnos.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod y dogfennau canlynol ynghlwm wrth yr adroddiad:-

 

Atodiad A – copi o'r cais

Atodiad B – copi o'r drwydded safle bresennol

Atodiad C – sylwadau a gyflwynwyd gan yr Awdurdod Trwyddedu

Atodiad D – sylwadau a gyflwynwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd

Atodiad E – sylwadau a gyflwynwyd gan bobl eraill.

 

Yn ychwanegol at y dogfennau uchod cafodd yr Is-bwyllgor, gyda chaniatâd yr holl bartïon, y dogfennau ychwanegol canlynol a gohiriwyd y cyfarfod am 10 munud i roi cyfle i'r holl bartïon ddarllen y deunydd:-

·       Cynllun yn nodi lleoliad Gwesty Parc y Strade ac eiddo'r gwrthwynebwyr

·       Nodyn yn dwyn y dyddiad 20 Hydref oddi wrth Gryphon Leisure mewn ymateb i'r sylwadau a gafwyd

·       Llythyr yn dwyn y dyddiad 23 Tachwedd 2017 oddi wrth Mr E. Jones, Cyngor Sir Caerfyrddin at Gryphon Leisure

·       Llythyr yn dwyn y dyddiad 23 Tachwedd 2017 oddi wrth Mr A. Morgan, Cyngor Sir Caerfyrddin at Gryphon Leisure

·       Neges e-bost yn dwyn y dyddiad 28Tachwedd oddi wrth Mr T Byrne, Gryphon Leisure at Is-adran Drwyddedu Cyngor Sir Caerfyrddin

·       Neges e-bost yn dwyn y dyddiad 27 Tachwedd 2017 oddi wrth Mr Morris at uned diogelu'r cyhoedd Cyngor Sir Caerfyrddin

·       Llythyr yn dwyn y dyddiad 28 Tachwedd 2017 oddi wrth Nia Griffith AS.

Cyfeiriodd cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad C i'r adroddiad, gan ddweud, yn dilyn hynny, ei fod ef wedi ymweld â'r safle ar 8 Tachwedd 2017 ynghyd â Mr A Morgan o Iechyd yr Amgylchedd i drafod y cais â'r ymgeiswyr. O ganlyniad i'r ymweliad hwnnw, ar 23 Tachwedd 2017 ysgrifennodd ef at yr ymgeisydd gan gynnig ychwanegu'r tri amod ychwanegol canlynol (gweler tudalen 5 o'r ddogfennaeth ychwanegol) at drwydded y safle, pe bai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais am amrywio'r drwydded.

·       Yn y lolfa ben to, bydd alcohol ond yn cael ei weini neu'i werthu i bobl sy'n cael pryd bwyd yn y lolfa honno;

·       Bydd system teledu cylch cyfyng yn cael ei gosod a'i chynnal yn ardal y lolfa ben to a bydd yn weithredol drwy gydol yr oriau a ganiateir;

·       Bydd plant ond cael mynd i'r lolfa ben to yng nghwmni oedolyn sy'n eu goruchwylio.

Yn dilyn y llythyr hwnnw, cafwyd cadarnhad gan Gryphon Leisure ar 28 Tachwedd, 2017 yn derbyn yr amodau ychwanegol hynny (gweler tudalen 9 o'r ddogfennaeth ychwanegol).

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Cyfeiriodd cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd at ei sylwadau, fel y nodwyd yn Atodiad D i'r adroddiad, a dywedodd ei fod wedi'u gwneud mewn ymateb i ryw 15 o gwynion a gafwyd gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd yngl?n â gweithrediad Gwesty Parc y Strade ers 2007. Yn dilyn gwneud y sylwadau hynny, ar 8 Tachwedd 2017 cafodd yntau, ynghyd â Mr E Jones o'r Awdurdod Trwyddedu, gyfarfod gyda'r ymgeiswyr i drafod y cais. O ganlyniad i'r ymweliad hwnnw, ar 23 Tachwedd 2017 ysgrifennodd ef at yr ymgeisydd gan gynnig ychwanegu'r tri amod ychwanegol canlynol (gweler tudalen 7 o'r ddogfennaeth ychwanegol) at drwydded y safle, pe bai'r Is-bwyllgor yn penderfynu caniatáu'r cais am amrywio'r drwydded.

·       Ni chaiff unrhyw gwsmeriaid ddefnyddio teras allanol y lolfa ben to ar ôl 11.00 p.m. Pe bai cwsmeriaid eisiau ysmygu ar ôl 11 p.m. yna bydd rhaid iddynt ddefnyddio ardaloedd eraill er mwyn ysmygu;

·       Dim ond cerddoriaeth gefndir a gaiff ei chwarae yn y lolfa ben to. Bydd lefelau'r gerddoriaeth gefndir yn cael eu gosod mewn cytundeb ag adain Iechyd yr Amgylchedd;

·       Bydd yna gynllun rheoli ar gyfer y lolfa ben to, a bydd Adain yr Amgylchedd a Thrwyddedu yn cytuno ar hwn yn ysgrifenedig cyn iddo gael ei ddefnyddio. Bydd copi o'r cynllun rheoli yn cael ei gadw yn y lolfa ben to er mwyn cyfeirio ato.

Yn ogystal â'r amodau hyn, roedd ei lythyr ar 23 Tachwedd hefyd yn rhestru rhyw 8 o argymhellion yr ystyriai y dylid eu cynnwys yn y cynllun rheoli a grybwyllwyd uchod h.y.

Ø  Bydd y lolfa ben to yn fwyty ciniawa cain ar gyfer oedolion a phlant dros 12 oed,

Ø  Bydd plant ond cael mynd i'r lolfa ben to yng nghwmni oedolyn sy'n eu goruchwylio,

Ø  Ni fydd archebion gan grwpiau mwy na 12 o bobl yn cael eu derbyn yn y lolfa ben to.

Ø  Ni chaiff unigolion na grwpiau archebu nifer fawr o leoedd yn y lolfa ben to ar yr un pryd.

Ø  Mae system awyru ar gael yn y lolfa ben to. Felly, ni chaiff ffenestri a drysau eu hagor at ddibenion awyru. Mae hyn er mwyn lleihau'r s?n sy'n dianc o'r adeilad.

Ø  Dylid arddangos arwyddion ar ddrysau'r teras yn rhoi gwybod i'r cwsmeriaid fod y teras yn cau am 11 p.m.

Ø  Ni ddylai fod yna fyrddau/cadeiriau ar gael ar y balconi

Ø  Dylid gosod arwyddion ar y balconi yn gofyn i gwsmeriaid gadw lefelau s?n mor isel â phosibl. 

Adroddodd fod Gryphon Leisure, yn dilyn y llythyr hwnnw, wedi rhoi cadarnhad ar 28 Tachwedd 2017 eu bod yn derbyn yr amodau ychwanegol a'r pwyntiau bwled, ac eithrio'r pwynt bwled yn ymwneud â dim byrddau/cadeiriau ar gael ar y balconi, ac roeddent wedi gofyn am i hyn gael ei drafod ymhellach. Fodd bynnag, roedd ef o'r farn y dylai hyn gael ei gadw o fewn y cynllun rheoli.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon a oedd yn bresennol holi cynrychiolydd Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd ynghylch ei sylwadau.

 

Cafwyd sylwadau gan nifer o drigolion lleol a wrthwynebai'r amrywiad arfaethedig, a ailbwysleisiai'r pwyntiau a nodwyd yn eu sylwadau ysgrifenedig ac a oedd yn cynnwys y canlynol ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:-

 

1.     Roedd cerddoriaeth a oedd yn mynd drwy uchelseinydd i'w chlywed o'r lolfa ben to gan nad oedd camau wedi'u cymryd i leihau'r s?n sy'n dod ohoni.   

2.     Roedd y s?n a oedd yn dod o'r gwesty yn effeithio ar hawliau dynol y trigolion lleol, yn enwedig Erthygl 8 ac Erthygl 1, Protocol 1af.

3.     Gellid clywed lleisiau pobl o'r teras ar ben y to tan 11.00 p.m.

4.     Roedd y lolfa ben to'n cael ei defnyddio'n fynych gan y cyhoedd e.e. partïon croesawu babanod a the prynhawn ac ati ble roedd alcohol yn cael ei gyflenwi.

5.     Pryderon ynghylch sut y byddai bwyd yn cael ei gludo i'r lolfa ben to o'r ceginau sydd ar lawr islaw

6.     Diffyg lleoedd parcio yn y gwesty, gyda'r canlyniad fod gwesteion yn parcio eu cerbydau ar y stryd

7.     Llygredd golau yn deillio o'r gwesty

8.     Methiant systematig gan y gwesty i gadw at ei amodau trwyddedu dros y 10 mlynedd flaenorol

9.     Ymddygiad gwrthgymdeithasol gan westeion yn y gwesty yn effeithio ar y gymuned leol

10.Problem gyffredinol yn ymwneud â s?n o ardaloedd eraill o'r gwesty yn tarfu ar drigolion, e.e. o'r brasserie, oherwydd fod ffenestri a drysau'n cael eu gadael ar agor

11.Gallai caniatáu'r amrywiad y gofynnwyd amdano arwain at gynnydd mewn s?n a fyddai'n amharu ar drigolion lleol a tharfu pellach arnynt.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi'r gwrthwynebwyr, yn unigol, ynghylch eu sylwadau.

 

Mewn ymateb i'r sylwadau a gafwyd, dywedodd yr ymgeiswyr fod y Gwesty yn cydnabod pryderon y trigolion ac yn ceisio lliniaru'r rheiny ble bynnag yr oedd hynny'n bosibl. Fodd bynnag, un sgil-effaith anffodus a ddeilliai o union natur y busnes oedd y gallai ymddygiad gwrthgymdeithasol ddigwydd o bryd i'w gilydd, naill ai gan ei westeion neu o ganlyniad i'w weithrediadau. Byddai defnydd arfaethedig y lolfa ben to at ddibenion darpariaeth ciniawa cain a la carte yn unig. Ni fyddai modd prynu alcohol yn y bar, a byddai pob gwerthiant o'r fath yn cael ei wneud trwy fod gwasanaeth gweinydd yn cael ei ddarparu o farrau eraill ar y safle.  Byddai unrhyw gerddoriaeth a fyddai'n cael ei chwarae yn y lolfa ar lefel cerddoriaeth gefndir yn unig, i alluogi pobl i sgwrsio'n naturiol. Derbyniwyd bod angen lleoedd parcio ychwanegol yn y gwesty a bod parcio ar y stryd, ar adegau, yn cael effaith andwyol ar drigolion lleol a bod yr heddlu wedi cael gwybod am yr achosion hynny. Cadarnhawyd na fyddai'r lolfa ben to yn cael ei defnyddio i gynnal partïon.

 

Rhoddwyd cyfle i'r holl bartïon oedd yn bresennol holi cynrychiolydd yr Awdurdod Trwyddedu ynghylch ei sylwadau.

 

Yn dilyn hynny

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL gan yr Is-bwyllgor gynnal sesiwn preifat er mwyn cael cyngor cyfreithiol yn unol â Pharagraff 16 o Atodlen 12 i'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

 

Ar ôl y toriad ailymgynullodd yr Is-bwyllgor i gyhoeddi ei benderfyniad ac ar ôl ystyried y paragraffau perthnasol o Ddatganiad Polisi Trwyddedu'r Awdurdod Trwyddedu a'r cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chan y Swyddfa Gartref

 

PENDERFYNWYD caniatáu'r cais am amrywio'r Drwydded Safle ar gyfer Gwesty Parc y Strade, Ffwrnes, Llanelli yn amodol ar y canlynol:-

 

1.       Yn y lolfa ben to, bydd alcohol ond yn cael ei weini neu'i werthu i bobl sy'n cael pryd bwyd yn y lolfa honno

2.       Bydd system teledu cylch cyfyng yn cael ei gosod a'i chynnal yn ardal y lolfa ben to a bydd yn weithredol drwy gydol yr oriau a ganiateir.

3.       Bydd plant ond cael mynd i'r lolfa ben to yng nghwmni oedolyn sy'n eu goruchwylio

4.       Ni chaiff unrhyw gwsmeriaid ddefnyddio teras allanol y lolfa ben to ar ôl 11 p.m. Pe bai cwsmeriaid eisiau ysmygu ar ôl 11 p.m. yna bydd rhaid iddynt ddefnyddio ardaloedd allanol eraill er mwyn ysmygu.

5.       Bydd yna gynllun rheoli ar gyfer y lolfa ben to, a bydd Adain yr Amgylchedd a Thrwyddedu yn cytuno ar hwn yn ysgrifenedig cyn i alcohol gael ei werthu i bobl nad ydynt yn breswylwyr yn y gwesty yn y lolfa ben to. Bydd copi o'r cynllun rheoli yn cael ei gadw yn y lolfa ben to er mwyn cyfeirio ato.

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor wedi gosod yr amod y gofynnwyd amdano gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd yngl?n â chwarae cerddoriaeth gefndirol gan na fyddai modd gorfodi amod o'r fath.
 Argymhellodd yn hytrach fod y mater hwnnw'n cael ei gynnwys yn y cynllun rheoli.

Y RHESYMAU

 

Wrth benderfynu ar y cais, yr oedd y ffeithiau canlynol yn hysbys i'r Is-bwyllgor;

 

  1. Roedd newidiadau diweddar i Ddeddf Trwyddedu 2003 yn caniatáu i ddeiliad y drwydded ddarparu cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth a recordiwyd yn y lolfa ben to i unrhyw un (p'un a oedd yn breswylydd yn y gwesty ai peidio) rhwng 8 a.m. a 11 p.m.
  2. Nid oedd dim yn atal pobl nad oeddent yn breswylwyr rhag yfed alcohol yn y lolfa
  3. Nid oedd dim yn atal y lolfa rhag cael ei defnyddio fel bwyty gan bobl nad oeddent yn breswylwyr yn y gwesty cyn 11 p.m.
  4. Cafodd Deiliad Trwydded y Safle rybuddiad yn 2010 am gynnal adloniant heb drwydded yn y lolfa ben to.
  5. Yn sgil yr adloniant anawdurdodedig hwnnw cafwyd cwynion am s?n gan drigolion lleol.
  6. Roedd yna hanes o gwynion am s?n ac achosion eraill o niwsans cyhoeddus yn ymwneud â'r safle.
  7. Nid oedd yr un o'r awdurdodau cyfrifol yn gwrthwynebu'r cais mewn egwyddor
  8. Credai'r awdurdodau cyfrifol y gellid delio'n ddigonol ag unrhyw niwsans cyhoeddus a fyddai'n codi o ganiatáu'r cais trwy osod amodau ychwanegol penodol ar y drwydded a defnyddio pwerau statudol eraill gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd.
  9. Cytunodd yr ymgeiswyr ar amodau ychwanegol y drwydded a roddwyd ymlaen gan yr awdurdodau cyfrifol

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi rhoi pwys ar farn yr Awdurdodau Cyfrifol, gan fod rheidrwydd cyfreithiol arno i wneud hynny.

 

Gwelodd yr Is-bwyllgor fod tystiolaeth y trigolion lleol, er yn gredadwy ac yn argyhoeddi, yn annigonol i gyfiawnhau mynd yn groes i farn yr awdurdodau cyfrifol ar y pwynt hwn.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn cydnabod bod yn rhaid i'w benderfyniad gael ei seilio ar dystiolaeth wirioneddol, ac nad oedd pryderon ac ofnau ynghylch yr hyn a allai ddigwydd pe caniateid y cais, lle nad oedd tystiolaeth o'r fath i'w hategu, yn faterion y gallai roi ystyriaeth briodol iddynt.

 

Ar sail y dystiolaeth a ddarparwyd, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y byddai caniatáu'r amrywiad am y rhesymau a osodwyd yn wreiddiol yn y cais wedi tanseilio amcan y drwydded o ran atal niwsans cyhoeddus.

 

Fodd bynnag, roedd yr Is-bwyllgor yn derbyn tystiolaeth yr awdurdodau cyfrifol y gellid mynd i'r afael â'r materion yn ymwneud â'r posibilrwydd o niwsans cyhoeddus yn sgil gwerthu alcohol yn y lolfa ben to i bobl nad ydynt yn breswylwyr yn y gwesty, a hynny mewn modd priodol a chymesur, trwy osod amodau ychwanegol ar y drwydded y cytunwyd arnynt rhwng yr awdurdodau cyfrifol a'r ymgeiswyr, a defnyddio pwerau cyfreithiol ar wahân gan Wasanaethau Iechyd y Cyhoedd i fynd i'r afael â niwsans statudol.

 

Felly roedd y Pwyllgor yn fodlon;

 

  1. Bod caniatáu'r cais yn amodol ar amodau ychwanegol y drwydded, fel y cytunwyd arnynt, yn briodol er mwyn hyrwyddo'r amcanion trwyddedu.
  2. Bod yr amodau hynny yn ymateb cymesur i'r materion a nodwyd yn y dystiolaeth.
  3. Na fyddai caniatáu'r cais ar sail hyn yn tanseilio'r amcanion trwyddedu.

 

Nododd yr Is-bwyllgor fod gan y cais y posibilrwydd o effeithio ar hawliau dynol y trigolion, yn enwedig Erthygl 8 ac Erthygl 1, Protocol 1af. Fodd bynnag, nid oedd y rheiny'n hawliau absoliwt ac roedd y Pwyllgor yn fodlon, ar sail tystiolaeth yr awdurdodau cyfrifol, bod yr amodau ychwanegol a roddir ar y drwydded yn ddigonol i amddiffyn yr hawliau hynny.

 

Er gwaethaf yr uchod, roedd yr Is-bwyllgor yn pryderu am yr effaith yr oedd y gwesty yn ei chael ar drigolion lleol a byddai felly'n annog perchnogion y gwesty i weithio'n agos gyda Gwasanaethau Iechyd y Cyhoedd a thrigolion lleol i fynd i'r afael â'r materion hynny.