Agenda item

Y RHAGLEN MODERNEIDDIO ADDYSG - RHAGLEN AMLINELLOL STRATEGOL (RHAS) – DIWEDDARIAD BAND B

Cofnodion:

Ystyriodd y Bwrdd Gweithredol adroddiad am y Diweddariad ynghylch y Rhaglen Moderneiddio Addysg – Rhaglen Amlinellol Strategol – Band B, a oedd yn cynnwys y Rhaglen o Brosiectau, Cynnydd Band A hyd yn hyn, cyflwyno Rhaglen o Brosiectau ar gyfer Band B, gwybodaeth am gyllid a Model Buddsoddi Cydfuddiannol.

 

Cadarnhaodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod yr awdurdod yn cael yr holl gyllid Band B a oedd yn cyfateb i £129.5m er mwyn gwella ysgolion ar draws y sir.

 

Eglurodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod y paratoadau ar gyfer rhaglen genedlaethol Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi cychwyn yn 2010 drwy wahoddiad gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol gyflwyno Rhaglen Amlinellol Strategol.

 

 

 

Ers 2010 roedd y Bwrdd Gweithredol wedi cymeradwyo CDLl a ddiweddarwyd deirgwaith yn 2011, 2013 a 2015, a byddid yn parhau i fonitro'r cynllun bob dwy flynedd. Yn dilyn y broses gyflwyno gychwynnol, roedd 50% o Raglen Band A Sir Gaerfyrddin yn cael ei chyllido drwy grant gan Lywodraeth Cymru a 50% o adnoddau'r Cyngor ei hun.  Roedd y gwaith ar gyfer Band A i'w gwblhau erbyn 2019.

 

Dywedodd yr Aelod o'r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant fod rhai newidiadau wedi bod i'r ddogfen ers llunio'r adroddiad a chyfeiriodd at Adran 8, Cais am gyllid Model Buddsoddi Cydfuddiannol. Bellach mae Cynlluniau Ardal Llandeilo a Rhydaman wedi'u disodli gan brosiectau Ysgol Gwenllian, Ysgol yr Hendy ac Ysgol Gymraeg Rhydaman.  Esboniodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant ymhellach fod yr adroddiad hwn wedi'i gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Gorffennaf 2017 a chadarnhaodd fod newidiadau wedi bod ers hynny o ran y cynnig i Ysgolion Cynradd Llandeilo a Rhydaman. Cadarnhawyd y byddai'r ddau gynllun yn cyflwyno cyfnod sylfaen cyfrwng Cymraeg gydag opsiwn ym mlwyddyn 3 i ddewis ffrwd Gymraeg neu Saesneg, yn amodol ar ymgynghori.

 

Gwnaed cyfeiriad at Adran 9 yr adroddiad, a nodai brosiectau blaenoriaeth Band B. Mewn ymateb i ymholiad ynghylch y cynlluniau i ymgynghori â staff a llywodraethwyr ysgol, dywedodd Rheolwr y Gwasanaethau Moderneiddio y byddai ymgynghoriad anffurfiol gyda staff a llywodraethwyr ysgol (tebyg i'r un ar gyfer Band A) yn cychwyn ar ddechrau'r rhaglen, ac y byddai ymgynghoriad ffurfiol, ehangach yn cael ei gynnal fel rhan o'r broses trefnu ysgolion.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai'r rhaglen yn cael ei chynnal dros y 7 mlynedd nesaf ac wrth i amserlenni dynhau, byddai ymgynghori'n digwydd ag aelodau lleol a'r gymuned ar gyfnodau penodol yn ystod y rhaglen. 

 

Cynigiodd y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant drefnu gweithdy ar gyfer y Cynghorwyr i gyd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o'r cynlluniau a darparu cyfle i drafod. Cytunodd yr Aelodau o'r Bwrdd y byddai gweithdy'n fuddiol.

 

PENDERFYNWYD:

 

11.1     bod yr adroddiad ar Ddiweddariad y Rhaglen Moderneiddio Addysg – Rhaglen Amlinellol Strategol – Band B yn cael ei dderbyn;

11.2       bod yr argymhellion a wnaed yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu - Addysg a Phlant ar 27 Tachwedd yn cael eu nodi;

11.3         yn amodol ar gynnwys y newidiadau, bod Rhaglen Amlinellol Strategol ddiweddaraf y Rhaglen Moderneiddio Addysg, gan gynnwys rhaglen fuddsoddi wedi'i blaenoriaethu a'i diweddaru fel rhan o Fand B rhaglen  Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cael ei chymeradwyo;

11.4       bod dewis prosiectau Band B i ymchwilio ymhellach iddynt o dan y Model Buddsoddi Cydfuddiannol yn cael ei gymeradwyo;

11.5       cymeradwyo trefniadau ariannu ar gyfer cyflwyniad Band B.

 

 

Dogfennau ategol: