Cofnodion:
3.1 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ganiatáu'r cais cynllunio canlynol yn amodol ar yr amodau yn Adroddiad/Atodiad y Pennaeth Cynllunio a/neu y rhoddwyd gwybod amdanynt yn y cyfarfod:-
3.2 PENDERFYNWYD YN UNFRYDOL ohirio ystyried y cais cynllunio canlynol er mwyn i'r Pwyllgor ymweld â'r safle:-
E/35356 |
Gwella'r mynediad presennol i gae i hwyluso mynediad i safle Lleoliad Ardystiedig â 5 carafán, tir Brynhyfryd, Heol Talyllychau, Llandeilo, SA19 7HU;
RHESWM: Er mwyn galluogi'r Pwyllgor i asesu gwelededda mynediad ar y safle/i'r safle.
Roedd y Pwyllgor, cyn penderfynu cynnal ymweliad safle, wedi cael sylw yn gwrthwynebu'r datblygiad arfaethedig, a oedd yn ailbwysleisio rhai o'r pwyntiau y manylwyd arnynt yn adroddiad ysgrifenedig y Pennaeth Cynllunio, gan gynnwys y pwyntiau canlynol:- · Troad cas anniogel oddi ar Heol Talyllychau lle bu sawl damwain, gan gynnwys rhai angheuol; · Un lle pasio yn unig sydd ar y ffordd un lôn i'r safle – ni fyddai ceir sy'n tynnu carafanau yn gallu bacio; · Nid oedd llwybr troed ar y ffordd un lôn, ond roedd yn cael ei defnyddio'n aml gan gerddwyr a marchogion a fyddai'n cael anawsterau wrth i gar neu garafán agosáu; · Mae bws ysgol wedi rhoi'r gorau i deithio ar hyd y ffordd oherwydd pryderon ynghylch diogelwch mewn perthynas â'r mynediad oddi ar Heol Talyllychau a'r ffordd un lôn; · Mae llwybr troed cyhoeddus ger y fynedfa wedi cael ei ddinistrio yn sgil y gwaith; · Mae'n gais ôl-weithredol ac mae'r berth a'r fynedfa'n gwbl wahanol i'r hyn yr oeddent yn flaenorol - mae'n rhy gymhleth ac mae'r berth wedi cael ei symud yn ôl; · Dim gwybodaeth am ddefnydd arfaethedig adeilad sydd wedi'i gynnwys yn y cais; · Gwelededd annigonol. |
Dogfennau ategol: