Agenda item

YMGYNGHORI YNGHYLCH STRATEGAETH Y GYLLIDEB REFENIW 2018/19 TAN 2020/21

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/19 - 2020/21 (Atodiad A) a oedd wedi ei chymeradwyo gan y Bwrdd Gweithredol at ddibenion ymgynghori yn y cyfarfod ar 27 Tachwedd 2017.  Roedd yr adroddiad yn cyflwyno'r sefyllfa bresennol i'r Aelodau ynghylch y Gyllideb Refeniw ar gyfer 2018/2019, ynghyd â ffigurau dangosol ar gyfer blynyddoedd ariannol 2019/2020 a 2020/2021. Roedd yr adroddiad yn seiliedig ar ragamcanion gwariant y swyddogion, gan ystyried y setliad amodol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 10 Hydref 2017.

 

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p er bod y setliad dros dro o -0.5% a gyhoeddwyd yn llawer gwell na'r hyn a ragwelwyd, sef -2%, roedd yn dal i olygu bod yn rhaid i'r Awdurdod nodi arbedion effeithlonrwydd o £8.544m ar gyfer 2018/19 o gymharu â'r swm cychwynnol o £12.527m a byddai'n dal i gael effaith negyddol ar adnoddau'r Cyngor.

 

Gan grynhoi, byddai'r cynigion ar gyfer y gyllideb yn darparu'r £25.6 miliwn o arbedion a nodwyd dros gyfnod y cynllun. Ar ben hynny, roedd y cynigion ar gyfer y gyllideb yn golygu cynnydd yn y Dreth Gyngor o 4.12% ar gyfer 2018/19 a symudiad o 1% yn lefelau'r Dreth Gyngor a oedd yn cyfateb i +/-£820k.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y wybodaeth gyllidebol fanwl ganlynol a oedd wedi'i hatodi i'r Strategaeth ac a oedd yn berthnasol i'w faes gorchwyl:

 

·       Atodiad A(i) – Crynodeb effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

·       Atodiad A(ii) – Crynodeb o'r Pwysau Twf ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

·       Atodiad B – Y rhannau o'r gyllideb sy'n ymwneud â'r Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd;

·       Atodiad C – Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Rhoddwyd sylw i'r cwestiynau/materion canlynol wrth drafod yr adroddiad:-

 

·        Cyfeiriwyd at y swm o £1.75m o gynigion twf a roddwyd i'r Adran Cymunedau yn y Strategaeth a gofynnwyd am eglurhad ynghylch faint o'r dyraniad hwnnw fyddai'n cael ei wario yn y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dywedodd Cyfrifydd y Gr?p er mai £1.75m oedd dyraniad dangosol yr Adran Cymunedau fod hynny mewn cymhariaeth â chyfanswm cynnig adrannol o £3.779m. Gan fod y dyraniad dangosol 50% yn llai na chyfanswm y cynnig twf, byddai angen i'r Adran archwilio ei chynigion a blaenoriaethu ble y dylid cyfeirio'r dyraniad ychwanegol.

·        Cyfeiriwyd at y gostyngiad yng nghronfeydd wrth gefn y Cyngor sydd wedi'u clustnodi, yn ystod Cyfnod y Strategaeth, o £74.132m ym Mawrth 2017 i £17.233m ym Mawrth 2020. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a allai'r gostyngiad effeithio ar hyfywedd cynlluniau yn y rhaglen gyfalaf.

 

Cadarnhaodd Cyfrifydd y Gr?p fod y rhan fwyaf o'r cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi wedi cael eu neilltuo i ariannu prosiectau cyfalaf, ac y byddai pob un ohonynt yn cael eu defnyddio.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod yr Awdurdod yn archwilio sut mae'n defnyddio cronfeydd wrth gefn, gan roi pwyslais ar gynnal cronfa wrth gefn gyffredinol o 3%.

·        Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch effaith y Prosiect Rhyddhau Amser i Ofalu ar gyfer Pecynnau Gofal Cartref, dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod hynny'n ymwneud â'r fenter a gyflwynwyd gan yr Awdurdod ddwy flynedd yn ôl i leihau canran y pecynnau darparu gofal sy'n cynnwys ymdriniaeth ddwbl o 21% i gyfateb i lefel perfformiad awdurdodau eraill sy'n perfformio orau sef 13%. Roedd yr Awdurdod bellach yn asesu ceisiadau am becynnau gofal o ran p'un a oedd angen ymdriniaeth ddwbl ac a ellid darparu'r un lefel neu lefel well o ofal mewn ffyrdd gwahanol, er enghraifft drwy ddefnyddio offer penodol. Cadarnhawyd mai diben y fenter, a oedd yn parhau, oedd gwella'r gofal a ddarperir yn hytrach na'i leihau.

·        Cyfeiriwyd at y gwaith ymgynghori sy'n cael ei wneud fel rhan o Strategaeth y Gyllideb a gofynnwyd a oedd hynny'n cynnwys sefydliadau penodol megis MIND ac Age Cymru yn ogystal â defnyddwyr gwasanaeth os oedd unrhyw gynigion i leihau lefel bresennol y gwasanaeth a ddarperir.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod yr ymgyngoriadau sy'n cael eu cynnal yn ymwneud â Strategaeth Cyllideb y Cyngor ar gyfer 2018/19 – 2020/21 yn unig. Pe bai angen cynnal unrhyw ymgynghoriadau ynghylch newidiadau i'r gwasanaeth a ddarperir, byddent yn cael eu rheoli gan yr adran berthnasol yn y Cyngor.

·        Cyfeiriwyd at y tabl yn eitem 4.1 yn ymwneud â'r rhagolygon ariannol presennol a'r ddarpariaeth ar gyfer cyfradd chwyddiant gyffredinol o 2.2%. Gan fod chwyddiant yn 3.1% ar hyn o bryd mynegwyd barn ynghylch cywirdeb y ffigurau yn y tabl gan nodi y byddai angen eu diwygio i adlewyrchu'r lefelau chwyddiant presennol ac unrhyw arbedion effeithlonrwydd eraill y gallai fod eu hangen o ganlyniad i'r gyfradd uwch honno.

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor er y cydnabuwyd fod chwyddiant yn uwch nag y darparwyd ar ei chyfer yn y rhagolygon gwreiddiol, y byddai'r cynigion cyllidebol terfynol i'w cyflwyno i'r Cyngor ym mis Chwefror yn ystyried tueddiadau chwyddiant fel y bo'n briodol.

·        Cyfeiriwyd at wasanaeth mewnol Gofal Cartref a'r angen i wneud trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb staff. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd natur yr absenoldebau hynny wedi cael ei dadansoddi ac a oedd rhai'n gysylltiedig â straen.

 

Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig fod yr adran yn monitro lefelau salwch yn agos ac er bod straen yn ffactor mewn lefelau absenoldeb, roedd anafiadau cyhyrysgerbydol hefyd yn un o'r rhesymau mwyaf cyffredin dros absenoldeb, fel y gellid ei ddisgwyl oherwydd natur y gwasanaeth a ddarperir. Roedd gwaith yn cael ei wneud i ddadansoddi'r rhesymau dros salwch, boed y rheiny'n rhesymau cysylltiedig â gwaith neu'n rhesymau personol, ac roedd cymorth ar gael i'r holl weithwyr drwy bolisïau Adnoddau Dynol y Cyngor

 

Dywedwyd wrth y Pwyllgor hefyd fod meddalwedd Resource Link y Cyngor yn cael ei huwchraddio yn Ionawr 2018 ac y byddai hynny'n golygu bod modd dadansoddi absenoldeb staff yn fwy manwl a pha un a oeddent yn ymwneud â materion gwaith neu faterion personol. Cadarnhawyd hefyd y byddai astudiaeth beilot ynghylch absenoldeb cysylltiedig â straen yn cael ei chynnal yn y dyfodol agos a bod y Cyngor yn ystyried ffyrdd o fod yn fwy rhagweithiol o ran atal salwch lle bynnag y bo'n bosibl. 

·        Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Integredig, mewn ymateb i'r cynnig effeithlonrwydd i haneru nifer y pecynnau gofal bach erbyn 2020, fod y cynnig yn ceisio mabwysiadu'r egwyddor o helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi. Er enghraifft, petai anghenion rhywun yn rhai corfforol yn hytrach na rhai ymarferol, gellid gwneud hynny drwy ddarparu gwasanaethau iechyd galwedigaethol a ffisiotherapi. Felly roedd yr ethos yn seiliedig ar yr egwyddor o ddarparu'r lefel briodol o becyn ac efallai ni fyddai'r pecyn hwnnw'n gysylltiedig â gofal o reidrwydd.

·        Cyfeiriwyd at y cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau sy'n pontio'r cenedlaethau mewn partneriaeth â'r gwasanaethau oedolion yn Coleshill a Ffordd y Faenor a gwacáu'r safle dydd yn Cross Hands. Gofynnwyd am eglurhad ynghylch a oedd digon o le yn Coleshill a Ffordd y Faenor i ymdopi â'r newid.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu fod digon o lety ar gael a bod y cynnig yn seiliedig ar yr egwyddor o ddefnyddio adeiladau presennol yn fwy effeithlon.

·        Cadarnhaodd Cyfrifydd y Gr?p nad oedd y dyraniad cyllideb ar gyfer y Llinell Gofal yn Atodiad B i'r adroddiad yn adlewyrchu unrhyw newidiadau arfaethedig i'w darpariaeth na'r cynigion ar gyfer sefydlu cwmni hyd braich.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL:

 

5.1

Bod yr Ymgynghoriad ynghylch Strategaeth Cyllideb Refeniw 2018/19 – 2020/21 yn cael ei gymeradwyo

5.2

Bod y Crynhoad Taliadau ar gyfer y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cael ei gymeradwyo

 

Gofynnodd y Cynghorydd A. Davies fod cofnodion y cyfarfod yn cofnodi nad oedd yn derbyn tabl y Rhagolygon Ariannol Presennol yn eitem 4.1 o Strategaeth y Gyllideb gan ei fod yn credu bod y ffigurau ynddo yn anghywir o ystyried y cynnydd yn y gyfradd chwyddiant.

Dogfennau ategol: