Agenda item

Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM FENTRAU SAFONAU MASNACH - DIOGELU DINASYDDION OEDRANNUS AC AGORED I NIWED YN SIR GAERFYRDDIN.

Cofnodion:

Cafodd y Pwyllgor adroddiad a chyflwyniad PowerPoint ynghylch mentrau'r is-adran Safonau Masnach sy'n ceisio gwella ansawdd bywyd dinasyddion yn y cartref a gwella cydnerthu cymunedol drwy leihau camfanteisio'n ariannol ar oedolion agored i niwed. Nododd y Pwyllgor fod yr is-adran, mewn ymateb i rwymedigaethau statudol mewn perthynas â cham-drin ariannol a newidiadau polisi a gyflwynwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014, wedi sefydlu'r Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol yn 2014, sef menter amlasiantaeth gyda'r nod o ganfod ac atal cam-drin pobl agored i niwed yn ariannol.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiwn/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:

 

·        Cyfeiriwyd at y posibilrwydd y gallai pobl agored i niwed gael eu cam-drin yn ariannol gan deulu a ffrindiau sydd wedi cael Atwrneiaeth i reoli eu materion ariannol. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch pa gamau, os oes rhai, y gellid eu cymryd i fynd i'r afael â'r gamdriniaeth honno.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod nifer o opsiynau ar gael a oedd yn cynnwys cynllun sydd ar waith ers 2014 ar y cyd â Banc Barclays a Banc Halifax (ac yn ddiweddar Banc Santander) ynghylch rhoi gwybod am unrhyw weithgaredd banc anarferol o ran cyfrif unigolyn sy'n agored i niwed. Wedyn gallai hynny arwain at gychwyn ymateb amlddisgyblaeth i ddiogelu'r unigolyn agored i niwed ac erlyn troseddwyr gan gorff gorfodi perthnasol.

 

Yn deillio o'r uchod cyfeiriwyd at yr angen i gynyddu ymwybyddiaeth y rheiny sydd wedi cael Atwrneiaeth o'r cyfrifoldebau sydd ynghlwm wrth hynny.

·        Cyfeiriwyd at y cam-drin ariannol a allai ddigwydd drwy alwadau ffôn diofyn a dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr is-adran wedi prynu 220 o ddyfeisiau atal galwadau ffôn i'w gosod mewn cartrefi pobl sy'n agored i niwed i helpu i'w hamddiffyn rhag galwadau o'r fath. Roedd y dyfeisiau hynny, yn ogystal â mynnu bod galwyr yn rhoi gwybod pwy ydynt, hefyd yn nodi bod y galwadau'n cael eu monitro gan y gwasanaeth Safonau Masnach. Hyd yn hyn, roedd dros 41,000 o alwadau niwsans wedi cael eu hatal a 67 o breswylwyr agored i niwed wedi cael eu hamddiffyn rhag galwadau sbam niwsans.

 

Roedd dewisiadau eraill sydd ar gael i amddiffyn pobl agored i niwed rhag galwadau ffôn niwsans yn cynnwys y Gwasanaeth Dewis Galwadau Ffôn a gwasanaethau atal galwadau tebyg a gynigir gan gwmnïau telathrebu lle mae'r galwyr yn gorfod rhoi gwybod pwy ydynt cyn i'r ffôn gael ei ateb. Mantais y systemau hynny oedd eu bod yn atal galwadau wedi'u hawtomeiddio.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch sut y gellid cyfeirio pobl agored i niwed at yr adran i gael dyfais atal galwadau, dywedwyd y gellid gwneud hynny mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys cael atgyfeiriad drwy'r gwasanaethau cymdeithasol, y banciau ac ar sail gwybodaeth. Roedd yr adran hefyd yn cynnal sesiynau gwib mewn banciau ac yn llunio datganiadau i'r wasg i gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd o dwyll dros y ffôn.

·        Cydnabuwyd yn ogystal â galwadau ffôn niwsans y gallai pobl agored i niwed gael eu targedu trwy bost sbam. Dywedwyd wrth y Pwyllgor mewn ymateb i weithgareddau o'r fath fod y Post Brenhinol, ar y cyd â'r Bwrdd Safonau Masnach Cenedlaethol, wedi sefydlu prosiect i ddarparu hyfforddiant ffurfiol i swyddfeydd didoli swyddfa'r post mewn perthynas â thwyll torfol drwy'r post. Roedd yr hyfforddiant hwnnw eisoes wedi'i ddarparu ar gyfer swyddfa ddidoli Rhydaman a byddai'n cael ei ddarparu cyn bo hir ar gyfer swyddfeydd Caerfyrddin a Llanelli ac yn cynnwys galluogi gweithwyr post i nodi unigolion sy'n agored i niwed a allai fod mewn perygl o bost sbam. Gallai'r Post Brenhinol hefyd ysgrifennu at bobl agored i niwed i ofyn a hoffent i unrhyw bost o'r fath gael ei atal.

·        Mewn perthynas â Pharthau Dim Galw Heb Wahoddiad, cadarnhawyd ei bod yn drosedd ers 2008 o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 i fusnesau alw heb wahoddiad a bod unrhyw droseddau o dan y Ddeddf honno yn gallu arwain at ddirwy o £5,000 a dwy flynedd yn y carchar. Fodd bynnag, yn achos casgliadau elusennol o ddrws i ddrws gyda thrwydded gan yr Is-adran Trwyddedu, roedd y sefydliad sy'n casglu yn cael rhestr o'r tai na ddylai alw heibio iddynt.

·        Cyfeiriwyd at y gwahanol fentrau sydd ar waith o dan fantell y Cynllun a mynegwyd barn y byddai'n fanteisiol i'r aelodau gael seminar ynghylch hyn.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL

 

7.1

Derbyn yr adroddiad

7.2

Bod seminar ynghylch y Cynllun Diogelu rhag Camfanteisio Ariannol yn cael ei drefnu ar gyfer yr Aelodau

 

 

Dogfennau ategol: