Agenda item

CAFFAEL CYHOEDDUS YNG NGHYMRU

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor adroddiad ar Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru sy'n rhoi'r cyd-destun rheoleiddiol a'r cyd-destun polisi ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru.

 

Roedd yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith fod cyrff cyhoeddus, bob blwyddyn, yn gwario symiau sylweddol o arian ar brynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan y trydydd sector a'r sector preifat mewn proses a gaiff ei hadnabod fel caffael.  Mae caffael effeithiol yn cynnwys:

 

          cael nifer ddigonol o staff â chymwysterau priodol ac o strwythurau sefydliadol a pholisïau i reoli a llywodraethau gweithgarwch caffael;

          proses wedi'i chynllunio'n dda ar gyfer penderfynu beth sydd ei angen ar y corff cyhoeddus, gan gynnwys penderfynu sut y dylai'r corff cyhoeddus ddarparu gwasanaethau ac edrych ar ffyrdd amgen o gyflwyno gwasanaethau;

          dod o hyd i strategaethau a chaffael ar y cyd - bod â syniad da o sut y gall y corff cyhoeddus ddiwallu ei anghenion orau;

          rheoli contractau a chyflenwyr yn effeithiol; a

           phrosesau a systemau TGCh effeithiol a dibynadwy i gynnal y gwaith caffael.

 

Nododd y Pwyllgor fod Cyngor Sir Caerfyrddin, o ganlyniad i'r Gwiriad Ffitrwydd Caffael annibynnol a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2013-14, wedi sgorio'n is na'r cyfartaledd, a ddangoswyd yn Atodiad 3 yr adroddiad, sef Canlyniadau Gwiriadau Ffitrwydd Caffael a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod prosesau caffael Sir Gaerfyrddin wedi gwella'n sylweddol ers yr adolygiad yn 2013, ac o ganlyniad i adolygiad Trawsnewid i Wneud Cynnydd (TIC) roedd llawer o newidiadau'n cael eu gwneud gan gynnwys adran fwy strwythuredig.  Ychwanegodd ymhellach y byddai canlyniadau gwiriad ffitrwydd a gynhaliwyd eleni yn cael eu croesawu gan fod gan yr adran brosesau caffael mwy cadarn yn awr nag yn 2013/14.

 

 

 

 

 

Mewn ymateb i ymholiad yngl?n â recriwtio, esboniodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol fod recriwtio staff caffael cymwys yn broblem genedlaethol. Fodd bynnag, roedd y tîm caffael yn Sir Gaerfyrddin yn gweithredu ar y cyd ag adran gaffael Cyngor Sir Penfro, sydd yn galluogi'r ddwy adran i gadw'r profiad a'r wybodaeth sydd ganddynt eisoes ac adeiladu arnynt.

 

Esboniodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol ymhellach fod y system 'Atom' yn cael ei defnyddio i gofnodi data, a oedd yn galluogi'r tîm i gasglu a chofnodi ystod o wybodaeth y gellid ei defnyddio i ddarparu tystiolaeth.  Er mwyn egluro'r gwahanol systemau a ddefnyddid, cynigiodd y Pennaeth Refeniw a Chydymffurfiaeth Ariannol roi amlinelliad bras i'r aelodau o bob un o'r systemau.

 

Gofynnwyd sut oedd yr adran gaffael ar y cyd yn cael ei harchwilio.  Cadarnhaodd cynrychiolydd Swyddfa Archwilio Cymru y byddai archwiliadau ar y trefniadau ar y cyd yn y dyfodol yn cael eu cynnal ar y gwasanaeth fel endid cyfan / sengl.  Fodd bynnag, roedd gwaith parhaus yn cael ei wneud er mwyn cysoni'r gwahanol reolau caffael oedd gan awdurdodau lleol Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin.  Ychwanegodd Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Corfforaethol fod sgyrsiau'n digwydd ar hyn o bryd gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, sydd wedi mynegi diddordeb mewn ymuno â'r trefniant ar y cyd.

 

PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL dderbyn yr adroddiad.

 

 

Dogfennau ategol: