Agenda item

CWESTIWN GAN Y CYNGHORYDD EDWARD THOMAS I'R CYNGHORYDD EMLYN DOLE, ARWEINYDD Y CYNGOR

Mae’r banciau, yn arbennig gyda’r cyhoeddiad diweddar i gau canghennau yn Llandeilo a Rhydaman, yn effeithio ar wead a llesiant y cymunedau hyn ac yn rhoi’r busnesau bach a chanolig sy’n gweithredu yn ein cymunedau gwledig dan anfantais. Beth yr awgrymech chi y gallwn wneud i’w cael nhw i newid y penderfyniad a hefyd i atal rhagor o fanciau rhag cau?

 

Cofnodion:

Cafodd y Bwrdd Gweithredol y Cwestiwn â Rhybudd canlynol a gyflwynwyd gan y Cynghorydd E.G. Thomas i'r Cynghorydd E. Dole, Arweinydd y Cyngor:-

 

“Mae cau Banciau, yn enwedig y cyhoeddiad diweddar y bydd canghennau'n cau yn Llandeilo a Rhydaman, yn cael effaith ar lesiant cymdeithasol y cymunedau hyn ac yn golygu bod y Mentrau Bach a Chanolig eu Maint sy'n gweithredu yn ein cymunedau gwledig o dan anfantais. Beth allwch chi ei awgrymu ein bod yn ei wneud i wyrdroi'r penderfyniad a hefyd i atal rhagor o fanciau rhag cau?”

 

Ymateb gan y Cynghorydd E. Dole, Arweinydd y Cyngor:-

Y consensws rwy'n credu yw, hyd nes bod llywodraeth San Steffan yn cryfhau'r côd bancio, y bydd yn parhau ar yr un trywydd a bydd hyn wedyn yn golygu y bydd yn anwybyddu anghenion gwledig ein cymunedau. Mae cau'r banciau hyn yn beth da i'w wneud o'u rhan nhw.

Mae Jonathan Edwards AS ac Adam Price AC wedi gofyn ar sawl achlysur am gyfarfod yngl?n â hyn ac maent wedi gofyn i Brif Weithredwr NatWest am gyfarfod i drafod y ffordd mae'r banciau'n anwybyddu anghenion y cymunedau gwledig hyn.

 

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Banc i Gymru, fel bod modd, drwy'r Banc hwnnw, i gefnogi ein cymunedau gwledig yma.  Deilliodd hynny wrth gwrs o ganlyniad i'r newyddion fod Barclays yn cau'r banc olaf yn Llandysul ar ddiwedd y flwyddyn hon, sy'n golygu na fydd gan Landysul yr un banc mwyach.

 

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Bethan Williams, yng nghyd-destun cau'r banc hwn: "Yma mae gennym sefyllfa lle mae'r banc olaf yn Llandysul yn cyhoeddi y bydd yn cau ei ddrysau, a bydd y Swyddfa Bost yng nghanol y dref yn cau cyn hir ac yn symud i archfarchnad y tu allan i Landysul.”

 

Mae Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Roberts, hefyd wedi sôn am y banciau sydd wedi cau a'r effaith ar drefi ac ardaloedd gwledig cyfagos.  Mae'n gwneud y pwynt fod y trethdalwyr yn dal i fod yn berchen ar nifer o'r banciau hyn ac mae'n gofyn, yn y cyd-destun hwnnw, am i amodau gael eu gosod i'w hachub a fydd yn sicrhau, drwy'r berchnogaeth honno, fod ffordd o sicrhau parhad y gwasanaeth i ardaloedd gwledig.

 

Elw yw diwedd y gân i'r banciau, ac o ystyried y math o elw maent yn ei gyhoeddi bob blwyddyn, mae'n gywilyddus eu bod mor barod i anwybyddu anghenion y bobl hynny sy'n dibynnu ar y gwasanaethau. Rwy'n si?r y bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei adolygu yng nghyd-destun y Fforwm Gwledig dan arweiniad Cefin, ac fel rhan o'u gwaith allweddol yn y maes hwnnw maent yn dweud wrth gwrs mai'r duedd yw bod pawb yn symud i fancio ar-lein, ond pan nad oes band eang digonol yng nghefn gwlad Cymru, nid yw'r ddadl honno'n dal d?r. Felly rwy'n si?r bod hynny'n rhywbeth fydd yn cael ei ystyried fel rhan o'r Fforwm Gwledig. 

 

Yn bersonol, yn fy ward i, rwyf wedi gweld HSBC yn cau yn y Tymbl, ac mae gennym ni'r holl Aelodau yma yn y Siambr yr hawl i ymateb i hynny fel rhan o'r ymgynghoriad.  Cefais i ddim ymateb hyd yn oed wedi imi anfon llythyr atynt yn tynnu sylw at y ffaith, yn achos HSBC, nad oeddwn erioed wedi bod yn y banc hwnnw ar unrhyw adeg o'r dydd heb fod rhywun arall yno. Roedd y banc hwnnw yn brysur iawn bob amser. Ond eto fe'i caewyd er fy mod i wedi ymateb, bod Cynghorwyr eraill wedi ymateb, a hefyd ein bod ni fel Cyngor yn gallu ymateb i'r ymgynghoriad hwnnw. Dyna'r unig beth y gallwn ni ei wneud, ar wahân wrth gwrs i geisio edrych o ddifrif ar yr angen yng nghyd-destun y Fforwm a dod ag argymhelliad cadarn ger ein bron ni yma.

 

Ymddiheuriadau Edward, ond dyna'r unig ymateb y gallaf ei roi i chi heddiw, heblaw am gadw ati i annog Adam a Jonathan i roi pwysau ar y banciau, ac, o bosibl, edrych yn fanylach ar y côd bancio ac anghenion pobl ar draws Cymru, ble bynnag y maent yn cael eu gwasanaethau bancio.